Wel, mae rhywun yn gorfod gwneud…be am sefyll fel aelod Senedd Cymru? (o’r archif) – Gruffydd Meredith

(Or archif:  papur Y Cymro, rhifyn Hydref 2018) gan Gruffydd Meredith Wedi cael digon o glywed ein gwleidyddion ym Mae Caerdydd a thu hwnt yn pratlo mlaen am ddatblygu cynaliadwy, tryloywder, caffael a delifro; ac isio gweld mwy o siarad strêt am bethe sydd yn mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i’n gwlad a’i phobol?  […]

Continue Reading

‘Smart meters’ – y ffeithiau a’ch hawl chi i’w gwrthod yn llwyr (o’r archif) – Gruffydd Meredith

(O’r archif: papur Y Cymro, rhifyn Gorffennaf 2018) gan Gruffydd Meredith Teclynnau eraill sydd yn defnyddio technoleg di wifr ac sydd yn creu consarn i lawer am breifatrwydd a diogelwch yw Smart Meters neu ‘Mesuryddion Deallus’ i roi’r bathiad Cymraeg iddynt.  Y bwriad gan y cyflenwyr a’r awdurdodau yw eu bod yn cymeryd lle yr […]

Continue Reading

Cip ar y blynyddoedd o’n blaen mewn gŵyl hynod ddiddorol… ond plîs peidiwch sôn am lol gwirion fel hawliau cyfartal i robotiaid.. – gan Gruffydd Meredith

 gan Gruffydd Meredith Adroddiad o ŵyl ‘Gwlad – Gwŷl Cymru’r dyfodol’ – gŵyl i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli swyddogol yng Nghymru, ac i edrych  ymlaen i’r dyfodol. Cynhaliwyd ‘Gwlad – Gŵyl Cymru’r dyfodol’ lwyddiannus yn Y Senedd ac adeilad y Pierhead. Cafodd yr ŵyl ei chynnal dros gyfnod o bum diwrnod a’i threfnu gan […]

Continue Reading

Yr ymgyrch ddiystyr i ‘stopio newid hinsawdd ’ – twyll arall ein hoes sydd wedi troi mewn i gwlt selotaidd – Gruffydd Meredith

gan Gruffydd Meredith Yr argyfwng yn ôl amryw yw bod yr hinsawdd yn newid a bod angen ‘rhoi stop ar hyn’. Pan ystyrir ystyr y geiriau a’r sentiment yma mi ddylai pob person gweddol synhwyrol o leiaf synhwyro mai nonsens disynnwyr a diystyr yw gosodiad o’r fath. Mae’r hinsawdd wastad wedi newid ac mae newidiadau […]

Continue Reading

#steddfod2019 Y Cymry blaenllaw sy’n ffurfio Cyngor Cyfathrebu Cymru

Cymry blaenllaw yn ffurfio Cyngor Cyfathrebu cyntaf Cymru Mae nifer o Gymry blaenllaw, gan gynnwys Angharad Mair ac un o gyfranogwyr hollbwysig cyfarfodydd cynnar Cyfeillion Y Cymro yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fôn 2017 sef y cyn-gynhyrchydd teledu Eifion Glyn, wedi ffurfio’r Cyngor Cyfathrebu cyntaf yn hanes Cymru. Y corff hwn fydd yn rheoleiddio’r maes darlledu […]

Continue Reading

Oes posib fod y Gymraeg, iaith frodorol Prydain, yn dechrau ailafael yng ngwledydd yr ynys a thu hwnt? – Gruffydd Meredith

gan Gruffydd Meredith ’De ni gyd wedi clywed y trafod syrffedus am ddyfodol y Gymraeg. Oes, mae heriau yn wynebu’r Gymraeg, yn arbennig yr allfudo o Gymru, y mewnlifiad direolaeth o weddill Prydain a thu hwnt, a pholisi Llywodraeth Cymru i adeiladau degau o filoedd o dai dros Gymru nad sydd yn rhoi unrhyw flaenoriaeth […]

Continue Reading

Diwrnod #RhAGorol i Addysg Gymraeg yn Y Barri

Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi llongyfarch Cyngor Bro Morgannwg ar benderfyniad hollbwysig i agor ysgol Gymraeg fel rhan o ddatblygiad y Glannau yn Y Barri. DWBLI DARPARIAETH Daw hyn wrth i’r Cabinet gymeradwyo gweithredu cynnig i ehangu darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg yn y Barri, trwy gynyddu capasiti Ysgol Sant Baruc o 210 i 420 […]

Continue Reading

Pawb Dan Un Faner #Merthyr Tudful : gorymdaith nesaf @AUOBCymru

Yn dilyn llwyddiant gorymdaith AUOB Caernarfon dros y penwythnos a welodd 10,000 o bobl yn dod i’r Dre, mae AUOB Cymru wedi cyhoeddi mai Merthyr Tudful bydd lleoliad eu gorymdaith nesaf ar Ddydd Sadwrn 7fed o fis Medi eleni.  Yn ôl AUOB Cymru, mae’n dechrau dod i’r amlwg bod “anfodlondeb gyda methiannau San Steffan yn tyfu’n gyflym…” […]

Continue Reading