Be yn union yw Cywirdeb Gwleidyddol, be yw ei bwrpas a pham ei fod yn beryglus i bawb? – Gruffydd Meredith

Barn

gan Gruffydd Meredith

O’r hyn i mi ei weld, mae diwylliant cywirdeb gwleidyddol ac identity politics wedi bod ar eu hanterth ers chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Dwi’n credu y gallwn ei alw wrth enw arall hefyd – Marcsiaeth ddiwylliannol neu Neo Farcsiaeth. Rhywbeth wedi ei gynllunio i danseilio normau cymdeithas a gwledydd er mwyn gosod seiliau ar gyfer chwyldro rhyngwladol llywodraeth ganolog ‘Un Byd’ newydd.

Ar ôl methiant y chwyldro Marcsaidd gwreiddiol i uno holl weithwyr y byd yn erbyn eu cyflogwyr a’r cyfalafwyr, daeth criw o academyddion at ei gilydd i geisio creu symudiad newydd i annog chwyldro rhyngwladol newydd.

Un o brif gredoau’r sefydliad a’i gefnogwyr oedd bod cred neu freuddwyd Farcsaidd wreiddiol Karl Marx, Friedrich Engels a Lenin o uno a chodi yn erbyn eu cyflogwyr wedi methu ac felly bod angen creu mudiad newydd a mwy effeithiol yn ei le – mudiad nad oedd wedi ei seilio ar chwyldro ‘y gweithwyr’ ond yn hytrach ar danseilio ‘gormes diwylliannol y gorllewin’ drwy harneisio a manipiwleiddio’r diwylliant ei hun.

Credai’r aelodau bod gwledydd a diwylliant y gorllewin – Ewrop ac America yn enwedig – yn naturiol ormesol. Yn eu tyb nhw roedd gwerthoedd y gorllewin, megis rhyddid yr unigolyn a rhyddid barn yr unigolyn, cenedlaetholdeb, y teulu traddodiadol a’r gwerthoedd Cristnogol sydd yn gynhenid i ddiwylliant moesol Ewrop; yn arbennig o ddrwg.

Symudodd y sefydliad a’r rhan fwyaf o’i aelodau amlwg i’r Unol Daleithiau. Unwaith yn yr UDA, ymledodd eu dylanwad i’r prifysgolion. Yn ôl y Marcswyr newydd, hefyd, roedd ‘patriarchaeth’ a chyfalafiaeth bob dydd yn dal pawb a phopeth yn ôl ac ar fai am bopeth, ac hynnu yn parhau i fod felly.

 

Y sefyllfa erbyn heddiw:

Roliwch ymlaen i heddiw, dros hanner canrif yn ddiweddarach, ac yn fy marn bersonol i, mi allwn weld, hyd yma, fod y peirianwyr cymdeithasol yma wedi bod yn dra llwyddiannus yn eu hymgyrchoedd i drawsnewid diwylliant a chymdeithas.

Erbyn hyn mae diwylliant cywirdeb gwleidyddol a’r ymosodiad ar ryddid barn wedi ei sefydlu ei hun a bellach i’w weld yn rhan greiddiol o brifysgolion y gorllewin a thu hwnt yn enwedig. Gwelir safe zones a rheolau ‘dim platfform’ yn codi o fewn y prifysgolion a thu hwnt, gwaherddir nifer o siaradwyr gwadd er mwyn ‘gwarchod teimladau’r myfyrwyr rhag barnau neu safbwyntiau gwahanol a all eu hypsetio’ – gan arwain llawer i nodi mai dyna sut bod nifer o’r genhedlaeth a ddisgrifir yn aml fel cyfuniad o blu eira a SJW’s (Social Justic Warriors) wedi ei chreu. Cenhedlaeth gyda nifer sydd yn hapus i weiddi a beirniadu eraill ond yn gwbl analluog i ddelio gyda gwahaniaethau neu safbwyntiau sydd yn wahanol i’w daliadau nhw. Ac fod unrhyw farn iddyn nhw ei benderfynu i fod yn ‘annerbyniol’ unai yn cael ei wahardd neu ei labelu yn ‘iaith sy’n annog casineb’ a’i sensro.

Os oes rhywle y dyle confensiynau, agweddau a daliadau rhywun gael eu herio a’u procio, ac y gellir dadlau ac ystyried pob syniad o dan yr haul er mwyn datblygu gallu a sgiliau’r unigolyn i feddwl a chanfod barn ei hunan yn y byd, prifysgolion ydi un o’r llefydd amlwg hynny yn fy marn i.

Ond dim mwyach mae’n ymddangos. Rwan, ynghyd ag ysgolion, maent yn ymdebygu’n fwy i ganolfannau indoctrineiddio Orwelaidd lle mae’n rhaid i bawb feddwl yr un fath neu gael eu cosbi am wrongthink os nad ydynt yn cydymffurfio.

A thra bod y materion gwleidyddol gywir yma yn cymeryd mwy a mwy o amser ac egni pobol a gwleidyddion, mae’r materion mawr megis hawliau sylfaenol yn ymwneud â phreifatrwydd rhag y surveillance state, sut mae’r system arian a bancio wir yn gweithio, rhyfeloedd anghyfreithlon, pydredd a thwyll, a neo ryddfrydiaeth economaidd y globaleiddwyr corfforaethol trachwantus, yn cael eu hanwybyddu.

O’r hyn dwi yn ei weld, y realiti yw mai cael gwared ar un system a’i ddisodli ag un llawer gwaeth yw bwriad y Neo Farcswyr – p’unai ydyn nhw’n sylweddoli hynny neu beidio: system fydde yn cael ei reoli gan decnocratiaeth corfforaethol, wyddonol a thechnolegol fyd-eang – a ni blebs oddi tanynt yn cael ein rheoli a’n ‘ffarmio’ mewn system gomiwnyddol gan y pwerau corfforaethol unbennaidd yma uwch ein pen.

Bydd amryw yn anfodlon ystyried bod hyn i gyd yn digwydd yn fwriadol. Ond p’unai ei fod yn fwriadol neu beidio mae o yn mynd mlaen beth bynnag, yn fy marn i. Mae angen i ni ddeall fod y rheoli yma dros ryddid barn a rhyddid meddwl yn fygythiad i bawb, beth bynnag eu daliadau.

Mae’n rhaid ymladd dros ryddid barn pawb, gan gynnwys rhyddid barn pobol rydym yn anghytuno â nhw. Drwy ladd a rhoi stop ar farn eraill rydym yn lladd ein hawl ein hunain i fynnu rhyddid barn.

Mae cymdeithas rydd, waraidd ac agored yn dibynnu ar y rhyddid creiddiol yma i oroesi a ffynnu. Ac mae angen rhoi sdop ar y dotalitariaeth ffug rhyddfrydol yma drwy annog pŵer a gallu yr unigolyn i ddysgu a dirnad ac i feddwl dros ei hun. Ac i wrthod gormes, a’i ymladd nes ei fod yn diflannu fel niwl y bore.

Prif lun gan Jennifer Moo / CC BY-ND 2.0

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau