Etholiad – pa etholiad?
Cyn i’r holl newidiadau ffeindio’u lle priodol hyd yn oed mae rhifyn Mai Y Cymro yn syllu i’r gorwel pell!
Gan fod dyddiad y pleidleisio mawr ac amserlen argraffu’r papur wedi eu gwnïo’n un, doedd dim modd amlygu’r canlyniad. Ond ta waeth am hynny – a chyn i’r etholedig gael cyfle i gynefino – mae galw arnynt i wireddu sawl addewid yn barod … ac yn gyflym.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn gofyn am weithredu heb fymryn o oedi ar saith blaenoriaeth sy’n hollbwysig i siâp dyfodol ein gwlad. Mae ambell un – megis Cymreigio ein cyfryngau a chreu tegwch yng ngwallgofrwydd ein marchnad dai – wedi bod yn destunau trafod ar ein tudalennau ers misoedd. Fe fydd chwyddwydr ambell i fudiad ac ymgyrch ar ein Senedd newydd.
Mae’r ymosodiad ‘graffiti’ hiliol ar swyddfa’r Cyngor Llyfrau dan y lach ac ambell un yn ein hatgoffa mor denau yw haen waraidd ein cymdeithas – hyd yn oed yng Nghymru – â duwch o’r fath oddi tano.
Mae Prif Weithredwr newydd Cyngor Gwynedd yn cael ei groesawu, wrth iddo gyfaddef y bydd y blynyddoedd nesaf yn siŵr o gyflwyno sawl her.
Ac mae’r ffrae am fodolaeth ‘Cymraeg ail iaith’ mewn unrhyw ffurf yn dal i rygnu ymlaen â chyhuddiad mai ‘geiriau gwag’ oedd yr addewid i’w ddileu.
Hynt chwedlonol un o sefydliadau hynodaf ei fro, Bois y Bont, sy’n cael sylw yng ngholofn Lyn Ebenezer y mis hwn wrth iddo gofio iddynt droi heclan eisteddfodol yn gelfyddyd pur.
Pwysigrwydd cofleidio natur anrhagweladwy bywyd yw pwynt canolog Esyllt Sears tra bod Cadi Edwards druan yn dioddef o’r firws melltigedig ar ôl llwyddo i ddawnsio o’i ffordd hyd yn hyn.
‘Wrth i gabinet Boris Johnson geisio’n mygu ni gyd â baner yr undeb, mae datganoli mwy o rym i’n Senedd yn bwysicach nag erioed’ – meddai Dylan Wyn Williams yn ei golofn y mis hwn wrth sôn am yr effaith Llundeinig ar bob un o’n cyfryngau.
Y Gynghrair newydd Ewropeaidd – sydd fel petai wedi marw cyn cael byw – yw pwnc Sioned Dafydd ar y dudalen gefn. A yw pobl yn dechrau gwrando ar y ffans o’r diwedd tybed?
Mae rhifyn Mai Y Cymro ar gael nawr o siopau ar draws Cymru. Neu i dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.
Mae copi PDF digidol ar gael hefyd, cysylltwch â ni: gwyb@ycymro.cymru neu ewch i safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.