Mewn lluniau: Rhai o fandiau Gŵyl Y Dyn Gwyrdd 2023

Mi oedd Gŵyl y Dyn Gwyrdd ger Crughywel yn llwyddiant arall eleni gydag oddeutu 25,000 o bobol yn mynychu eto’r flwyddyn yma. Y prif bennawd-fandiau oedd Self Esteem, Devo (mewn glaw trwm yn pistillio dros flaen y llwyfan) a First Aid kit. Bandiau eraill wnaeth ddenu’r torfeydd oedd Young Fathers, Confidence Man ac Amyl and […]

Continue Reading

Cynhyrchiad cyntaf Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd

Bydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn perfformio ei cynhyrchiad cyntaf ers ail-lansio’r cwmni y llynedd. Dan ofalaeth greadigol y cyfarwyddwr Angharad Lee a’r Cyfarwyddwyr Cerdd Kiefer Jones a Nathan Jones, bydd Y Cwmni yn perfformio cynhyrchiad newydd o ‘Deffro’r Gwanwyn’ gan Daf James. Meddai Branwen Davies, Trefnydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd: “Mae Deffro’r […]

Continue Reading

Cymdeithas yr Iaith yn lansio partneriaeth gyda TUC Cymru

Mae Cymdeithas yr Iaith yn edrych ymlaen i lansio partneriaeth gyda Chyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) mewn cam i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Ar stondin y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 2.30yh heddiw (Iau Awst 10) bydd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, a Siân Gale, […]

Continue Reading

Geraint Jones yn ennill Medal Goffa Syr TH Parry-Williams

Geraint Jones o Drefor sy’n derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.  Cyflwynir y Fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc. Dyn ei filltir sgwâr yw Geraint Jones, a’r filltir honno yw pentref Trefor, […]

Continue Reading

Cymru a Chernyw i gydweithio ar feysydd sy’n gyffredin rhyngddynt

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Cernyw wedi llofnodi cytundeb i gydweithio’n agos ar feysydd sydd o ddiddordeb i’r naill a’r llall. Yng Nghaerdydd heddiw, llofnododd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ac Arweinydd Cyngor Cernyw, Linda Taylor, gytundeb cydweithio sy’n nodi’r cynllun gweithredu pum mlynedd. Bydd Cytundeb Cydweithio Treftadaeth Geltaidd Cernyw-Cymru yn canolbwyntio ar bedwar maes […]

Continue Reading

Pulp yn perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf mewn chwarter canrif

Cafwyd perfformiad arbennig gan Pulp o flaen oddeutu 7000 o bobol yn y CIA yng Nghaerdydd yn gynharach heno, gydag ymateb trydanol gan y gynulleidfa a dau encore ar ddiwedd y noson. Hwn ydi gig cyntaf y band yng Nghymru ers dros chwarter canrif. Chwaraeodd y band ei holl glasuron o’r 90’au; Common People, Disco […]

Continue Reading