Coronafeirws. Dyna oedd y gair cyntaf ddaeth i fy meddwl wrth i fy ngwraig ddechrau pesychu ac ymdrechu i anadlu. Ffonion ni 111, i â’r cyngor ar y pryd, a’u cyngor nhw oedd ffonio ambiwlans. Wel, dyna beth wnaethon ni, am ddeg o’r gloch yn y nos. Daeth yr ambiwlans … deg awr a hanner ar ôl inni ffonio! Cytunodd y parafeddygon mai Covid-19 oedd y diagnosis mwyaf tebygol. Eu cyngor nhw oedd aros gartref a ffonio am ambiwlans eto pe bai cyflwr fy ngwraig yn gwaethygu.
Erbyn y nos roedd symptomau arna i hefyd. Es i i’r gwely, a gan fod apnoea cwsg arna i (cyflwr sy’n amharu ar fy ngallu i anadlu wrth i fi gysgu), defnyddiais i fy mheiriant CPAP (continuous positive airway pressure) fel arfer i gadw’r aer yn llifo i fy ysgyfaint. Ond wrth i fi godi yn y bore a thynnu mwgwd y CPAP y bore wedyn, roeddwn i’n teimlo fel fy mod i’n ceisio anadlu drwy welltyn! Diolch byth bod y peiriant CPAP gyda fi, achos roedd angen i fi ei ddefnyddio sawl gwaith dros y dyddiau nesaf i helpu fi anadlu.
Fel pan drefnon ni gyda’r archfarchnad i ddod â’n siopa i’r tŷ, ond roedd problem: doedden nhw ddim ym gallu dod a’r bagiau at y stepen ddrws, felly bu raid i fi gario popeth o waelod yr ardd ffrynt lan i’r tŷ, yn pesychu’n wael yr holl ffordd lan. Yn ôl ar y CPAP i fi wedyn, felly! Ond diolch byth mae’r ddau ohonom ni’n gwella erbyn hyn. Cymerwch ofal, bawb – a golchwch eich dwylo!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.