Lleisiau amrywiol yn trafod cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy

Newyddion

Dywed Gwrthryfel Difodiant (XR) Aberteifi eu bod wrth eu bodd â’r ymateb i Gynulliad y Bobl a gynhaliwyd ar-lein ym mis Mehefin.

Roedd dros 150 o bobl yn rhan o’r cyfarfod, nifer ohonynt na fyddai yn aml yn yr un cyfarfod: ffermwyr (rhai wedi ymddeol a rhai prysur), ecolegwyr, tyddynwyr, gwleidyddion, masnach-arddwyr, cynghorwyr bwyd, a gwerthwyr bwyd. Yn ogystal â chlywed Elin Jones AS ac XR Aberteifi a oedd yn cynnal y digwyddiad ar y cyd, a sgyrsiau byr gan yr NFU, FUW, ecolegydd, garddwriaethwyr organig, yr RSPB, cynrychiolwyr bwyd Cymru, dŵr a llifogydd, a Ben Lake AS roedd trafodaethau grŵp.

I lawer, Cynulliad y Bobl hwn oedd eu profiad cyntaf o Ddemocratiaeth Fwriadol, sydd yn rhoi cyfle i wrando ar arbenigwyr ac yna trafod mewn grwpiau bach fel bod modd gwrando ar farn pob unigolyn. Trafodwyd systemau addas o ffermio cynaliadwy a sut i fynd ati i’w rhoi ar waith. Er i’r trafodaethau amrywio rhoddwyd pwyslais ar amaethyddiaeth a defnydd tir yn yr ystyr ehangaf a sut y gallai’r system bresennol fod yn fwy cynaliadwy yng Ngheredigion.

Roedd yna lawer o argymhellion yn ymwneud â meysydd amrywiol iawn, o addysg i fynediad haws i ffermio. Wedi crynhoi’r argymhellion byddant yn cael eu danfon at yr holl gyfranogwyr, Cynghorwyr, Aelodau o’r Senedd ac unrhyw un arall sy’n dymuno eu gweld.

“Dyma hanfod democratiaeth agored. Nawr mae angen i ni adeiladu arno i wneud newid go iawn a pharhaol ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Gall cynulliadau tebyg ein helpu i adeiladu consensws yn ein hangen brys i ddod o hyd i ffordd ymlaen i atal newid peryglus yn yr hinsawdd.” meddai Sarah Wright ar ran Gwrthryfel Difodiant.

Teimlai llawer o’r mynychwyr mai dim ond dechrau’r daith oedd y cyfarfod a bod angen cadw’r drysau yn agored i drafodaeth gadarnhaol, a bu sawl yn un siarad ymysg ei gilydd wedi i’r Cynulliad swyddogol ddod i ben.

Dywedodd Elin Jones AS ar Twitter:

‘Pe tasen ni wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus i drafod amaeth cynaliadwy mewn neuadd bentref rywle rhwng Llanon a Llanarth, yna fydden ni ddim wedi cael 150+ i gyd mewn un lle, gyda siaradwyr gwych, ymneilltuo i grwpiau bach a phopeth drosodd mewn 2 awr. Ond digwyddodd heno ar Zoom yng Ngheredigion.

Cyfarfod adeiladol gyda lleisiau amrywiol ond undod pwrpas – dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd yng Ngheredigion.
Dechrau trafodaeth ddefnyddiol iawn. Dechrau sgwrs wych. A gweithredu.
Diolch i’r trefnwyr, XR Aberteifi, i’r NFU, FUW, CFfI, Ben Lake, cynghorwyr, ffermwyr, cynhyrchwyr, gwerthwyr, a phawb. Cychwyn trafodaeth fuddiol iawn.’

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau