Mae cyfyngiadau a newidiadau diweddar wedi effeithio ar bawb yn ei ffordd. Dyma sut mae hi ar Eirian James, perchennog siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon:
Dwi’n deffro yn y bore ac am eiliad neu ddau mae popeth yn normal, wedyn daw’r sylweddoliad bod o ddim, bod popeth wedi newid. Fatha galar, mae’r meddwl yn cymryd ‘chydig o amser i ddal fyny gyda’r realiti.
Drwy gadw’n brysur dw i ddim wedi rhoi lot o amser i feddwl a phoeni, ond mae gwrando ar y radio yn y bore a gwylio’r teledu yn y nos yn llenwi fi ag ofn a phryder, ac yn gwneud i mi ama ydw i’n neud y peth cywir, yn y ffordd iawn, ydi mynd i’r siop yn ‘essential‘?
Ac eto, mae’r ymholiadau, y ceisiadau am help gan ysgolion a rhieni sy’n addysgu o adre a phobl sy’n gaeth i’w cartrefi sy’n chwilio am rwbeth i’w helpu i ddianc o’r creisis am ennyd bob dydd yn dal i ddod.
Diolch i’r drefn mae gennym gymdogion gwych, a thros yr wythnosau diwethaf ‘da ni wedi cyd-drafod a chyd-benderfynu ar y ffordd ymlaen o dydd i ddydd ac o wythnos i wythnos. ’Da ni wedi cefnogi’n gilydd – yn ymarferol ac yn emosiynol. Sut i gael pobl i gadw pellter saff pan oedd y siopau ar agor, sut i drefnu dosbarthu llyfrau yn lleol a rhannu dilifyris (pan yn saff ac ymarferol)… rhannu dagrau – a chwerthin. Trafod y pethau ymarferol – rhent, trethi, y dyfodol…. Mae’r cyfnod nesa yn ansicr iawn i ni i gyd, a wrth gwrs, lles a iechyd pawb sy flaena yn ein meddyliau, ond os down ni drwyddi, ’da ni’n ffyddiog y byddwn ni’n gryfach fel pobl ac fel cymuned o siopau bach annibynnol.
Mae’r BA – undeb y llyfrwerthwyr – hefyd wedi bod yn rhoi arweiniad a chefnogaeth ddyddiol amhrisiadwy i ni lyfrwerthwyr annibynnol, a dwi’n teimlo’n falch o fod yn rhan o’r gymuned hon o lyfrwerthwyr annibynnol hefyd.
Rhannwch eich profiad gyda ni – gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.