Mae cnoi cil am ambell bwnc llosg cyfredol ar dudalennau rhifyn Ebrill Y Cymro.
Un o’r amlycaf yw’r teimlad nad yw ein hiaith yn cael cyfle teg i ffynnu ym myd busnes. ‘Byw ar friwsion y byd Prydeinig’ fyddwn ni am byth meddai’r colofnydd Gari Wyn Jones, os na allwn ni ddyrchafu’r gwerth sy’n cael ei roi i entrepreneuriaeth a lle’r iaith yn natblygu hynny. Os na wnawn ni hynny meddai: ‘bydd yr iaith yn perthyn yn egsgliwsif i’r sector gyhoeddus, y trydydd sector a’r byd dethol eisteddfodol a chyfryngol.’
Mae difrifoldeb argyfwng y farchnad dai yn dal sylw eto y mis hwn wrth i ymateb Llywodraeth Cymru iddo hyd yn hyn gael ei farnu’n chwerw. Mae’n ‘annigonol’ yn ôl Cymdeithas yr Iaith sydd yn galw eto am ymyrraeth bendant a chwim ar fater sydd yn cael ei weld gan lawer yn cael effaith mwy dinistriol o fis i fis.
Mae’r ymgyrch i greu cyfryngau gwirioneddol Gymreig ar ein cyfer hefyd yn cael ei drafod eto – a rŵan gyda channwyll o obaith ar ôl i un o bwyllgorau’r Senedd ddweud bod rhaid i Gymru gael mwy o lais dros yr hyn sy’n cael ei gynnig.
Ac mae’n rhaid datganoli seilwaith rheilffyrdd Cymru er mwyn taclo tanariannu hefyd, yn ôl adroddiad newydd sydd yn datgan i ni golli gwerth £500m o fuddsoddiad mewn degawd am nad ydyw’n fater wedi’i ddatganoli
Ymestyn y cof dros drigain mlynedd mae’r colofnydd Lyn Ebenezer er mwyn clodfori campwaith Caradog Pritchard – ‘Un Nos Ola Leuad’ – a chofio mai cymaint oedd ei awydd i ddarllen y nofel ar y pryd iddo aberthu ei awr ginio i fod yn ei chwmni.
Herio cymdeithas lle mae rhywbeth mor syml â cherdded adref yn gallu bod yn farwol i ferched mae’r colofnydd Cadi Edwards wrth ofyn pa hyd allwn ni barhau fel yr ydym heb i bethau newid.
Does dim awydd am raglenni teledu a thrafferthion diddiwedd y firws yn rhan ohonynt ar y colofnydd Dylan Wyn Williams. ‘Rhowch i mi raglenni o fyd di-covid plîs’ meddai …o’r dyddiau hyfryd yna a fu!’
Gofyn – wrth edrych i niwl hanes – mae Mel Hopkins: a oedd ein cyndeidiau ymysg y cyntaf ar ynysoedd Prydain i dderbyn y ffydd Gristnogol?
Ac yn ôl yr arfer mae sylw i lyfrau newydd, moduro, garddio, cerddoriaeth, a straeon newyddion o sawl rhan o Gymru.
Bydd Y Cymro ar gael o ddiwedd yr wythnos yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, nifer o siopau’r stryd fawr a garejis ar draws Cymru. Neu i dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.
Mae copi PDF digidol ar gael hefyd drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru neu ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.