Gan Cadi Gwyn Edwards
Mae’n anodd meddwl am bwnc i ‘sgwennu amdano weithiau, yn enwedig yn ystod pandemig byd-eang a chithau wedi bod yn gwneud dim heblaw darllen llyfrau rhamant a gwylio dramâu ar y teledu!
Dwi wrth fy modd yn ymgolli mewn llyfr am ddau berson yn disgyn mewn cariad ac yn goresgyn pob rhwystr, a dwi hefyd yn dotio ar wylio actorion yn esgus bod yn ddoctoriaid neu’n blismyn, ac yn dod o hyd i ddatrysiad i broblem bob tro yn ddi-ffael.
Ond, tydi bywyd go iawn ddim yn gweithio fel yna a tydi hi ddim mor hawdd dod o hyd i ateb sydd yn plesio pawb.
Dwi’n trio cadw’r golofn yma’n ysgafn ar y cyfan, trio bod yn bositif, ond mae’r byd ar dân a chyn hir mi fyddwn ni gyd wedi llosgi. Mae eithafion wedi troi yn arferol a does yna ddim llais i’r rheini sydd yn sefyll rywle yn y canol.
Dwi’n sôn am wleidyddiaeth, am ffydd, am gredoau personol, am farn. Yr unig beth dwi’n ei weld ym mhob man yw casineb, creulondeb ac ofn. Ofn dweud gormod, ofn mynd yn groes i’r graen. Mae’r lleiafrif yn sgrechian nes i ni feddwl mai eu barn eithafol nhw yw’r unig farn sydd o bwys, yr unig farn cywir. Mae’r cyfryngau, sydd i fod yn ddiduedd, yn tawelu unrhyw agenda sydd yn erbyn eu nod personol nhw.
‘…(ac) mae’r cyfryngau, sydd i fod yn ddiduedd, yn tawelu unrhyw agenda sydd yn erbyn eu nod personol nhw’
Dwi’n teimlo fel dafad, yn dilyn y dorf heb wybod yn iawn pam, ond ofn peidio rhag i mi gael fy sathru. Pan aeth Dominic Cummings ar y daith enwog a dorrodd rheolau clo mawr y Llywodraeth, roedd y cyfryngau eisiau ei groeshoelio ac mi oedd eu triniaeth ohono yn ffyrnig a hyll.
Peidiwch â’m camddeall, roedd yr hyn a wnaeth yn hollol anghywir, ond, ni all y cyfryngau fod yn gandryll gydag ef am dorri’r rheolau â hwythau fel sardîns gyda’u camerâu tu allan i’w gartref, hefyd yn torri’r rheolau mewn ffordd llawer mwy peryglus. Rhagrith yw rhywbeth fel yna. Yn waeth fyth, mae’r cyfryngau yn dangos dicter pur tuag at Cummings – dyna’r unig beth ar y newyddion am ddyddiau, doedd dim posib dianc rhagddo.
Ond ble mae’r ffyrnigrwydd gwenwynig tuag at eraill?Mae yna deuluoedd wedi eu rhwygo yn ddarnau gan gasineb, gan bobl afiach, mae yna bobl ddieuog yn gwaedu. Dwi wedi cael digon.
Mae angen i ni sydd yn y canol, ni sydd yn gweld yr holl erchylltra ond yn dweud dim, ni sydd ofn cael ein barnu gan y lleiafrif ffyrnig yma sefyll i fyny a siarad o’r galon, heb gasineb ond hefo tegwch a synnwyr cyffredin. Mae Bywydau Du o Bwys yn symudiad sydd wedi ysgwyd y byd i’w graidd. Dwi’n cytuno i’r carn bod yr hiliaeth sydd yn bodoli ar draws y byd yn ofnadwy, ac mae’n rhaid newid agwedd a meddylfryd y gymdeithas gyfan.
Dwi’n cytuno mai drwy addysg ac ymwybyddiaeth y daw hyn i’r golwg. Ond dwi’n gwrthod derbyn bod angen troi at wrthdaro i’r fath raddau a welwyd ar draws y byd yn ddiweddar. Pa bynnag ‘ochr’ rydych chi’n honni ei gefnogi, tydi trais ddim am ennill cefnogaeth i’ch dadl. Doedd beth ddigwyddodd i George Floyd ddim yn deg a dwi’n gweddïo ni welwn unrhyw beth fel yna yn digwydd eto, ond dwi’n casáu gweld yr holl gasineb tuag at yr heddlu ar-lein ac yn y cyfryngau.
Mae’r heddlu yn gweld erchylltra’r byd, yn lluchio’u hunain i sefyllfaoedd peryglus er mwyn ein hamddiffyn ni. Yn amlwg, mae yna ambell i ddrwg yn y caws, ac oes, mae’n rhaid ceisio cael gwared o’r drwg yna. Ond nid diddymu’r heddlu’n gyfan gwbl yw’r ateb.
Yn yr un modd, mae yna feddygon drwg yn bodoli, yn lladd pobl, yn gwneud camgymeriadau, ond byddwch chi’n dal i ymddiried mewn meddygon i achub eich bywyd. Petai plentyn yn mynd ar goll, wedi cael ei herwgipio, pwy fyddech chi’n ffonio? Os oes yna rywun yn torri mewn i’ch cartref, pwy fyddech chi’n ffonio? Yr heddlu. Felly pam yn y byd ydyn ni’n dangos cymaint o amharch tuag atyn nhw, â’r rhan fwyaf ohonynt yn ddewr ac yn deg?
Dwi’n cefnogi cydraddoldeb ond dwi ddim yn cefnogi’r unigolion eithafol o fewn symudiad sydd yn gwahanu pobl pan y dylen ni gyd fod ar yr un ochr.Ochr sydd yn cefnogi cyfartaledd, waeth beth fo lliw eich croen, eich rhyw neu rywioldeb, neu’ch cyfoeth. Ochr sydd yn anelu at ddangos parch at bawb, pobl ddu, gwyn, plismyn, gwleidyddwyr. Dydw i ddim yn credu bod posib dweud eich bod chi eisiau cydraddoldeb cyn poeri at grŵp penodol o bobl. Eto, rhagrith yw hynny.
Dwi ddim am ymddiheuro os oes rhai yn anghydweld gyda’r hyn dwi wedi ei ddweud, oherwydd dydw i ddim am ymddiheuro mwyach am fod â barn sydd ychydig yn wahanol i farn eithafol y lleiafrif. Boed chi ar yr asgell dde neu chwith, un peth y dylen ni i gyd anelu at wneud ydi parchu’r ddwy ochr ac efallai ffurfio rhyw fan canol ryw ddydd yn y dyfodol, lle mae pethau’n fwy cytbwys a’r pegynau’n llai eithafol.
Mae’r byd ar dân ond dim ond ni all siapio beth fydd yn codi o’r lludw.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.