Cymdeithas yr Hoelion Wyth – oes diddordeb?

Cyfle i sefydlu canghennau o Gymdeithas yr Hoelion Wyth yng Ngogledd Cymru  Cynhelir cyfarfod cyhoeddus ar nos Lun, 15 Ebrill, am 6.30  yn Neuadd Bentref Trawsfynydd er mwyn cyflwyno a thrafod y posibilrwydd o sefydlu canghennau o ‘Cymdeithas yr Hoelion Wyth’ yng Ngogledd Cymru.  Mae Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn gymdeithas sy’n cynnig cyfle i […]

Continue Reading

Gorillaz yng Nghymru am y tro cyntaf erioed – ac yn galw i’r Gymraeg gael ei dysgu yn Lloegr

Perfformiodd Gorillaz yng Nghymru am y tro cyntaf erioed neithiwr (nos Wener) i hyrwyddo ei halbym newydd The Mountain. Roedd prosiect Damon Albarn a Jamie Hewlett yn perfformio yn Arena Utilita Caerdydd gyda sioe anhygoel yn cynnwys band llawn ac amrywiaeth o westeion arbennig fel Gruff Rhys sydd wedi cydweithio ar albym Gorillaz am yr […]

Continue Reading

Mark Lewis Jones yw Llywydd yr Ŵyl

Heddiw cyhoeddodd yr Eisteddfod mai’r actor, Mark Lewis Jones, a ddaw’n wreiddiol o bentref Rhosllannerchrugog fydd Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, yn dilyn gwahoddiad gan y pwyllgor gwaith lleol. Bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar Faes yr Brifwyl, yn ystod wythnos yr Eisteddfod a gynhelir ar gyrion dinas Wrecsam […]

Continue Reading

Cydnabod cyfraniad ‘na chafwyd ei debyg’ i’r byd llyfrau

Mewn digwyddiad i lansio cyfrol newydd Cerddi’r Ystrad ym Mhontrhydfendigaid fe gyflwynwyd gwobr arbennig am Gyfraniad Oes i Fyd Llyfrau i Lyn Ebenezer. Cyflwynwyd y lechen gan Garmon Gruffudd o’r Lolfa ar ran Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru. Mae’r wobr yn cael ei gyflwyno yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig dros gyfnod hir i’r […]

Continue Reading

Lansio ‘Gorllewin Cymru Creadigol’

Yn ddiweddar lansiwyd rhwydwaith newydd sef ‘Gorllewin Cymru Creadigol’ yng Nghanolfan S4C Yr Egin. Bwriad y rhwydwaith newydd hon yw cynrychioli ac ymgysylltu’r diwydiannau creadigol yn y rhanbarth, sef siroedd Abertawe, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gâr a Nedd Port Talbot. Y blaenoriaeth gychwynnol ar gyfer rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol yw canolbwyntio ar dŵf y sectorau sgrîn, […]

Continue Reading

Cynhyrchiad cyntaf Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd

Bydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn perfformio ei cynhyrchiad cyntaf ers ail-lansio’r cwmni y llynedd. Dan ofalaeth greadigol y cyfarwyddwr Angharad Lee a’r Cyfarwyddwyr Cerdd Kiefer Jones a Nathan Jones, bydd Y Cwmni yn perfformio cynhyrchiad newydd o ‘Deffro’r Gwanwyn’ gan Daf James. Meddai Branwen Davies, Trefnydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd: “Mae Deffro’r […]

Continue Reading

Diwedd blwyddyn brysur arall i ffilm a theledu yng Nghymru

Blwyddyn wych i ffilm a theledu yng Nghymru gyda chynyrchiadau o stiwdios mwya’r byd yn dod yma Dywed asiantaeth greadigol Llywodraeth Cymru, Cymru Greadigol bod £14.2m o gyllid cynhyrchu wedi cael ei ddyfarnu’n llwyddiannus i 22 o brosiectau ers ei sefydlu ym mis Ionawr 2020, ac mae gwariant gan frandiau fel Lucasfilm, Netflix a Bad […]

Continue Reading