Be yn union yw Cywirdeb Gwleidyddol, be yw ei bwrpas a pham ei fod yn beryglus i bawb?

gan Gruffydd Meredith O’r hyn i mi ei weld, mae diwylliant cywirdeb gwleidyddol ac identity politics wedi bod ar eu hanterth ers chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Dwi’n credu y gallwn ei alw wrth enw arall hefyd – Marcsiaeth ddiwylliannol neu Neo Farcsiaeth. Rhywbeth wedi ei gynllunio i danseilio normau cymdeithas a gwledydd er mwyn gosod seiliau […]

Continue Reading

Plwraliaeth Gymreig o’r diwedd – gan Aled Gwyn Jôb

Mae’n adeg pan fo ystyriaethau Cymreig yn cael eu blaenoriaethu gan bawb am unwaith. Eleni, gellid dadlau bod mwy o ardrawiad gwleidyddol na’r arfer i’r ŵyl oherwydd datblygiadau amrywiol ers Mawrth 1af llynedd. Er enghraifft, bu’r ymchwydd yn y gefnogaeth i’r mudiad YesCymru yn elfen amlwg iawn dros y flwyddyn ddiwethaf, a thair rali lwyddiannus […]

Continue Reading

Y gwir yn erbyn y byd… ond sut beth ydi hwnnw? – gan Trefor Jones

gan Trefor Jones – y boi ‘ne sy’n gadael sylwadau ar Golwg 360… Tua diwedd cyfnod canfasio yr etholiad cyffredinol, cyhoeddodd Adam Price ei ddymuniad i basio deddf seneddol fyddai’n gwneud celwydd bwriadol mewn etholiad yn drosedd cyfreithiol. Y bwriad ydoedd ychwanegu at fesur preifat a gyflwynodd Mr Price yn San Steffan yn 2007. Wrth […]

Continue Reading

‘Heb lais, heb genedl’ – Angharad Mair ar annibyniaeth i Gymru

(Trawsgrifiad Cymraeg o’r araith gan Angharad Mair o gynhadledd Yes Cymru yn Theatr Soar, Merthyr Tudful ar 26.1.2020) Heb Lais, Heb Genedl. Prynhawn da. Efallai bod rhai ohonoch chi wedi gweld ar twitter neu facebook eitem a gynhyrchwyd ar gyfer ein rhaglen Nos Galan ar S4C ar ffenomenon y gorymdeithiau annibyniaeth yn 2019 yng Nghaerdydd, Caernarfon […]

Continue Reading

Adolygiad o 2019 – mwy o wallgofrwydd cywirdeb gwleidyddol, y symudiad at annibyniaeth… a’r angen i gofleidio ceidwadaeth Gymreig

gan Gruffydd Meredith Rhyddid i Gymru, Plaid Cymru, egwyddor hanfodol rhyddid barn – sy’n gynnwys yr hawl i dramgwyddo, culni rhyddfrydol a gwallgofrwydd cywirdeb gwleidyddol sydd angen ei daclo cyn iddo ei fwyta ei hun a phawb sydd yn ymwneud ag o.   Dwi ddim yn meddwl fod r’un cenedlaetholwr isio creu cecru diangen yng Nghymru – mae dyfodol a lles Cymru yn rhy […]

Continue Reading

Oes Gobaith O’r Diwedd Am Reilffordd Gall Drwy Gymru? – gan Yn Ein Blaenau

Tybed mewn sawl gwlad, wrth deithio o un pen i’r wlad i’r llall er mwyn cyrraedd eu prifddinas ar drên, mae’n rhaid teithio am filltiroedd maith drwy wlad gyfagos?   Y mae’n eironi mawr bod colli’r isadeiledd a fu unwaith yng Nghymru yn gorfodi hyd yn oed trên enwog Y Gerallt Cymro i deithio drwy […]

Continue Reading

Wel, mae rhywun yn gorfod gwneud…be am sefyll fel aelod Senedd Cymru? (o’r archif)

(Or archif:  papur Y Cymro, rhifyn Hydref 2018) gan Gruffydd Meredith Wedi cael digon o glywed ein gwleidyddion ym Mae Caerdydd a thu hwnt yn pratlo mlaen am ddatblygu cynaliadwy, tryloywder, caffael a delifro; ac isio gweld mwy o siarad strêt am bethe sydd yn mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i’n gwlad a’i phobol?  […]

Continue Reading