Rhifyn Gorffennaf

Newyddion

Mae’r frwydr i greu cyfryngau unigryw i Gymru yn cael sylw helaeth yn rhifyn Gorffennaf y Cymro.

Mae argyfwng y pandemig wedi dangos yn fwy clir nag erioed i ni orfod derbyn fersiwn (anghywir) o’n hunain drwy lygaid y cyfryngau sydd a’u gwreiddiau y tu hwnt i’r ffin. ‘Rhaid gweld ein gwlad drwy lygaid Cymreig’ yw’r alwad ac mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn awyddus i reoliadau newydd i sicrhau fod y boblogaeth yn derbyn gwybodaeth gywir gael ei drafod.

Mae gan y colofnydd Esyllt Sears farn gryf am bwysigrwydd newid ein hagwedd tuag at hiliaeth yng Nghymru tra bod Cadi Edwards yn datgan bod yn rhaid cadw oddi wrth begynau eithafol y ddadl a Tudur Huws Jones yn gofyn lle mae’r tynnu’r llinell wrth ddymchwel a dileu cerfluniau a chofebion i feistri caethwasiaeth.

Mae Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths yn sgwennu i‘r Cymro am y tro cyntaf am y penderfyniadau anodd hynny y bu’n rhaid i’r llywodraeth eu cymryd yn ystod yr argyfwng. Mynna mai cymaint gwell yw bod yn or-ofalus nac yn ddi-hid wrth ddelio â rhywbeth mor ddifrifol.

Yn ôl yr arfer mae sylw i deledu, moduro, garddio, cerddoriaeth, y llyfrau diweddaraf a chwaraeon – mae Dylan Ebenezer yn holi pa mor debyg i hwyaden mae’r gemau pêl-droed diweddaraf.

A cawn groesawu Lyn Ebenezer yn ôl, sy’n dweud ei fod yn falch i fod yn ôl i gynnig rant arall – y tro hwn am gywirdeb iaith ar y radio a fu’n gymaint o ffrind iddo tra roedd yn gwella o salwch diweddar.

Bydd y Cymro ar gael ddiwedd yr wythnos o siopau ar draws Cymru yn ogystal ag ar ein gwefan.
I dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy glicio yma

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau