Tanysgrifiwch i’r Cymro
Rydym yn falch o gynnig tanysgrifiad papur am £39 y flwyddyn o fewn ynysoedd Prydain, gan gynnwys postio a phacio (dosbarth cyntaf), neu danysgrifiad electronig ar PDF drwy e-bost bob mis am £12.
Os hoffech danysgrifio gyrrwch e-bost i gwyb@ycymro.cymru gyda’r pennawd ‘Tanysgrifio’, a chynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost a’r cyfeiriad i’w yrru ato. Mi yrrwn fanylion opsiynau talu atoch. Byddem yn ddiolchgar os y gallech hefyd gynnwys rhif ffôn os yn bosib, er mwyn i ni allu cysylltu gyda chi yn effeithiol pe bai angen.
Neu, gyrrwch lythyr at ‘Tanysgrifiadau Y Cymro’, 13 Heol Y Parc, Pontyberem, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 5EA, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif cyswllt, cyfeiriad e-bost a siec am £39 os am yrru siec. Dylai sieciau fod yn daladwy i Cyfryngau Cymru Cyf.
Cysylltwch â ni hefyd am fanylion cost tanysgrifio o Ewrop a gweddill y byd.
Tanysgrifiad PDF ar e-bost.
Os am danysgrifio i PDF misol Y Cymro cysylltwch gyda ni yn yr un modd ag uwchben, gan nodi eich bod am dalu £12 am danysgrifiad pdf 12 mis os gwelwch yn dda (sef £1 y mis), neu gyrrwch eich manylion isod a byddwn mewn cysylltiad
Ôl-rifynnau Y Cymro
Wedi methu cael gafael ar rifyn o’r Cymro? Gallwch brynu ôl-rifynnau Y Cymro o’r cyfnod ers ail-lansio ym mis Mawrth 2018.
Pris pob ôl-rifyn ydi £4, sydd yn cynnwys postio a phacio o fewn ynysoedd Prydain. (Cysylltwch am gostau postio mwy nag un rhifyn)
Er mwyn derbyn unrhyw rifyn gyrrwch e-bost at gwyb@ycymro.cymru gyda’r pennawd ‘Ôl rifynnau’, a chynnwys eich enw a’r cyfeiriad i yrru ato yn ogystal â pha ôl-rifyn/rifynnau yr hoffech eu prynu ac fe ddanfonwn ni fanylion talu atoch. chi.
Neu gyrrwch lythyr at ‘Ôl-rifynnau Y Cymro’, 13 Heol Y Parc, Pontyberem, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 5EA, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif cyswllt, cyfeiriad e-bost a siec yn daladwy i Cyfryngau Cymru Cyf.
Cysylltwch â ni hefyd am gostau ar gyfer Ewrop a gweddill y byd.
Byddem hefyd wrth ein bodd i glywed gan unigolion, ysgolion/colegau a grwpiau/cymdeithasau lleol ayyb os oes diddordeb dosbarthu a gwerthu Y Cymro (ar gomisiwn hael) yn eich cymuned chi.