Rhifyn Mehefin ar gael nawr

Newyddion

Mae sylw eto yn rhifyn Mehefin Y Cymro i effeithiau amrywiol yr argyfwng presennol ar ein gwlad, ac adroddiad arbennig am gynnydd syfrdanol y gefnogaeth i’r mudiad annibyniaeth yn ystod yr wythnosau diweddar wrth i fwy a mwy ddiflasu ar strategaeth y DU.
Mae ein colofnwyr Cadi Edwards, Esyllt Sears ac Aled Gwyn Jôb i gyd hefyd yn sôn am eu profiadau nhw am y cyfnod od iawn sydd ohoni – o’u pegynau unigryw eu hunain.

Mae pryderon pellach nad yw’r cynlluniau ar gyfer cwricwlwm newydd i’n hysgolion yn cynnig digon o gyfle i blant ddysgu am hanes Cymru. Mae deiseb Elfed Wyn Jones, sy’n galw i newid hynny, wedi cyrraedd 5000 o enwau ac mae o ei hun yn addo gwneud unrhyw beth sydd raid er mwyn ennill ei frwydr dros yr achos hon.

Mewn dyddiau heb chwaraeon mae Dylan Ebenezer yn edrych yn ôl ar brynhawn cofiadwy ar Gae Ras Wrecsam wrth i Gymru drechu Lloegr mewn gêm fythgofiadwy.

Tra bod rhai siopau yn dal i fod ar gau cysylltwch am gopi drwy’r post am £2.50 – neu trefnwch danysgrifiad blwyddyn am £27.
Pwyswch yma neu cysylltwch â gwyb@ycymro.cymru am ragor o wybodaeth.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau