Mae rhifyn Ebrill Y Cymro ar gael rwan nawr. Mae sylw arbennig i sut mae’n gwlad yn dygymod â’r firws wrth i Esyllt Sears, Karen Owen a Gareth Hughes ddadansoddi’r sefyllfa bresennol.
Colofnau hefyd gan Iestyn Jones, Lyn Ebenezer, Aled Gwyn Jôb, Cadi Gwyn Edwards, Dylan Wyn Williams, Gruffydd Meredith, Robat Idris ar ran Cymdeithas yr Iaith, Meirwen Lloyd, (Merched y Wawr), pethau garddllyd gyda Gerallt Pennant, cerddoriaeth Cymru gyda Sôn am Sîn, Trefor Jones, moduro gyda Huw Thomas, be ydi siap y byd chwaraeon gyda Garmon Ceiro (ei golofn ola i’r Cymro cyn ei dransffer i Golwg).
Mi fydd y papur dal ar gael yn yr holl siopau a’r llefydd hynnu y mae cwmni Menzies yn dosbarthu iddynt. Mae hyn yn cynnwys dros 40 o siopau Tesco dros Gymru.
Tra bod y siopau llyfrau Cymraeg ar gau cysylltwch â ni am gopi drwy’r post neu ar PDF – gwyb@ycymro.cymru. Neu ewch yma am fwy o fanylion.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.