Rhifyn Mehefin Y Cymro

Newyddion
Os nad nawr… pryd?
Llais sawl mudiad ar yr un pwnc torcalonnus sy’n hawlio’r sylw eto yn rhifyn Mehefin Y Cymro  – ie, argyfwng y tai haf a’i effaith ar ein cymunedau Cymreig

Llwyddodd mudiad ‘Hawl i Fyw Adra’ i greu argraff gref wrth brotestio ym mhentrefi Pen Llyn ac Ynys Môn yn ddiweddar. Mae’r rhifyn yn cynnwys eu llythyr agored at y Prif Weinidog, gofyn maent i’r Llywodraeth glywed eu galwad am weithredu buan a datgan eu hyder y gall rhywbeth cadarnhaol gael ei wneud i ddatrys y sefyllfa ar yr unfed awr ar ddeg.

Mae adlais o’r un pryder hefyd yng ngalwad  Cymdeithas yr Iaith i bawb ymuno yn rali fawr ‘Nid Yw Cymru Ar Werth’ ar argae Tryweryn ar Orffennaf y 10fed ac yn y stori am werthu Capel Tom Nefyn er yr holl ymgyrchu lleol i brynu’r safle ar gyfer y gymuned.

Mae sylw yn y rhifyn hefyd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol YesCymru. Wrth sôn am y digwyddiad, a gynhaliwyd yn rhithiol oherwydd cyfyngiadau Covid, dywedodd Siôn Jobbins, sy’n parhau’n Gadeirydd ar y mudiad, ei fod yn falch bod y Pwyllgor Canolog, pwyllgor rheoli YesCymru, newydd a etholwyd yn fwy cynrychioladol o Gymru:

“Nid yn unig i ni basio cynnig sydd yn golygu bod disgwyl i hanner y Pwyllgor Canol fod yn ferched a bod un aelod nad yw’n wyn; mae’r pwyllgor yn amrywiol yn ddaearyddol hefyd – yn dod o lefydd fel Trefaldwyn, Pwllheli, Abertawe a Phort Talbot.”

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, mewn darn barn arbennig, yn datgan mai un o’r heriau brys ein Llywodraeth newydd yw cau’r cau’r gagendor ieithyddol hwnnw rhwng byd addysg a byd gwaith.

Edrych yn ôl i ddechrau’r saithdegau mae Lyn Ebenezer wrth gofio gweld y canwr blues chwedlonol hwnnw Arthur Crudup yn Aber a’i wahodd yn ôl i dafarn y Blingwyr am noson wnaeth aros yn y cof.

Barn ar le ein cyfryngau Cymreig yn ystod yr etholiad diweddar sydd gan Dafydd Iwan mewn darn barn arall yn arbennig ar gyfer Y Cymro.  Meddai: “Ryden ni wedi llwyddo i ddiberfeddu ein gwleidyddiaeth, ac wedi tynnu pob argyhoeddiad ohono”

Edrych ymlaen at yr Ewros  – fel pawb arall – mae Sioned Dafydd ar y dudalen gefn wrth gofio’r haf euraidd hwnnw yn 2016 – a gobeithio am rhywbeth tebyg!

Bydd rhifyn Mehefin Y Cymro ar gael nawr o siopau ar draws Cymru o ddiwedd yr wythnos. Neu i dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.

Mae copi PDF digidol ar gael hefyd, cysylltwch â ni: gwyb@ycymro.cymru neu ewch i safle PressReader.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau