Mae ambell lais sy’n rhan o’r ddadl yn rhanedig ynglŷn â’r syniad o drethu twristiaeth i wella’r sefyllfa i bawb.
Ac mae’r colofnydd Gari Wyn Jones wedyn yn cwestiynu pa mor broffidiol i Gymru mae’r miliynau o ymwelwyr sy’n ymddangos bob haf.
Aur Caradog yw testun y colofnydd Melfyn Hopkins y mis hwn mewn erthygl ddiddorol am stori darganfyddiad anhygoel o oes yr arweinydd Celtaidd chwedlonol a frwydrodd y Rhufeiniaid yng Nghymru.
Mae darn barn gan Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru a llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, chwaraeon a materion rhyngwladol, yn sôn am strategaeth y Llywodraeth ar ddiwylliant.
Meddai heledd: “Nid rhywbeth ymylol yw diwylliant. Ni ddylai gael ei drin felly gan ein Llywodraeth, ac fel llefarydd Plaid Cymru ar y mater, byddaf yn herio’r Llywodraeth ar hyn bob cyfle a gaf.”
Mae agweddau ‘unochrog ymosodol’ Llywodraeth y DU o dan y chwyddwydr hefyd wrth i’n Prif Weinidog ddweud na fu’r undeb erioed mor fregus. Ond mae’n dal i gredu gall y DU gael ei adfer a’i wella er mwyn bod yn rhywbeth sy’n “gweithio’n well i bawb.”
Syniad od Sefydliad Iechyd y Byd sy’n cael sylw Esyllt Sears y mis hwn – y cynllun hwnnw sy’n awgrymu y dylai ymgyrchoedd gwrth-yfed dargedu menywod yn benodol – os ydyn nhw’n bwriadu beichiogi ai peidio. ‘Calliwch wir’ meddai Esyllt!
Talu teyrnged i’r annwyl Gerald Williams – curiad calon Yr Ysgwrn – mae Lyn Ebenezer yn ei golofn:
‘Mae yna ddwy gadair wag yn Yr Ysgwrn bellach. Gyda marwolaeth Gerald, gadawyd mwy nag un galon yn dlotach hefyd. Yn cynnwys fy nghalon i, a chalonnau pawb a fu’n ddigon ffodus i’w adnabod.
Casineb y cyfryngau cymdeithasol sydd yn mynd â sylw Cadi Edwards wrth iddi gyferbynnu gwerthoedd ein cymdeithas honedig oddefgar gyda’r sylwadau hyll mae rhai yn eu derbyn wrth ddefnyddio’r cyfryngau hyn yn ddigon diniwed.
A heb ormod o sôn am siom Cymru, mae Sioned Dafydd yn trafod ymateb pawb i dristwch yr hyn a ddigwyddodd i Christian Eriksen a sut i’r ymateb hwnnw ein hatgoffa bod digon i’w garu am y gêm wedi’r cyfan.
Bydd rhifyn Gorffennaf Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru o ddiwedd yr wythnos. Neu i dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.
Mae copi PDF digidol ar gael hefyd, cysylltwch â ni: gwyb@ycymro.cymru neu ewch i safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.