Defnydd Tir, Bwyd a Ffermio …. Ni sy’n llunio’r Dyfodol

Newyddion

Trafod ffermio cynaliadwy

Gan fod bwyd a ffermio yn allweddol i’n hiechyd ac i iechyd natur mae Gwrthryfel Difodiant wedi trefnu cyfarfod o Gynulliad y Bobl ar y cyd â’r Aelod o’r Senedd, Elin Jones er mwyn trafod amaethyddiaeth gynaliadwy yng Ngheredigion. Bydd y cyfarfod, sy’n cael ei gynnal am 6.30 ar y 23ain o Fehefin, yn digwydd ar-lein ac yn agored i bawb.

Bydd rhestr gyffrous ac eang iawn o siaradwyr o’r NFU, Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) a ffigurau blaenllaw sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a garddwriaeth gynaliadwy yn siarad am fioamrywiaeth, rheoli dŵr, polisi a chyflenwi bwyd. Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae Glyn Davies, (Cadeirydd Sirol NFU Cymru), Morys Ioan, (Cadeirydd Sirol FUW); Wyn Evans, (Is-gadeirydd Bwrdd Da Byw NFU) a Patrick Holden, (yr Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy a sylfaenydd cynnar y mudiad organig).

Yn ogystal â chlywed gan siaradwyr bydd trafodaeth fanwl mewn grwpiau bach ble bydd gofyn i grwpiau ystyried:
Beth allai fod yn system ffermio gynaliadwy ar gyfer Ceredigion?
Beth sydd angen newid?
Beth gallem ni ei wneud yn lleol?

Bydd y cyfarfod ar fodel Democratiaeth Fwriadol, a gynlluniwyd i ganiatáu i bawb sy’n mynychu wrando ar eraill a chael llais yn y canlyniad terfynol. Mae’n ffordd o gynnwys y cyhoedd mewn penderfyniadau pwysig ac mae’n cael ei chydnabod yn fwyfwy eang. Bydd pob grŵp bach yn cofnodi eu trafodaeth ac yn adrodd yn ôl i’r prif gyfarfod. Pwrpas y digwyddiad yn ôl y trefnwyr yw dwyn ynghyd yr holl wahanol safbwyntiau ar ffermio yng Ngheredigion a dod i gonsensws ar sut y gallem symud ymlaen. Gallai hyn arwain at argymhellion ar gyfer newidiadau polisi posibl.

Y bwriad yw i’r cyfarfod bara 2 awr, a bydd opsiwn o ddychwelyd at y pwnc os bydd mynychwyr am barhau â’r drafodaeth. Wrth gydnabod bod y cyfarfod yn un uchelgeisiol dywedodd Sarah Wright, cyd-westeiwr y cyfarfod, ei bod yn gobeithio y bydd rhai meysydd lle bydd consensws clir:
“Mewn maes gyda chymaint o wahanol safbwyntiau, rydym yn gobeithio y gallwn ddatblygu gweledigaeth sy’n bosibl ei rhannu, un y bydd pobl o bob safbwynt wedi cyfrannu ati, fel y gallwn symud ymlaen ‘trwy ddrws gwahanol’ ar ddiwedd y cload mawr.’’

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn tir, bwyd neu ffermio. Bydd cofrestru ymlaen llaw yn help mawr i’r trefnwyr. Gallwch gofrestru trwy

E-bost: cardigan@xrcymru.org

Ffôn: 07904 387796

Eventbrite https://www.eventbrite.co.uk/e/peoples-assembly-ceredigion-cynllun-y-bobltickets-107188967086

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau