Y Cymro mis Mai – ar gael nawr!

Newyddion

Mae rhifyn Mai Y Cymro ar gael rŵan.

Unwaith eto mae’n colofnwyr Esyllt Sears, Cadi Gwyn Edwards, Dylan Ebenezer, Trefor Jones, Meirwen Lloyd ac Aled Gwyn Jôb yn trafod sut maen nhw’n dygymod ag argyfwng y firws, yn holi cwestiynau am y math o wlad fydd gennym wedi’r argyfwng ac yn sôn am bethau positif sy’n digwydd ynghanol yr holl ynysu – a thu hwnt!

Mae Rhun ap Iorwerth AC ac Undeb Amaethwyr Cymru yn tynnu sylw at effaith yr argyfwng ar Gymru Wledig ac ar ein busnesau bregus; Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Ruth Roberts, yn cynnig barn gref ar sut i’r argyfwng presennol dynnu sylw at ddiffygion amlwg y drefn bresennol tra bod Elin Roberts yn galw am fwy o arweinyddiaeth ac i ni gyd gael gwybod be sy’n mynd ‘mlaen,

Y ôl yr arfer gallwch chi ymuno â Gerallt Pennant yn ei ardd, mae cerddoriaeth gan Sôn am Sin, moduro gyda Huw Thomas a blas ar beth i’w wylio wrth ynysu gan Dylan Wyn Williams.

Y mis yma hefyd mae cyfle i blant Cymru gyfrannu eu darluniau i Oriel Ynysu Y Cymro a byddwn yn eu cynnwys yn nhudalennau’r rhifyn nesaf.

Bydd Y Cymro ar gael o siopau sydd yn dal i fod ar agor, gan gynnwys dros 40 o siopau Tesco dros Gymru, ond tra bod y siopau llyfrau Cymraeg ar gau cysylltwch â ni am gopi drwy’r post neu ar PDF – gwyb@ycymro.cymru.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau