Blog

Ie… cenedlaetholdeb Lloegr sy’n sbarduno newid yng ngwleidyddiaeth Prydain!  

Astudiaeth yn canfod perthynas agos rhwng hunaniaeth Seisnig a’r agweddau a arweiniodd at Brexit   Mae academyddion amlwg wedi dod i’r casgliad mai ‘Pryder ynghylch datganoli’ ymhlith etholwyr yn Lloegr sy’n ysgogi newid yng ngwleidyddiaeth Prydain.  Mae’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a’r Athro  Ailsa Henderson o Brifysgol Caeredin wedi treulio […]

Continue Reading

Ymgyrch i brynu hen gapel yn mynd o nerth i nerth 

Ceisio prynu’r lle i’r gymuned rhag iddo gael ei droi’n dŷ haf Mae ymgyrch godi arian i geisio prynu hen gapel sydd o bwys hanesddol yn mynd o nerth i nerth. Roedd Capel Bethania, Pistyll, ger Nefyn i fod i gael ei werthu ar ocsiwn ar Fawrth 24, ond cafodd yr ocsiwn ei gohirio. Deellir bod y perchennog […]

Continue Reading

Rhowch i mi raglenni o fyd di-covid plîs …o’r dyddiau hyfryd yna a fu! – Dylan Wyn Williams

gan Dylan Wyn Williams Fel un sy’n dueddol o osgoi rhaglenni’r pandemig fel y pla, sgiwsiwch y mwysair, bues i’n amenio’r actor John Simm yn ddiweddar.  Sôn am ei rôl fel ditectif yng nghyfres ddrama newydd Grace oedd o, a ffilmiwyd fis Awst diwethaf. Roedd ITV wedi penderfynu portreadu byd di-covid, heb ecstras mygydog nac arwyddion […]

Continue Reading

Brynllidiart, Dyffryn Nantlle – yr unig dyddyn yng Nghymru i fagu dau brifardd o ddwy genhedlaeth?

Bydd gŵyl rithiol ‘Yn Ôl i Frynllidiart’ yn cael ei chynnal ar 28 Mawrth i nodi 150 mlynedd ers geni Silyn (Robert Roberts) ym 1871, y bardd a’r Sosialydd a enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1902. Yn yr un tŷ y ganed ei nai,  Mathonwy Hughes, 120 mlynedd yn ôl. Daeth yntau’n brifardd Cadair Eisteddfod […]

Continue Reading

A phwy sydd am wrthod gwelliannau i blesio naratif ecolegol y gorllewin? – Trefor Jones

gan Trefor Jones Arfer blynyddol yn fy mhlentyndod oedd casglu ‘cenhadaeth”, ar gyfer y capel lleol. Cafwyd cerdyn gwyn a phrint glas ar y clawr yn yr ysgol Sul i nodi’n cyfraniadau at Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr (BMS).  Mae’n anodd credu heddi y gallem ni fel plant fynd o ddrws i ddrws, a phobl caredig yn […]

Continue Reading

Trysor cuddiedig y fro a wrthododd farw – Lyn Ebenezer

gan Lyn Ebenezer Gynt, pan glywn y gair ‘cyd-ddyheu’, yr hyn a ddeuai i’r cof yn ddieithriad fyddai englyn enwog R. Williams Parry i Neuadd Goffa Mynytho. Ond erbyn hyn mae iddo arwyddocâd arall. Gellir yn awr ei briodoli hefyd i ardal Cwmystwyth yng ngogledd Ceredigion, lle gwelwyd cyd-ddyheu ar ei orau. Dros y blynyddoedd […]

Continue Reading

Dechrau gweld ceir Tsieina yma …a mwy (fyth) yn yr arfaeth – Huw Thomas

gan Huw Thomas Cafwyd cip y tro diwethaf ar sefyllfa’r byd modurol. Erbyn diwedd 2020 daeth rhai mentrau drwyddi’n rhyfeddol dda. Cyhoeddodd y Financial Times arolwg yn ddiweddar o’r sawl a lwyddodd ar waethaf y dymestl.  O fyd technoleg/uwch-dechnoleg y daw blaenoriaid y 100 llwyddiannus, wrth gwrs. Yna daw sêr yr economi ddigidol – prynu a gwerthu ar-lein, logisteg a […]

Continue Reading

Mae’n hen bryd i bobol Cymru ddod at ein gilydd yn lleol a chenedlaethol i brynu tir a thai Cymru ar y cyd – Gruffydd Meredith

gan Gruffydd Meredith Gyda phopeth sydd yn mynd mlaen yn y byd mae’n weddol amlwg erbyn hyn fod angen, yn fwy nag erioed, i ddinasyddion Cymru ddod at ein gilydd er mwyn prynu ffermydd, tir a thai Cymry ar y cyd.  Neu hyd yn oed bentrefi cyfan neu fwy. Nid model comiwnyddol pen yn y […]

Continue Reading