Yr orymdaith dros annibyniaeth drwy strydoedd ein prifddinas sy’n cael y driniaeth ar dudalen flaen rhifyn Hydref – ac mae sylw hefyd i rali arall i bwysleisio’r neges unwaith eto bod rhaid gwneud rhywbeth ar frys ynglŷn â’r farchnad dai
Roedd mwy na 10,000 yng Nghaerdydd yn mynnu mae annibyniaeth yw’r unig ffordd ymlaen i ni – ar yr union adeg pan roedd Llywodraeth y DU yn gwasgu’r botwm hunan-ddinistrio i lusgo ein heconomi i’r dyfnderoedd!
Meddai Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr newydd YesCymru: “Mae YesCymru yma i arwain ein sgwrs genedlaethol. Mae chwalu’r Undeb yn anochel. Bydd Iwerddon unedig, bydd yr Alban yn annibynnol a’r unig ddyfodol hyfyw i Gymru yw fel cenedl annibynnol.
“Rydym yn economaidd hyfyw ac mae San Steffan wedi ein methu ers degawdau. Ni fydd hyn yn newid felly mae’n rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb llawn am ein dyfodol ein hunain a sefyll yn falch fel cenedl ar y llwyfan byd-eang.”
Roedd cannoedd hefyd yn cerdded i ddwyn sylw at yr argyfwng tai yn Llangefni a ‘llusgo traed’ mae Llywodraeth Cymru yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Dywedodd Osian Jones, un o drefnwyr y rali: “Mae ewyllys gwleidyddol o’n plaid a blwyddyn o ymgyrchu a phwysau gan bobl ar lawr wedi arwain at enillion allai wneud gwahaniaeth. Ond mae Llywodraeth Cymru’n llusgo eu traed – does dim canllawiau nac addewidion o gyllid i gyflawni’r holl waith wedi mynd at awdurdodau lleol eto.
Bydd dosbarthu eiddo i gategorïau fel bod modd gweithredu’r cynnig pwysig o fynnu caniatâd cynllunio i newid dosbarth defnydd yn waith sylweddol; fel y bydd y gwaith o gasglu tystiolaeth am yr angen am ganiatâd cynllunio.”
Mae penderfyniadau Radio Cymru i newid pethau yn cael sylw hefyd gydag ambell i lais yn anhapus iawn. Meddai Dafydd Iwan yn ei golofn: “Fy mhryder mwyaf i, fodd bynnag, yw bod torri rhaglen Geraint Lloyd yn arwydd pellach fod y BBC yn eu pencadlys newydd rhwysgfawr yng Nghaerdydd yn ymbellhau oddi wrth yr union gynulleidfa sy’n greiddiol i unrhyw wasanaeth darlledu Cymraeg, sef y gynulleidfa wledig Gymraeg.
Mae Geraint Lloyd yn un o’r ychydig gyflwynwyr sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn y gymuned honno, ac yn rhan annatod ohoni.
Fedrwch chi ddim creu y math hwnnw o gyflwynydd yng nghoridorau’r Gorfforaeth – rhaid cael pridd a thail y wlad ar ei sgidie, a’i bresenoldeb yn y digwyddiadau cymdeithasol sy’n rhan annatod o galendr ein bywyd gwledig.
A phwy sy’n barod am arwisgo arall yn y castell? ‘Hynod annhebygol’ bydd cael digwyddiad tebyg i’r un yn ‘69 yn ôl y sôn.
Ond be am y brenin (na nid hwnnw…) cafodd ei eni yng Nghaernarfon mwy na 700 o flynyddoedd yn ôl? Roedd go lew o Gymru yn deyrngar iawn iddo tan ei ddiwedd erchyll yn ôl erthygl hanes Mel Hopkins y mis yma.
Sefyllfa cymunedau gwledig Cymru sydd gan y colofnydd Gari Wyn Jones mewn golwg. Meddai: “…rhaid inni gael sefyllfa sy’n ei gwneud hi’n ddeniadol i brynu’n lleol ac i gefnogi pob busnes lleol sy’n weithgar ac ymroddgar. Rhaid inni gefnogi busnesau sy’n canolbwyntio ar gyflogi pobol o fewn eu cymuned yn hytrach na cheisio chwyddo’r balans banc yn y ffordd hawsaf posib. Ryda’ ni wedi trafod llawer ar ddargyfeirio yn y byd amaeth yng Nghymru ond rhaid i ffermwyr ac entrepreneuriaid ein cymunedau gael eu gwobrwyo ac ennill manteision o gyflogi pobol.
Mae rhifyn Hydref Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.