Barn – gan Osian Rowlands – Blwyddyn 12, Ysgol Dyffryn Ogwen
Mae’r ffordd y mae ymwelwyr yn trin iaith a diwylliant Cymru yn gwbl annerbyniol. “Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl, a’i hedd yw ei hangau hi.”
Mae dros 5,000 wedi arwyddo deiseb o blaid defnyddio’r geiriau Cymraeg ‘Eryri’ ac ‘Yr Wyddfa’ yn gynharach eleni ond ydy hyn yn mynd yn ddigon pell?
A oes angen i ymwelwyr ddangos mwy o barch tuag at iaith a thraddodiadau Cymru?
Wel, yn sicr dylai ymwelwyr ddangos mwy o barch, tuag at iaith a diwylliant Cymru, boed nhw yma am y diwrnod, neu’n ymgartrefu yma.
Yn gyntaf, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr ymwelwyr sy’n penderfynu gwneud eu cartref yng Nghymru. Credaf y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd pan fydd Saeson yn penderfynu prynu cartrefi ac ail gartrefi yma yng Nghymru.
Mae hyn yn arwain at gynnydd ym mhris tai sydd, yn ei dro, yn atal pobl rhag prynu tai yn eu cymuned leol, gan fod y prisiau’n anfforddiadwy iddynt. Mae hyn wedi bod yn digwydd, ers blynyddoedd lawer, gan fod prisiau tai yng Nghymru, yn enwedig yng nghefn gwlad, wedi bod yn rhatach o lawer na phrisiau yn Lloegr.
Pwnc arall sy’n mynd o dan fy nghroen yw’r amarch a ddangosir tuag at enwau tai a lleoedd traddodiadol Cymreig. Yn amlach na pheidio, mae’r enwau lleoedd yn cael ei gweld yn anodd i’r di-Gymraeg eu hynganu. Felly, mae’r enwau’n cael eu newid i enwau symlach, haws eu cofio, nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad o gwbl â’r lleoliad, neu i enwau Saesneg. Ond mae enwau lleoedd Cymreig traddodiadol yn ein cysylltu ni, fel cenedl, â’n gorffennol ac mae’n hanfodol bwysig felly eu bod yn cael eu defnyddio, a’u cadw rhag mynd yn angof.
Dyma i chi enghraifft wych o ble mae hyn wedi digwydd, sef ym Metws y Coed, yng Ngogledd Cymru, sy’n atyniad poblogaidd i dwristiaid.
Enw un man harddwch gerllaw yw Coed Llugwy. Mae’r ymwelwyr wedi newid yr enw i ‘Walkers’ Wood’, gyfeillion. Allwch chi gredu’r fath beth? Mae Coed Llugwy yn enw hynafol, sy’n dyddio’n ôl ganrifoedd, gyda Llugwy wrth gwrs yn cyfeirio at Afon Llugwy sy’n llifo gerllaw. Dim ond un o nifer o sefyllfaoedd tebyg yw’r enghraifft hon. Mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth i sicrhau fod yr ymwelwyr hyn yn dangos mwy o barch tuag at iaith a thraddodiadau Cymru.
Gwyddom nad yw’r mater hwn yn broblem newydd gan ei bod wedi bodoli ers blynyddoedd bellach.
Fe allech ddadlau fod gwreiddiau’r broblem yn dyddio yn ôl i 1536, yng nghyfnod y Ddeddf Uno. Hyd yn oed yn yr adeg honno, dangoswyd diffyg parch tuag at y Cymry. Ond peidiwch â phoeni, nid wyf am droi hwn yn wers hanes. Rwyf am ganolbwyntio’n unig ar yr 20fed Ganrif, y cyfnod yr adnabyddir fwyaf am gesio achub yr iaith.
Ers chwarter cyntaf y ganrif ddiwethaf, mae grwpiau wedi defnyddio anufudd-dod sifil i ymgyrchu dros yr iaith, gan sicrhau fod mwy o barch yn cael ei ddangos tuag at iaith a thraddodiadau Cymru.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dirywio gwnaeth yr iaith Gymraeg, wrth i’r wlad deimlo effaith dirwasgiad economaidd. Dechreuodd y Blaid Lafur ennill y blaen ar y Rhyddfrydwyr, a chan nad oedd y Gymraeg yn uchel iawn ar restr blaenoriaethau’r sosialwyr, roedd dyfodol yr iaith yn dywyll. Yr amgylchiadau hyn arweiniodd at sefydlu Plaid Cymru yn 1925, plaid wleidyddol sydd yn ceisio hunan lywodraeth a pharhad yr iaith a diwylliant Cymru.
Ar y dechrau ni chafodd Plaid Cymru fawr o sylw. Yna, ar 8 Medi, 1936, aeth tri aelod blaenllaw, sef Saunders Lewis, D J Williams a Lewis Valentine, ati i losgi Ysgol Fomio’r Llu Awyr, ym Mhenyberth, ym Mhen Llyn.
Roedd y weithred yn drobwynt yn hanes gwleidyddiaeth Gymraeg, a’r tro cyntaf, ers gwrthryfel Glyndŵr, i drais gael ei ddefnyddio yn enw Cymru. Cyfiawnhawyd yr ymosodiad drwy dynnu sylw at effaith yr ysgol fomio ar ardal lle’r oedd y mwyafrif yn siarad Cymraeg. Fe aeth y tri at yr heddlu lleol. Methodd y rheithgor a chytuno ar ddyfarniad y tro cyntaf. Mewn ail achos llys, yn yr Old Bailey, yn Llundain, y tro hwn, fe’u cafwyd yn euog a’u carcharu am naw mis.
Yn dilyn yr achos, ymddiswyddodd Saunders Lewis o Lywyddiaeth Plaid Cymru, cefnodd ar fywyd cyhoeddus a throi at ysgrifennu’n llawn amser.
Hawliodd y penawdau eto yn 1962 pan draddododd y ddarlith radio flynyddol i’r BBC, yn dwyn yr enw Tynged yr Iaith. Yn y ddarlith, amlygodd yr anawsterau a wynebai Cymry yn y cyfnod, gan ddatgan “Fe ellir achub y Gymraeg”, aeth ymlaen i ddweud “Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo”. Ei obaith oedd y byddai Plaid Cymru’n mabwysiadu dulliau o’r fath.
Yng ngoleuni’r her a gyflwynodd yn y ddarlith honno, sbardunwyd nifer o bobl ifainc i ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a dechrau ymgyrchu am bethau fel arwyddion ffyrdd dwyieithog a thai rhatach i bobl leol. Etholwyd Saunders Lewis yn Llywydd Anrhydeddus y Gymdeithas yn 1963. Ers hynny, mae’r Gymdeithas wedi tyfu, o nerth i nerth, ac wedi bod ar flaen y gad, wrth arwain y chwyldro, er mwyn achub y Gymraeg.
Digwyddodd digwyddiad hynod o bwysig arall a sbardunwyd y frwydr dros yr iaith yn 1955, pan benderfynodd aelodau o Gyngor Dinas Lerpwl eu bod am foddi Cwm Tryweryn, ger y Bala, er mwyn cyflenwi dŵr i’r ddinas honno. Dyma benderfyniad wnaeth ysgwyd y wlad, a gwelir y sgîl-effeithiau hynny hyd heddiw, er gwaethaf y protestio ffyrnig yn lleol, a thrwy Gymru. Mae’r enw Tryweryn, fel y gwyddoch, yn symbol pwerus yn hanes Cymru hyd heddiw.
O ganol y 1980au ymlaen gwelwyd dyfodiad Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru a olygai fod pob plentyn rhwng 5 a 16 oed yn astudio’r iaith Gymraeg yn yr ysgol. Tua’r un adeg yr oedd ymgyrchwyr eraill yn brwydro am sianel deledu Cymraeg. Cyrhaeddodd yr ymgyrch ei phenllanw yn 1980 pan gyhoeddodd Gwynfor Evans y byddai’n ymprydio, hyd at farwolaeth, oni byddai Llywodraeth Prydain Fawr yn cadw at eu haddewid i sefydlu sianel Gymraeg annibynnol. Yn 1982 lansiwyd S4C.
Cynhaliwyd Refferendwm, ym mis Medi 1997, a phleidleisiwyd o blaid Datganoli, o fwyafrif bychan, ac agorwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy flynedd yn ddiweddarach. Wedi sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, canolbwyntiodd ymgyrchwyr dros yr iaith ar lobïo gwleidyddol yn hytrach nag anufudd-dod sifil.
Oni bai am yr holl weithredu a fu yn ystod y ganrif ddiwethaf, i godi statws yr iaith, ni fyddai’r Gymraeg mewn lle hanner mor gadarn ac y mae hi heddiw. Fodd bynnag, nid yw’r holl weithredu yma wedi cael ei gyflawni er mwyn i ymwelwyr gael dod yma i amharchu iaith a thraddodiadau Cymru.
Sut mae datrys y broblem yn y dyfodol, meddech chi? Credaf y dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud hi’n orfodol i bawb, sy’n symud i fyw i Gymru, ddysgu’r iaith Gymraeg. Dylai pobl sy’n penderfynu prynu tai yng Nghymru hefyd gael y gefnogaeth angenrheidiol, i ddysgu ac ymarfer eu Cymraeg.
Mae pryder cynyddol wedi bod am y farchnad dai Nghymru. Mae ystadegau yn dangos cynnydd blynyddol o 5.8% ym mhrisiau tai Cymru ar gyfartaledd, gyda chynnydd o 2.9% yn ystod y misoedd diwethaf yn unig. Mewn ymateb i’r broblem, mae Plaid Cymru yn galw am reolau newydd ar ail gartrefi ac yn dweud nad yw 60% o bobl y sir yn medru fforddio tŷ’n lleol.
Yn ychwanegol, mae’n hynod bwysig ein bod ni’n amddiffyn enwau lleoedd Cymreig, oherwydd eu bod yn rhan annatod o’n diwylliant, a’n treftadaeth unigryw ac y dylai Llywodraeth Cymru, trwy ddeddf, wneud hyn. Yn sicr, o dan unrhyw amgylchiadau, ni ddylid caniatáu newid enwau lleoedd er budd ymwelwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg. Pe bai’r ymwelwyr yn gwneud mwy o ymdrech i ddeall ein hiaith a’n diwylliant Cymreig, credaf y byddai’n helpu i ddatrys y mater.
Fodd bynnag, mae camau yn cael eu cymryd yn barod i ddatrys y broblem o newid enwau tai. Mae deiseb yn cael ei thrafod gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd sy’n galw am ei gwneud yn anghyfreithlon i newid enwau tai o’r Gymraeg i’r Saesneg. Mae dros 18,000 o bobl wedi arwyddo, a gobaith y trefnydd yw y bydd y mater yn mynd o flaen aelodau’r senedd fel y gwneir penderfyniad a chreu deddf ar y mater. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw’n parhau i gasglu gwybodaeth er mwyn dirnad pa gamau sydd angen eu cymryd.
Yn fy marn i, rhaid sicrhau nad yw’r iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg. Gellir gwneud hyn trwy osod dyletswyddau ar sefydliadau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
Unwaith eto, mae’n gyfrifoldeb y dylai Llywodraeth Cymru ei derbyn. Dylid gosod mesurau pellach hefyd i sicrhau y dylai’r cyhoedd, sy’n siarad Cymraeg, wneud ymdrech i ddechrau sgwrs trwy gyfrwng y Gymraeg bob amser. Hefyd dylai mwy o Ysgolion Cymraeg, Cynradd ac Uwchradd, gael eu hagor trwy Gymru. Buasai hyn yn cyd-fynd ac ymgyrch Llywodraeth Cymru, i weld miliwn o siaradwyr Cymraeg, erbyn 2050. Does dim dwywaith fod hon yn uchelgais heriol.
Rwy’n sicr y gwnewch chi gytuno gyda mi, fod angen i ymwelwyr ddangos mwy o barch tuag at iaith a thraddodiadau Cymru.
Mae’r ffordd y mae ymwelwyr yn trin iaith a diwylliant Cymru yn gwbl annerbyniol. Mae’n rhaid i ni, fel cenedl, boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl, neu beidio, chwarae ein rhan a gwireddu ein huchelgais, drwy fynnu fod ymwelwyr yn dangos parch tuag at ein hiaith a’n traddodiadau. Mae’r iaith Gymraeg yn un o drysorau Cymru, mae’n rhan o’r hyn sy’n ein diffinio ni fel cenedl ac mae’n werth brwydro drosti, er mwyn ei hamddiffyn ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.
Mae’r Cymro yn cyhoeddi cyfres o ddarnau barn a newyddiaduraeth newydd dan y teitl Lleisiau Newydd. Rydym yn awyddus iawn i gyhoeddi gwaith unigolion o bob rhan o gymdeithas. Os hoffech gymryd rhan ac ysgrifennu rhywbeth ar ein cyfer cysylltwch â: barrie.jonescymro@gmail.com
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.