Rhifyn Mehefin Y Cymro

Newyddion

Dyfodol ein Senedd sydd ymysg y pynciau’n cael y sylw yn rhifyn Mehefin Y Cymro.

Rhaid ei diwygio meddai un o’i phwyllgorau… ac mae’n bosib gwneud hynny mewn byr amser hefyd. “Gyda mwy o bwerau, rhaid sicrhau mwy o atebolrwydd. Mae arnom angen senedd a all graffu’n effeithiol ar y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, ar ran y cyhoedd y mae’n ei gwasanaethu. Nid yw’r system bresennol yn caniatáu i hynny gael ei wneud cystal ag y dylai gael ei wneud.”

Mae’r ymgyrch ar Annibyniaeth i Gymru ar y dudalen flaen eto hefyd gyda stori ar dudalen 3 am y penwythnos mawr sydd yn cael ei drefnu yn ninas newydd Wrecsam ar ddechrau mis Gorffennaf. Wrth gwrs, fe roddodd y pandemig stop i’r gorymdeithio am ddwy flynedd ond mae disgwyl i hon fod yr un fwyaf eto gan adeiladu ar y twf sydd wedi bod yn y gefnogaeth i annibyniaeth ar draws y wlad. Dywedodd Phyl Griffiths, un o’r trefnwyr a chyfarwyddwr YesCymru: “Mae Wrecsam wedi cymryd rhan flaenllaw yn hanes Cymru dros y canrifoedd, ac mi fydd hi’n braf cael ysgrifennu pennod ddiweddaraf hanes ein cenedl yma hefyd, a disgwylir miloedd o gefnogwyr ddod i helpu i greu yr hanes hwn.”

Ymysg y colofnau barn y mis hwn mae un am dref unigryw Llandeilo sydd wedi ei henwi fel y lle gorau yng Nghymru gan bapur y Times. Digon teg yn ôl Heddyr Gregory – ond ‘cadwch hyn yn gyfrinach, plîs’ meddai wrth dynnu sylw at y ffaith nad oes modd i bobl ifanc yr ardal gael byw yno. “Does ganddyn nhw ddim gobaith medru fforddio prynu tŷ yn lleol a gwelir cynifer ohonynt yn dadwreiddio a symud i ardal lle medrant fforddio gosod gwreiddiau newydd. Y rhain fyddai dyfodol yr iaith Gymraeg yn yr ardal”.

Be am gael cân Gymraeg yn yr Eurovision meddai’r colofnydd Cadi Edwards? Pam ddim wir? – cyflwynodd Ffrainc un mewn Llydaweg eleni. Meddai Cadi: Tra bo’r gwledydd eraill yn meddwl mai trwy gân Saesneg mae llwyddo, y buasai Prydain yn mynd yn groes gan arddangos elfen arall o ddiwylliant Prydeinig. Felly, os oes yna gyfansoddwyr yn darllen y golofn hon, ewch ati i ‘sgwennu caneuon yn y Gymraeg ar gyfer Eurovision y flwyddyn nesaf, does wybod beth ddigwyddith!

Y thriller seicoleg chwe rhan Y Golau sy’n cael sylw Dylan Wyn Williams yn ei golofn am y cyfryngau. Wrth ddweud bod cymar Saesneg i’r gyfres i ymddangos yn ddiweddarach eleni, gofyn mae o – pam bod cymaint o’r iaith honno yn y fersiwn Gymraeg? Meddai Dylan: “Realiti’r Gymru bei-ling, medd rhai, ond leiciwn i wylio drama Gymraeg ar unig sianel Gymraeg yr hen fyd hurt ma. Llywodraeth Cymru, trwy fenter ‘Cymru Greadigol’, sy’n ariannu’r cynhyrchiad. Mewn byd delfrydol, byddan nhw wedi canolbwyntio ar greu fersiwn Gymraeg yn unig, sy’n gwbl realistig o gofio’r ffaith taw Dyffryn Tywi yw’r lleoliad, a gwerthu honno’n rhyngwladol.”

Mae rhifyn Mehefin Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau