Effaith ddinistriol Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU ar Gymru yw un o bynciau mawr rhifyn mis Rhagfyr Y Cymro.
Mae ambell un yn ei farnu’n chwyrn gan ddweud y bydd yn sicr o ffafrio buddiannau Lloegr a gwanhau datganoli gan ddadwneud gwelliannau’r ugain mlynedd olaf.
Mae tri o bwyllgorau ein Senedd eisoes wedi galw am ei wrthod ac mae eraill yn ei ddisgrifio fel rhan annerbyniol o broses Brexit ac sydd yn siŵr o leihau pwerau’r gwleidyddion yn y Bae gan y bydd yn arwain at wneud penderfyniadau pwysig dros Gymru gan rai tu hwnt i’r ffin.
Crafu pen mae’r colofnydd Lyn Ebenezer wrth holi pam bod y BBC eto wedi gwau ei hun yn gwlwm dros newid geiriau un o’i hoff ganeuon Nadoligaidd, ac mae’n gofyn am ychydig o gysondeb ynghanol yr holl gywirdeb gwleidyddol presennol.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn amlinellu’n glir pam ei bod yn hollbwysig i’r Gymraeg gael lle canolog ar y we a pham hefyd bod sefydlu a chynnal menter ddigidol yn rhan greiddiol o hynny.
Mae gan y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol syniadau penodol am ddatrys diffyg y cyfryngau Cymreig a Chymraeg – a rhan ganolog y Llywodraeth yn hynny.
Wrth gofio clasur o gyfres o’r 80au mae’r colofnydd Dylan Wyn Williams yn poeni am yr hyn sydd ar y sgrin y dyddiau hyn oherwydd twf cyfresi Cymraeg sy’n cael eu cyfieithu.
Mae cysylltiad annisgwyl yr athrylith Beethoven ag alawon Cymreig hefyd yn cael sylw gan Mel Hopkins tra bod ein colofnydd chwaraeon Dylan Ebenezer yn edrych yn ôl ac ymlaen ac yn hiraethu am normalrwydd unwaith eto!
Ac yn ôl yr arfer mae sylw i lyfrau newydd, moduro, garddio a cherddoriaeth.
Bydd y Cymro ar gael o ddiwedd yr wythnos mewn siopau ar draws Cymru yn ogystal ag ar ein gwefan.
I dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy glicio yma: ycymro.cymru/tanysgrifio neu gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.