Rhifyn Awst Y Cymro

Newyddion

Rhybudd bod rhannau helaeth o boblogaeth Cymru mewn peryg o gael eu ‘gwahardd o fywyd modern’ sydd ar dudalen flaen rhifyn Awst Y Cymro wrth i un o bwyllgorau ein Senedd dynnu sylw at broblemau parhaol ein gwlad ag ansawdd cysylltiadau band eang.

Mae’r Pwyllgor yn rhybuddio bod risg y bydd mynediad at fand eang yn dod yn foethustra na fydd llawer yn gallu ei fforddio.
Meddai Llŷr Gruffydd AS:  “Mae’n siomi rhywun yn ofnadwy i glywed bod llawer o bobl yng Nghymru o hyd heb fynediad at fand eang cyflym iawn. Yn enwedig yn sgil y pandemig, a’r ffaith bod mwy a mwy o’n bywydau’n digwydd ar-lein. Annhegwch pur yw’r ffaith bod disgwyl i gynifer o bobl mewn ardaloedd gwledig oddef band eang annibynadwy, israddol. Dylai cysylltiad â band eang cyflym iawn fod ar gael i bawb yng Nghymru, nid y rhai mewn ardaloedd trefol yn unol –  ni ddylai gael ei ystyried yn beth moethus.”

 

Wrth gwrs mae dychweliad y Brifwyl yn cael sylw yn y rhifyn hefyd gydag ambell i lun o ddyddiau cyntaf yr Ŵyl hir ddisgwyliedig.

Siâp dyfodol yr iaith sydd gan Dafydd Iwan y mis yma a phwysigrwydd ein diwylliant byw yn ein cymunedau i’r dyfodol hynny. Meddai: “Mae llawer o awyr yn cael ei falu, a llawer o ddwli yn cael ei ddweud wrth drafod y Gymraeg a’i dyfodol.  Ac y mae’r rhan fwyaf sy’n cymryd rhan yn y trafod hynny wedi colli cysylltiad â’u gwreiddiau, ac wedi anghofio beth yw bod yn rhan o ddiwylliant a chymuned Gymraeg go iawn.
Dyna pam mae’n rhaid inni sicrhau dyfodol ein cymunedau gwledig – yn ogystal â’n cymunedau dinesig-Cymraeg, a datganoli cymaint fyth ag y medrwn o Gaerdydd a’r De-ddwyrain. Mae datblygu’r Gymraeg fel iaith ddinesig yn bwysig, wrth gwrs, ond cwbl hanfodol yw sicrhau economi a chymdeithas yr ardaloedd gwledig os ydym am sicrhau ffyniant i’n hiaith a’i diwylliant amrywiol.”

 

Safbwynt o rybuddio sydd gan Gruffydd Meredith yn ei golofn barn hefyd wrth ddadlau y dylai Cymru drio bod yn fwy hunan gynhaliol o ran bwyd, tanwydd ac egni. Meddai: “Paratowch a gwarchodwch eich hun a’ch teulu rhag prinder yn y pethau yma cyn gynted â phosib – yn barod at heriau’r dyfodol.”

Sôn am sut mae Cymru wedi esblygu ac aeddfedu cymaint ers Arwisgo 1969 mae’r colofnydd Trefor Jones wrth gyferbynnu’r ymateb i’r digwyddiad hwnnw a’r Jiwbilî ddiweddar. Meddai Trefor: “Cymerodd dipyn o asgwrn cefn yn 1969 i wrthwynebu’r dathliad Hollywoodaidd yng nghastell Edward y Cyntaf.
“A chofiaf mai ni oedd un o’r ychydig dai heb faner Jac yr Undeb yn y stryd, yn ogystal cafwyd te parti stryd… Wrth sgrolio dros hanner canrif yn ddiweddarach at y Jiwbilî Blatinwm, gwelwyd cymdeithas a gwledydd gwahanol iawn.”

 

A trist oedd y colofnydd Esyllt Sears wrth wylio Ewros y Menywod. Nid jyst am fod Cymru ddim yn chwarae ond iddi hi beidio â chael gwireddu ei ‘photensial pêl-droedaidd’ pan yn iau. Meddai: “Mae fy merch, sy’n chwarae ddwywaith yr wythnos, yn ei chael hi’n anodd deall pam nad o’n i’n gallu chwarae pan o’n i ei hoedran hi.”

Mae rhifyn Awst Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau