Casgliad o ddarnau barn cryf sy’n ganolog i rifyn Medi Y Cymro gyda’r pynciau hynny sydd fwyaf arwyddocaol yn y Gymru gyfoes yn cael y driniaeth!
Dydi un pwnc pwysig byth ymhell iawn o’r dudalen flaen ac mae argyfwng y farchnad dai eto yn cael sylw gyda’r syniad – er grymoedd newydd ein cynghorau – hwyrach mai ond deddfu go iawn sydd â gobaith o roi blaenoriaeth i bobl leol yn y diwedd.
Meddai Jeff Smith o Gymdeithas yr Iaith: “Fydd y grymoedd newydd yma fydd gan awdurdodau lleol ddim yn golygu y bydd pobl yn ardaloedd gwledig Ceredigion na chymoedd y de yn gallu fforddio tai, wrth i brisiau tai barhau i gynyddu; a fyddan nhw ddim yn golygu y bydd pobl yng Nghaerdydd yn gallu cael cartref am rent fforddiadwy. Mae’n glir mai’r hyn sydd ei angen yw Deddf Eiddo.”
Dadansoddi agweddau o’r Steddfod mae Eryl Crump wrth ddod i’r casgliad sicr nad oes modd plesio pawb. Meddai: “Yn sgil y cwynion am y tywydd a’r toiledau clywyd y gri am sefydlu canolfannau sefydlog i’r Eisteddfod Genedlaethol. Honnwyd bod Tregaron yn lleoliad perffaith i’r Brifwyl gan fod digon o dir addas ac adnoddau digonol wrth law.
“Tra bod rhywbeth i’w ddweud dros ganolfan sefydlog mewn gwirionedd nid yw’n ddadl sy’n ddilys iawn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae bywyd cymdeithasol Ceredigion wedi ei ganoli ar godi arian i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r un peth yn wir yn Llŷn ac Eifionydd ac yn ardal Rhondda Cynon Taf lle cynhelir Eisteddfod 2024.
Mae gweithgareddau o’r fath yn denu’r gymdeithas at ei gilydd gan gynnwys y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Collir hyn os sefydlir canolfannau sefydlog.”
Anghytuno mae Dafydd Iwan yn ei golofn. “…pam ydw i’n dal o’r farn mai sefydlu mewn rhai lleoliadau parhaol ddylai’r nod fod i’n Prifwyl genedlaethol?
Am fy mod yn credu fod yr arian a godir gan weithgarwch gwirfoddol dros ddwy flynedd (a mwy yn achos Tregaron), ynghyd ag arian y Llywodraeth (leol a chanolog) ddim yn cael ei wario yn y ffordd orau i ddatblygu’r Eisteddfod fel ein prif ŵyl fel Cymry.
“Mae’r arian sylweddol a werir bob blwyddyn yn mynd i logi meysydd eang, ar eu paratoi a’u hadfer wedyn, ac i greu isadeiledd drudfawr dros dro. Ac fel y gwelwyd eto eleni, os yw’r tywydd yn anffafriol neu amgylchiadau eraill yn troi tu min, mae’r twll di-waelod yn mynd yn fwy ac yn fwy.
Ond ydi’r Eisteddfod ei hun yn elwa? Ydi’r cyfleusterau ar y Maes yn gwella? Ydi’r cyfleusterau ar y meysydd carafan a gwersylla yn gwella? Go brin.”
Mwyhau Gŵyl y Dyn Gwyrdd roedd Gruffydd Meredith wrth synnu hefyd cymaint o’r siaradwyr nad oedd wedi sylwi’r tir yn symud dan eu traed. Meddai: “Un cwyn o fath am nifer o’r siaradwyr a chomediwyr honedig rhyddfrydol o Loegr oedd yn siarad neu berfformio yn yr ŵyl.
Mae nifer o’r rhain yn dal i ddefnyddio termau di ystyr ac anacronistaidd megis ‘this country’ a ‘this nation’ pan yn trafod Prydain – fel nad ydynt yn ymwybodol o’r holl newid sydd yn mynd ‘mlaen, o ddatganoli, ac o’r holl ymgyrchoedd helaeth am annibyniaeth i Gymru, yr Alban, Cernyw a Lloegr ei hun – maent megis y coloneiddwyr imperialaidd o’r Ymerodraeth Brydeinig yn nyddiau ola’r Raj – yn despret i’r ychydig ffyddlon sydd yn dal i wrando arnynt i gario mlaen i gogio nad ydi popeth yn newid.
Darllenwch y stafell Guardianistas!”
Mae rhifyn Medi Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.