Un cwestiwn hollbwysig sydd wrth wraidd ambell i erthygl barn yn rhifyn Gorffennaf Y Cymro – pam bod yn rhaid i Gymru barhau i gael ei gweld drwy lygaid cyfryngau sydd yn berchen i gwmnïau tu hwnt i’r ffin neu sy’n cael eu rheoli gan adrannau o lywodraeth y DU heb unrhyw ddatganoli?
Os dangosodd dyddiau du’r pandemig rhywbeth i ni – y ffaith bod yn rhaid cael cyfryngau gallwn ymddiried ynddynt i gario’r neges gywir a pherthnasol i ni oedd hynny.
Oes gobaith felly bod cyfle rŵan i’r nonsens o beidio bod â rheolaeth dros gyfryngau ein hunain am gael ei sortio o’r diwedd?
Meddai Heledd Gwyndaf: “Mae angen rheoliadau sydd yn cefnogi ac yn adlewyrchu y math o genedl yr ydyn ni eisiau bod. Nid system sydd yn cefnogi grymoedd y farchnad ar draul ein hiaith, ein diwylliant, ein hunaniaeth, ein heconomi ni a democratiaeth ein pobl.”
Meddai Sharon Morgan: “Pam mae’n gwlad yn llawn cwmnïau mawr yn creu cynyrchiadau gwerth miliynau sy’n adrodd straeon diwylliant arall sy’n boddi ein hymdrechion ni i ddweud ein straeon ni ar arian gymaint yn llai?”
Meddai Mirain Angharad o Gymdeithas yr Iaith: “Gwnaeth y pandemig hi’n amlwg bod y cyfryngau yn methu gwahaniaethu rhwng Lloegr a Chymru, gan achosi dryswch. Daeth hi’n fwy amlwg hefyd bod pwyslais y cyfryngau Llundeinig ar Loegr o hyd.”
Wedi’r holl sylw newydd i’r gân, gofyn pwy a be sy yma o hyd mae Dafydd Iwan. Be oedd y syniad tu ôl i’r gân felly? Meddai Dafydd: “…nid cyfansoddi polisi plaid oedd fy mwriad, na chreu strategaeth lywodraeth, dim ond dathlu’r ffaith ein bod yn genedl, yn genedl wahanol, a bod gennym gyfraniad mawr i’w wneud i’r byd dim ond inni gael y rhyddid a’r cyfle i wneud hynny yn ddi-lyffethair.
Os nad yw pob gwleidydd yn deall hynny, mae ffans y bêl gron yn deall yn iawn!”
Dirgelwch marwolaeth un o dywysogion Cymru wrth ddianc o Dŵr Llundain yw pwnc yr hanesydd Mel Hopkins y mis hwn tra’n canolbwyntio ar dactegau defnyddiol wrth brynu eiddo mae’r colofnydd busnes Gari Wyn Jones.
Mae rhifyn Gorffennaf Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.