Mae’r ffrae barhaol am bwy sy’n gyfrifol am ddiogelu hen domenni glo Cymru yn cael sylw ar dudalen flaen rhifyn Ebrill Y Cymro. Yn destun dadl ers cryn amser mae wedi cyrraedd pwynt berwi wrth i Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters ddweud: “Nid yw setliad ariannu Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r costau anghymesur o fynd i’r afael â gwaddol glofaol y DU. Mae’n gwbl annheg ac, yn blwmp ac yn blaen, yn anghynaladwy i San Steffan barhau i ddadlau y dylai cymunedau Cymru ysgwyddo’r costau hyn.”
Mae’r fideo mae pawb yn siarad amdano (a’i wylio) yn cael digon o sylw hefyd. Pa fideo? – wel, perfformiad angerddol Dafydd Iwan o ‘Yma o Hyd’ cyn y gêm fawr gan wrth gwrs. Mae cannoedd ar filoedd wedi ei weld yn barod ar YouTube. Da o beth!
Tynnu sylw at ddyfodol ein siopau Cymraeg y mae Dafydd Iwan ei hun yn ei golofn tra bod Lyn Ebenezer yn cofio ei hen ffrind Dai Jones Llanilar gan obeithio ei fod bellach mewn rhyw nefoedd o gefn gwlad: ‘A boed y nefoedd honno yn nefoedd ddi-gathod’.
Annhegwch llwyr y farchnad dai sydd gan Gymdeithas yr Iaith mewn golwg eto wrth ofyn a ydi gweithredu diweddar ein Llywodraeth yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth. Meddant: “Mae natur y farchnad dai yn golygu ei bod hi o fudd i werthu tŷ am bris mor uchel â phosibl ac mor sydyn â phosibl. Does dim cymhelliant i rywun werthu tŷ am bris teg i bobl leol neu brynwyr tro cyntaf. A heb ymyrraeth yn y farchnad fydd hynny ddim yn newid.”
Dirgelwch glaniad UFO ar fynydd Caerffili sydd o dan sylw yr hanesydd Mel Hopkins y mis hwn. Pwy oedd y ddau ddyn estron a welwyd yn 1909? Ofnai ambell un mai goleuadau Zeppelin oedden nhw – wedi ei danfon gan y Kaiser i baratoi am oresgyniad!
Mae rhifyn Ebrill Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.