Rhifyn Mai Y Cymro

Newyddion

Mae golwg ar y byd tu hwnt i’r etholiadau lleol yn ffurfio rhan o gynnwys rhifyn Mai Y Cymro gydag ambell i her i’n cynghorwyr newydd ar draws y wlad bron cyn iddynt ffeindio’i seddi.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gosod sialens i holl awdurdodau lleol Cymru wrth ofyn iddynt oll chwarae eu rhan yn effeithiol i wireddu’r weledigaeth ar gyfer ein hiaith. Meddai Tamsin Davies, Is-gadeirydd Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith:
“Does dim dwywaith bod rhan flaenllaw gan y cynghorau yn sicrhau mwy na miliwn o siaradwyr Cymraeg, felly ar ddechrau tymor newydd gosodwn yr her i holl awdurdodau lleol Cymru gyfrannu at y targed o greu mwy na miliwn o siaradwyr Cymraeg.”

Yr argyfwng tai sydd eto yn cael sylw yng nhgolofn Dafydd Iwan gyda’i farn na fydd unrhyw beth yn newid nes bydd gweithredu cadarn gan y Llywodraeth, ein Hawrdudodau Lleol, a ninnau hefyd. Mae’n cymharu ein sefyllfa ni yng Nghymru i un sydd yn waeth fyth yng Nghernyw. Meddai: “Y bwgan mawr yno yw ail-gartrefi a llety gwyliau tymor-byr; mae’r farchnad mor boeth fel bod pobl leol sy’n rhentu eu cartrefi yn cael eu troi allan o’u cartrefi er mwyn i’r tai gael eu troi yn eiddo Airbnb neu lety gwyliau.”

Wrth i’r Cymro gyrraedd y siopau roedd stori hefyd yn y newyddion am hen fwthyn pysgotwr yn Abersoch yn mynd ar y farchnad. Am faint? Ie, £2.2 miliwn!!

‘Nid doeth yw gorffwys ar ein rhwyfau ieithyddol’ meddai Bethan Jones Parry yn ei cholofn am lansio llyfr am hen ieithoedd Ynysoedd y Sianel.

Wrth nodi bod ambell un erbyn heddiw am geisio adfer a hybu’r ieithoedd hynny mae hi’n sylwi hefyd: “Mae’r cyswllt rhwng grym gwleidyddol a iaith rymus yn bodoli o hyd. Da o beth fydd cofio hynny wrth i lywodraeth San Steffan gyda’i mwyafrif seneddol enfawr wneud ei gorau glas i sicrhau y bydd amrywiol ieithoedd lleiafrifol y tir mawr Prydeinig, fel ieithoedd  ynysoedd y Sianel, yn dirywio i fod yn dafodieithoedd, am nad oes arweiniad digon grymus i sicrhau y bydd yr hen wybodaeth yn yr hen eiriau yn parhau a’r Saesneg, fel y Francien, wedyn yn goroesi.”

Blaidd-ddynion yng nghefn gwlad Cymru! Ie, dyna fo – neu o leiaf dyna sut oedd Hollywood weithiau yn ein gweld yn oes aur y ffilmiau. Mae’r hanesydd Mel Hopkins yn edrych ar sut wnaeth hen ffilmiau’r 1930au a’r 1940au greu delwedd dra gwahanol o’n gwlad.

Mae rhifyn Mai Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau