Rhifyn Tachwedd Y Cymro

Newyddion

Mae rhifyn Rhagfyr Y Cymro yn y siopau erbyn hyn gyda barn o bob pegwn fel arfer.

 

Mae siâp y frenhiniaeth newydd yn ei le wrth gwrs ond prin yw’r croeso ymysg llawer i’r newyddion – a ddaeth yn gyflym iawn – fod gennym dywysog newydd. Dim byd personol wrth gwrs ond teitl yw hwn sy’n perthyn i’r llyfrau hanes ac nid i’r Gymru gyfoes yn ôl un o gynghorwyr Gwynedd.

 

Dywedodd Cynghorydd Bowydd a Rhiw Blaenau Ffestiniog, Elfed Wyn ap Elwyn ei fod yn credu’n gryf fod y teitl Tywysog Cymru yn symbol hanesyddol o oruchafiaeth dros Gymru gan deulu brenhinol gwlad arall.

“Mae Cymru heddiw yn wlad fodern, ddemocrataidd, gyda Senedd yn gwneud cynnydd, gan roi llais a llwyfan i bobl Cymru ysgogi newid a datblygu fel cenedl.

“Mae’r traddodiad gormesol hynafol hwn yn falltod ar ein cenedl ac wedi bod ers canrifoedd. Mae’n rhoi’r argraff mai’r system sy’n berchen ar bobl Cymru, yn hytrach na bod yn                                        ddinasyddionrhydd sy’n byw yn ein gwlad ein hunain.”

 

Ac ydi, mae Dafydd Iwan am fynd i Qatar i ddweud stori ein gwlad wrth y byd. Meddai yn ei golofn y mis hwn: “…does dim dwywaith y bydd dwsinau o wledydd, a channoedd o newyddiadurwyr, yn heidio i Qatar i chwilio am straeon.

“A bydd yn llwyfan ardderchog i Gymru i ddweud ein stori ni wrth y byd, ac i gyhoeddi ein bodolaeth i fyd sydd i raddau helaeth heb glywed fawr ddim amdanom o’r blaen. Fawr ddim, hynny yw, ond fod Tom Jones, Gareth Bale, Shirley Bassey ac Anthony Hopkins yn ‘Welsh’.”

 

Croeso i Robat Idris fel Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith. Meddai yn ei golofn yn y rhifyn yma: …”mudiad sy’n trafod a gwyntyllu syniadau yw’r Gymdeithas, a braint y Cadeirydd yw cydlynu, nid bod yn unben!

 

“Gyda Senedd y Gymdeithas, grwpiau ymgyrch a rhanbarthau yn llawn o bobl frwdfrydig â thân yn eu boliau dros ein cymunedau a’r iaith edrychaf ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod, gan obeithio y byddaf yn deilwng o ymddiriedaeth yr aelodau, ac y gallaf ddilyn ôl troed fy rhagflaenydd disglair Mabli Siriol.”

 

Ac un tro ymhell yn ôl – coeliwch chi ai peidio – roedd yn cael ei weld yn beth hollol gall a naturiol mai Cymro fyddai Tywysog Cymru! Wel pwy fasa’n meddwl y fath beth? Llinach falch yn wir ond pwy fradychodd ei Llyw Olaf? – dyna bwnc diddorol yr hanesydd Mel Hopkins yn ei golofn yn y rhifyn hwn.

 

Mynnwch eich copi!

 

 

Mae rhifyn Tachwedd Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau