Lleisiau newydd: Harri pwy? – gan Cara Owen, Ysgol Dyffryn Ogwen  

Barn

gan Cara Owen – Blwyddyn 12, Ysgol Dyffryn Ogwen  

Brenhines llenyddiaeth fodern a’i dylanwad eang ar fy nghenhedlaeth i…  J.K. Rowling wrth gwrs!

Fe gyfeiriwyd at Kate Roberts fel ‘Brenhines ein Llên’ yma yng Nghymru – teitl haeddiannol iawn a hithau wedi ysgrifennu degau o lyfrau gwych a ysbrydolodd sawl llenor dros y blynyddoedd ac a fu’n gyfrifol am feithrin dychymyg cenedlaethau o blant.   

Ond pwy fyddai brenhines llenyddiaeth fodern plant heddiw? Dw i’n grediniol iawn y byddai J.K. Rowling ymhlith yr enwau ar frig y rhestr.  

Dw i’n gwybod nad yn y Gymraeg y mae hi’n ysgrifennu ond mae gwerth ei nofelau i mi yn amhrisiadwy ac yn haeddu pob cydnabyddiaeth.  

Felly pwy yn union ydi J.K. Rowling?   

Cafodd Joanne Rowling ei geni yn Yate, Swydd Gaerloyw ar yr unfed ar ddeg ar hugain o Orffennaf 1965. 

Dechreuodd ysgrifennu llyfrau yn ifanc iawn – ysgrifennodd ei llyfr cyntaf pan oedd hi yn chwech oed, sef llyfr am gwningen gyda’r frech goch. Roedd hi’n darllen y storïau oedd hi’n ysgrifennu i’w chwaer, Dianne.  

Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd St Michaels ac ysgol uwchradd a choleg Wyedean, a disgrifiodd ei hathro Saesneg hi fel rhywun oedd ‘ddim yn eithriadol’ ond yn ‘un o grŵp o ferched oedd yn ddisglair, ac yn eithaf da mewn Saesneg’.   

Roedd hi hefyd yn Brif Ferch yr ysgol. Gweithiodd Rowling fel ymchwilydd ac ysgrifennydd dwyieithog yn Llundain ar gyfer Amnest Rhyngwladol, yna symudodd gyda’i chariad i Fanceinion, lle bu’n gweithio yn y Siambr Fasnach.   

J.K. Rowling. Llun: Debra Hurford Brown

Ym 1990, roedd hi ar daith trên bedair awr o Fanceinion i Lundain pan ffurfiodd y syniad yn llawn yn ei meddwl am stori, bachgen ifanc yn mynychu ysgol ddewiniaeth.   

Pan gyrhaeddodd Clapham, dechreuodd ysgrifennu ar unwaith. Yn fis Rhagfyr 1990, bu farw mam Rowling, Anne, ar ôl deg mlynedd yn dioddef o sglerosis ymledol. Roedd Rowling yn ysgrifennu Harry Potter ar y pryd, a heb ddweud wrth ei mam amdano.   

Effeithiodd marwolaeth ei mam yn drwm ar ysgrifennu Rowling, ac fe sianelodd ei theimladau ei hun am y golled drwy ysgrifennu am alar Harry Potter yn y llyfr cyntaf.   

Ym 1991, symudodd Rowling i Bortiwgal i ddysgu Saesneg. Dechreuodd ddysgu gyda’r nos, ac ysgrifennu yn y dydd. Cyfarfyddo ddyn o’r enw Jorge Arantes mewn tafarn, a phriododd y ddau ym mis Hydref 1992.   

Ym mis Gorffennaf 1992, cafodd y ddau faban o’r enw Jessica ond gwahanodd y ddau ym mis Tachwedd 1993. Erbyn heddiw, mae Rowling wedi priodi eto, ac yn byw yn yr Alban gyda’i gŵr a thri o blant. 

Ers cyhoeddi’r gyfres Harry Potter, mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau eraill, yn cynnwys The Ickabog a llyfr arall a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021, The Christmas Pig, yn ogystal â nofelau trosedd – un enghraifft yw llyfr o’r enw Troubled Blood 

Felly pam fod Harry Potter wedi bod yn syniad mor llwyddiannus?  

Cafodd y nofel gyntaf hon ei hysgrifennu yn 1990, ac nid oedd ei chyhoeddi yn dasg hawdd o gwbl.   

Gorffennodd Rowling y llawysgrif gyntaf yn 1995, a chafodd ei yrru ymlaen i ddeuddeg o gyhoeddwyr gwahanol, ond cafodd ei wrthod gan bob un.   

Serch hyn, ni wnaeth J.K. Rowling roi’r ffidil yn y to, dangosodd ddygnwch drwy ddal ati i yrru’r llawysgrif ymlaen nes, flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd ei dderbyn gan Barry Cunningham, golygydd y cyhoeddwr Bloomsbury.   

Cafodd ei dderbyn oherwydd rhoddodd Barry y bennod gyntaf i’w ferch, ac fe fynnodd honno’r bennod nesaf yn syth wedi iddi ei orffen.   

Cafodd J.K. Rowling mil pum cant o bunnau gan Bloomsbury. Ym mis Mehefin 1997, cyhoeddodd Bloomsbury Harry Potter and the Philosophers Stone gyda rhediad print cychwynnol o 1,000 o gopïau, a dosbarthwyd 500 ohonynt i lyfrgelloedd.   

Heddiw, mae copïau o’r fath yn werth rhwng £16,000 a £25,000. Bum mis yn ddiweddarach, enillodd y llyfr ei wobr gyntaf, Gwobr Llyfr Smarties Nestlé.   

Cafodd y llyfr dilynol ei gyhoeddi yn 1998, ac eto, enillodd Rowling y wobr Llyfr Smarties Nestlé. Erbyn heddiw, mae yna saith llyfr yn y gyfres, gyda phedwar wedi addasu ar gyfer y deillion, nifer ohonynt wedi cael eu cyfieithu i nifer o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg, sef Harri Potter a Maen yr Athronydd. Mae wyth ffilm ac mae’r gyfres i gyd yn werth tua deg biliwn o bunnoedd.   

Mae llyfrau Harry Potter hefyd wedi cael cydnabyddiaeth am ennyn diddordeb mewn darllen ymhlith yr ifanc ar adeg pan gredid bod plant yn rhoi’r gorau i lyfrau ar gyfer cyfrifiaduron, teledu a gemau fideo.   

Mae llawer o’r cymeriadau yn y nofelau yn fodelau rôl da iawn – er enghraifft Hermione Granger, merch ddewr a phenderfynol sydd yn canolbwyntio ar ei gwersi a gwaith ysgol yn fwy na dim arall – mae’n cael ei disgrifio fel y wrach ddisgleiriaf ei hoedran.   

Enghraifft arall fuasai Harry Potter ei hun, hogyn oedd wedi bod trwy gymaint yn ei fywyd ond yn dal yn benderfynol o achub y byd dewiniaeth. Hefyd mae yna sawl neges foesol gudd yn y nofelau fel sut y mae gan bawb gryfderau dim ots beth yw eich cefndir. Mae amrywiaeth o themâu hefyd yn cael eu taro yn y nofelau e.e. bwlio, marwolaeth, gwahaniaeth cymdeithasol a sawl un arall.  

Felly beth yn union yw effaith a dylanwad J.K. Rowling ar fywydau pobl ifanc fel fi heddiw (yn enwedig fel merch)?   

Mae J.K. Rowling wedi effeithio ac wedi dylanwadu ar fywydau pobl ifanc gan ei bod hi wedi ysbrydoli nifer o bobl a phlant i ddarllen, ac ysgrifennu llyfrau eu hunain. Mae plant a phobl hefyd wedi eu hysbrydoli gan ei haelioni.   

Mae Rowling wedi rhoi yn agos at $140 miliwn i wahanol elusennau, ac wedi sefydlu ei elusen ei hun, sef Lumos.   

Mae Lumos yn helpu trawsnewid systemau gofal ar draws y byd. Hefyd, mae hi wedi ysgrifennu dwy nofel i elusen, sydd wedi codi dros $17 miliwn. Mae hi wedi rhoi 16% o’i chyfoeth llwyr i elusennau.   

Mae hi hefyd wedi cael dylanwad enfawr ar ferched i ysgrifennu, gan ei bod hi’n awdures lwyddiannus mewn cymuned sy’n cael ei lywodraethu yn bennaf gan ddynion, yn enwedig am ei bod hi wedi dechrau ysgrifennu yn hŷn na’r rhan fwyaf o awduron.   

Roedd hi hefyd yn dlawd iawn pan gychwynnodd ac yn mynd i gaffis i ysgrifennu er mwyn cadw’n gynnes gan brynu un paned a cheisio gwneud iddo bara mor hir â phosib.   

Mae pobl yn gallu gweld bod llwyddiant yn bosib diolch iddi hi. Yn fy marn i, mae J.K. Rowling yn fodel rôl ysbrydoledig gan ei bod hi’n berson penderfynol ac yn ddynes lwyddiannus iawn.   

Credaf ei bod hi wedi gwneud darllen yn rhywbeth cŵl eto ymhlith pobl ifanc ac mae oedolion hefyd yn mwynhau darllen ei nofelau.   

Mae’r nofelau yn cuddio nifer iawn o wersi bywyd, er enghraifft gwybod ei fod yn iawn i ofyn am gymorth, bod cariad a ffrindiau pob tro’n trechu’r drwg, peidio colli golwg o’r dyfodol yr wyt yn ddeheu amdano, fod dewrder yn dod mewn sawl ffurf a bod dygnwch a dyfalbarhad yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant.  

Felly diolch J.K Rowling am fy ysbrydoli i a chenedlaethau o bobl ifanc i wireddu eu gobeithion a’u breuddwydion. 

 

Mae’r Cymro yn cyhoeddi cyfres o ddarnau barn a newyddiaduraeth newydd dan y teitl Lleisiau Newydd. Rydym yn awyddus iawn i gyhoeddi gwaith unigolion o bob rhan o gymdeithas. Os hoffech gymryd rhan ac ysgrifennu rhywbeth ar ein cyfer cysylltwch â: barrie.jonescymro@gmail.com

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau