Blog

#MapioCymru : Pwy sy’n dewis enwau’r map arlein Cymraeg o Gymru?

Pwy sy’n gyfrifol am ddiweddaru yr unig map arlein o Gymru yn Gymraeg? A: …Yr ateb byr yw, chi! Dyma flog gan Carl Morris sydd yn esbonio mwy.. Adeiladu map agored yn Gymraeg Cymrwch gip ar y map yma o Gymru, ble mae’r enwau lleoedd i’w gweld yn Gymraeg: openstreetmap.cymru  Mae nifer o bobl heb […]

Continue Reading

Y GÊM : Doedd Cymru ddim angen cadw llygad ar ‘Neighbours’ Eddie Jones #CYMLLO

Mae pris tat Cymreig wedi cael codiad sylweddol dros nos wrth i’n tîm cenedlaethol drechu’r hen elyn yn ein prifddinas ddoe. I ryw raddau, cliciwch yr abwyd…a darllenwch isod am farciau allan o 100. Chwaraeodd Y Cymry fel tîm o unigolion talentog gyda hud a lledrith gwlad y Rwla, tra mai dim ond unigolion yn […]

Continue Reading

Charlotte Church yn serennu mewn cyngerdd dros Gymru annibynnol

Cafwyd noson arbennig yn y Tramshed, Caerdydd neithiwr wrth i rai o brif gerddorion ac artistiaid Cymru ddod at ei gilydd i ddechrau’r drafodaeth am annibyniaeth i Gymru. Roedd y Tramshed yn orlawn gyda dros 1000 o bobol yn bresennol, y mwyafrif helaeth ohonynt yn bobol ifanc ond gyda chroestoriad o wahanol oedrannau hefyd yn […]

Continue Reading

Byw yn Dda

MAE CYFEILLION Y CYMRO YN CYFLWYNO… Mae Byw’n Dda yn bodlediad cyfrwng Cymraeg newydd sydd â’r bwriad o ysbrydoli pobl i fyw eu bywyd gorau gan rannu straeon a phrofiadau gwahanol bobl am y ffyrdd mae ffitrwydd, ffordd o feddwl a bwyta’n dda wedi newid eu bywyd. Y bwriad yw darlledu bob pythefnos ac iddo fod […]

Continue Reading

Elfis Pwy? Elfis Preseli?! #CofiwchDryweryn medd @mumphtoons

Yn dilyn dinistrio un o brif ddatganiadau gwleidyddol Cymru, mae un o Gyfeillion Y Cymro – y cartwnydd Mumph – wedi awgrymu ymateb teg i’r gwatwar ar wal enwocaf Llanrhystud, Ceredigion. Mae’r Cymro arlein wedi ystyried ceisio cysylltu gyda pherthnasau pell Elvis yn ardal enedigol ei fam, sef Preseli, ond mae’n dipyn o daith a […]

Continue Reading

Brexit – cyfle anhygoel am annibyniaeth i Gymru tu allan i unrhyw undeb

Barn bersonol ar y newid mwyaf i ni wynebu mewn cenhedlaeth – gan Gruffydd Meredith I bwy bynnag sydd â diddordeb, mi bleidleisiais i ddod allan o’r Undeb Ewropeaidd annemocrataidd ac o blaid Brexit yn 2016. Neu yn fwy manwl, fel cenedlaetholwr Cymreig, mi bleidleisiais am Wexit neu Cymxit i dynnu Cymru allan o’r Undeb […]

Continue Reading

CYHOEDDI GRANTIAU #CYMRAEG CYNGOR LLYFRAU CYMRU

Yn dilyn galwad agored am syniadau ar gyfer cylchgronau Cymraeg oedd yn dymuno gwneud cais am nawdd, derbyniwyd 19 o geisiadau gan gyhoeddiadau hen a newydd gan Gyngor Llyfrau Cymru. Llwyddwyd i gefnogi 17 o deitlau, dau ohonynt yn newydd i’r maes. Yn ogystal â hynny, llwyddwyd i gynnig arian datblygu unwaith ac am byth […]

Continue Reading

PLYGEINIO yng nghwmni Cass Meurig guru y Crwth

Wyn Williams o Gyfeillion Y Cymro a hedfanodd draw i’r Bala er mwyn cwrdd ag un o gerddorion fwyaf dawnus Cymru; Cass Meurig; sydd yn chwarae’r crwth a’r ffidil ac yn gantores gwerin. Wyn Williams : Sut ddaethoch chi yn rhan o’r byd gwerinol yng Nghymru? Cass Meurig: Tyfais i fyny yn chwarae cerddoriaeth werin, […]

Continue Reading

Adam Price yn llongyfarch yr Albanwyr am eu Parhad

SNP 1 Llafur 0? Dyw penderfyniad Prif Weinidog newydd Cymru Mark Drakeford i gael gwared ar Ddeddf Parhad Cymru ddim yn edrych mor glyfar nawr wrth i’r Alban ennill cefnogaeth y Goruchaf Lys i’w Deddf Parhad hwythau. Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price ymysg y cyntaf i’w llongyfarch, ““Rwy’n llongyfarch Llywodraeth yr Alban ar eu buddugoliaeth yn y Goruchaf Lys. Mae cyfiawnder cyfansoddiadol wedi gorfu,” meddai ef. “Gweithred gyntaf y Prif Weinidog newydd hwn fydd i […]

Continue Reading