Rhifyn Gorffennaf Y Cymro

Newyddion

Mae hi dal yn fis mêl i’n Llywodraeth newydd ac un ffordd yn unig eith hi o’r hyn ymlaen meddai ambell un.

Sinigiaeth ormodol mae’n siŵr ond mae’n wir dweud bod y busnes o gadw addewidion rŵan wedi dechrau o ddifri ac mae disgwyl mawr wneith pethau newid am y gorau ar ôl blynyddoedd o fynd dros yr un tir.

Ar ôl dangos ffydd mae gan bobl Cymru yr hawl rŵan i freuddwydio ac yn sgwennu i’r Cymro y mis yma mae ein Prif Weinidog newydd yn derbyn y cyfrifoldeb hynny. Meddai Rhun ap Iorwerth: “Mae’r Llywodraeth bellach yn un sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Rydym wedi cryfhau peirianwaith y Llywodraeth i sicrhau bod pob adran yn tynnu i’r un cyfeiriad, gyda phwrpas cyffredin, sef gwella bywydau pobl ledled Cymru.”

Darllenwch ei weledigaeth am ddyfodol ein gwlad yn rhifyn Gorffennaf Y Cymro.

Ac wrth glodfori’r ddrama DNA – a fu’n teithio Cymru yn ddiweddar – synnu mae Heledd Gwyndaf yn ei cholofn pam bod rhai ysgolion yn dewis addysgu’r gwyddorau drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Meddai Heledd: “Gwerth arall y ddrama i rywun fel fi sydd angen dadlau dros werth addysgu Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, credwch hynny neu beidio yn y flwyddyn 2026, oedd bod trafodaethau gwyddonol hollol naturiol i’w cael yn Gymraeg ynddi. Mor naturiol, mae’n annaturiol i mi fod yn gorfod codi’r peth fan hyn. A byddai gwell gen i beidio oherwydd dw i’n tynnu sylw at rywbeth na ddylwn i fod yn tynnu sylw ato.” Darllenwch ei cholofn y mis hwn.

Yr hen ddadl dros ddyfodol ein hysgolion bach gwledig sy’n cael y sylw gan Dafydd Iwan a hefyd Ffred Francis yng ngholofn Cymdeithas yr Iaith. Oes gobaith am ateb sy’n ymarferol ac sydd ar yr un pryd yn plesio pawb?

Mae rhifyn Gorffennaf ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: ta*********@****ro.cymru

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau