Mae’r gwaith o greu Maes Eisteddfod y Garreg Las yn ei anterth, gyda thîm newydd wrth y llyw yn gweithio i drawsnewid caeau yn Llantwd yn gartref i’r Brifwyl.
Eleni, bydd y maes yn edrych ychydig yn wahanol, gyda chynllun newydd a chyfuniad o brofiadau ac ardaloedd i ymwelwyr eu mwynhau. Bydd gwedd newydd i Lwyfan y Maes ac ardal Mas ar y Maes, ynghyd ag ardaloedd amgen fel y Llwyfan Llên a’r Tebot Hud, yn ychwanegu at awyrgylch yr ŵyl.
Mae’r gwaith o baratoi’r maes wedi bod yn mynd rhagddo ers canol mis Mehefin, ac am y tro cyntaf, Angharad Davies, y Pennaeth Gweithrediadau a Chynhyrchu sy’n arwain y gwaith. O’r cynllunio cychwynnol a gosod y Pafiliwn, i drefnu gwasanaethau a chydlynu cyflenwyr, bydd hi’n sicrhau bod pob rhan o’r safle’n barod i groesawu miloedd o ymwelwyr.
Ymunodd Angharad â’r tîm y llynedd ychydig wythnosau cyn Eisteddfod Wrecsam – dyma’r tro cyntaf felly iddi hi gael dalen wag i weithio ohoni. Ers hynny, mae wedi bod yn gweithio gyda staff, contractwyr a chyflenwyr i greu Maes sy’n gyffrous ac yn groesawgar ond hefyd yn ymarferol a diogel.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at weld pawb ar y Maes eleni. Mae wedi bod yn gyfle cyffrous i ailystyried sut mae’r safle’n gweithio. Ein nod yw creu Maes sy’n teimlo’n fywiog ond sy’n cadw’r ymdeimlad arbennig hwnnw o gymuned sy’n gwneud yr Eisteddfod mor unigryw.” meddai Angharad.
“Mae angen meddwl am bopeth – o’r strwythurau mawr, llwyfannau a chabanau, i ddŵr, trydan, ffyrdd mynediad, toiledau a’r holl fanylion bach sy’n gwneud i’r Maes weithio.”
Daw Angharad â phrofiad helaeth o’r byd cynhyrchu, theatr a gwyliau i’r swydd. Ar ôl astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, bu’n gweithio yn y theatr ac ar ddigwyddiadau mawr, gan gynnwys Glastonbury, Gŵyl Fringe Caeredin ac yn rhyngwladol, cyn treulio blynyddoedd yn cynllunio a chynhyrchu sioeau i Theatr Cymru.
Eleni, mae hi wedi bod yn cydweithio gyda Cordelia Ashwell o gwmni Decordia, sydd wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu’r weledigaeth greadigol ar gyfer y Maes.
Fel Angharad, mae Cordelia yn gyn-fyfyriwr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gyda’i gilydd, maen nhw’n dod â phrofiad, creadigrwydd a dealltwriaeth ymarferol i’r gwaith.
Mae gweledigaeth y ddwy eleni yn canolbwyntio ar sicrhau bod y Maes yn gwneud y gorau o’i leoliad unigryw, gyda golygfeydd tuag at fynyddoedd y Preselau yn gefndir naturiol i’r Brifwyl.
Maen nhw’n arwain tîm o staff, gweithwyr a chyflenwyr lleol, gan sicrhau bod sgiliau, talent a phrofiad yr ardal yn ganolog i’r gwaith o adeiladu a harddu’r safle.
Dywedodd Cordelia: “Mae gweithio ar yr Eisteddfod wedi bod yn brofiad arbennig ac wedi fy ngwneud yn fwy balch nag erioed o fy nghefndir Cymreig. Mae wedi bod yn fraint cael cydweithio â myfyrwyr a chwmnïau lleol, a gweld eu cyffro nhw o fod yn rhan o brosiect mor arbennig a chael yr Eisteddfod ar garreg eu drws.”
“Un o’r pethau sy’n bwysig iawn i ni yw bod y Maes yn adlewyrchu dalgylch yr Eisteddfod,” meddai Cordelia. “Mae tîm gwych o ardal y Garreg Las yn gweithio gyda ni ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr.”
Ychwanegodd Angharad: “Mae creu’r Maes yn debyg i adeiladu tref fach dros dro. Mae popeth angen dod at ei gilydd ar yr amser iawn, yn y lle iawn, ac mae hynny’n dibynnu ar waith tîm da a phobl sy’n fodlon mynd y filltir ychwanegol.”
“Dwi’n falch iawn o’r tîm,” meddai Angharad. “Mae pawb yn rhoi eu gorau, ac mae’n fraint cael arwain y gwaith yma. Ein nod ni yw creu Maes sy’n gweithio’n dda, sy’n edrych yn wych, ac sy’n rhoi croeso cynnes iawn i bawb.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.