Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am weithredu cydgysylltiedig a chynnydd yn yr adnoddau sydd ar gael gan y llywodraeth wrth i’r tân gwyllt sy’n llosgi ar draws mynyddoedd y Rhinogydd barhau i ddinistrio un o dirweddau ucheldirol mwyaf arwyddocaol Cymru.
Mae maint aruthrol y tân wedi achosi sioc i gymunedau lleol, gyda’r fflamau bellach yn bygwth eiddo, da byw, tir pori a chynefinoedd o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae’r tân hefyd yn tynnu sylw at yr her gynyddol o ymateb i danau gwyllt sylweddol mewn ardaloedd gwledig anghysbell.
Mae’r angen am weithredu ar frys wedi’i amlygu gan Undeb Amaethwyr Cymru wrth i ni gwrdd ag amryw o wleidyddion yn Sioe Frenhinol Cymru, gan gynnwys cynrychiolwyr o Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae ein meddyliau gyda’r diffoddwyr tân, y gwasanaethau brys, trigolion lleol a’r teuluoedd ffermio sydd wedi bod yn delio â’r tân hwn o dan amgylchiadau hynod anodd.
“Mae maint y tân gwyllt hwn yn peri pryder mawr. Nid yn unig fod y Rhinogydd yn dirwedd o bwysigrwydd rhyngwladol i fywyd gwyllt, ond mae hefyd yn dirwedd waith sy’n cynnal teuluoedd fferm sydd wedi gofalu am yr ucheldiroedd hyn ers cenedlaethau. Bydd effaith tân o’r maint hwn yn cael ei theimlo am flynyddoedd drwy golli tir pori, difrod i gynefinoedd, peryglon i dda byw, ac effeithiau pellach ar yr economi wledig ehangach.”
Dywedodd Cadeirydd Sir Feirionnydd Undeb Amaethwyr Cymru, Gwion Rowlands, fod maint y digwyddiad wedi achosi pryder eang o fewn y gymuned leol.
“Mae maint a hyd y tân gwyllt hwn yn ddigynsail i lawer o bobl yr ardal. Ein prif bryder ar hyn o bryd yw diogelwch pawb sy’n gweld eu heiddo, eu da byw a’u bywoliaeth dan fygythiad tra bo’r tân yn parhau i losgi.
“Mae hwn yn ddigwyddiad eithriadol sy’n galw am ymateb eithriadol. Dylid ystyried defnyddio pob adnodd sydd ar gael er mwyn dod â’r tân dan reolaeth cyn gynted â phosibl
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.