ID Digidol, ‘BritCard’ a’r Cyfyngiadau Cyfryngau Cymdeithasol I Bawb – gan Lloyd Warburton

Newyddion

gan Lloyd Warburton

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu cynllun ar gyfer ID digidol. O dan y system newydd, bydd gan bawb ID digidol ar eu ffôn sy’n profi enw, oedran, statws preswylio, a llun o’r person.

Medd y llywodraeth y bydd y system newydd yn gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad at wasanethau cyhoeddus fel budd-taliadau ac etholiadau. Mae nhw hefyd y dweud bydd yn anoddach i bobl heb hawl i weithio ym Mhrydain i gael swyddi. Mae’r llywodraeth yn gobeithio cael y system yn rhedeg erbyn 2029.

Mae’r ymateb gwleidyddol i’r cynllun wedi bod yn negyddol gan bron bob plaid heblaw Llafur. Mae arweinwyr y Ceidwadwyr, y Gwyrddion, y Democratiaid Rhyddfrydol a Reform UK wedi dod allan yn erbyn y cynlluniau, yn ogystal a’r SNP, Plaid Cymru a phob plaid fawr yng Ngogledd Iwerddon.

Ffynhonell: Gov.UK

Mae’r dadlau yn erbyn y cynlluniau yn cynnwys pryderon am yr effaith ar ryddid sifil, ar ddiogelwch data, a phreifatwrydd. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddol, mae yna teimlad bod yr enw ar y cynllun – BritCard – yn mynd i wthio hunaniaeth Brydeinig ar bobl sydd ddim yn gweld eu hunain yn Brydeinig.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddu cynllun i wahardd pobl dan 16 oed rhag defnyddio ystad o gyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Snapchat, YouTube a Twitter (X). Mae’r cynlluniau hefyd yn gynnwys rheolau newydd i ddefnyddwyr 16 ac 17 oed, ac yn rhoi cyfrifoldebau newydd ar blatfformau i brofi Oedran dyfnyddwyr. Bydd platfformau anfon negeseuon fel WhatsApp a Signal yn cael eu eithrio o’r waharddiad, yn ogystal â apiau newyddion, platfformau gemau a chynnwys addysgol ar y wê.

Medd y Llywodraeth bod gan y newidiadau cefnogaeth uchel ymhlith y cyhoedd ac eu bod yn angenrheidiol i ddiogelu plant rhag gweld cynnwyd niweidiol arlein. Mae’r Llywodraeth wedi cymryd ysbrydoliaeth gan y newidiadau yn Awstralia llynnedd ac maen nhw’n gobeithio cael y newidiadau mewn i effaith ym Mhrydain dechrau blwyddyn nesaf.

Mae gwrthwynebiad i’r cynlluniau wedi dod gan gwmnïau sy’n rhedeg gwasanaethau arlein fel Meta a Google. Maen nhw’n dweud bod gwahardd plant o’u gwasanaethau nhw yn mynd i wthio nhw mewn i ofodoedd mwy peryglus arlein lle mae’n bosibl i weld mwy o gynnwyd niweidiol. Maen nhw hefyd yn poeni bydd plant yn cael eu ynysu o gymunedau sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae’r cwmnïoedd yn meddwl ni fydd y mesur yn effeithiol ac o bosib fydd yn gweithio yn erbyn y cynllun. Cefnogir y cynlluniau newydd gan grwpiau diogelwch arlein, ac elusenau sy’n cefnogi teuluoedd sydd wedi colli pobl ifanc fel ganlyniad o weithgareddau arlein. Medd y comisynwyr plant yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon bod ganddynt bryderion am effeithlonrwydd y cynllun.

Mae rhai hefyd yn meddwl bod gwahardd pobl ifanc rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ffordd slei o gael ID digidol gorfodol trwy’r drws gefn. Bydd yn ddiddorol iawn i weld bydd fydd yn digwydd dros y flynyddoedd nesaf tra bod y cynlluniau yn mynd trwy’r Llywodraeth.

Prif lun gan Labour Together

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau