Mae bod yn gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las wedi bod yn brofiad arbennig i John Davies, Cwmbetws.
Er iddo fwynhau pob eiliad o’r daith, mae un cwestiwn yn dal i’w boeni ychydig: beth fydd y trigolion lleol yn ei wneud ar ôl 8 Awst? Ond mae’n hyderus y bydd gwaddol parhaol yn dilyn yr ŵyl.
“Mae wedi bod yn fraint pur o’r cychwyn cyntaf,” meddai. “Mae hi’n hanner canrif ers i’r Eisteddfod ddod i’r ardal hon o’r blaen, yn Aberteifi yn 1976, ac mae cael bod yn rhan o’r paratoadau eleni wedi bod yn brofiad hynod o werthfawr ac rydw i wedi cael y boddhad rhyfeddaf.
“O’r gegin gartref yng Nghwmbetws rwyf wedi gweld yr Eisteddfod yn codi o’r ddaer fel ffenics o’r pridd dros mater o ryw bedair wythnos.
“Mae pobl yr ardal wedi ymroddi’n llwyr i’r Ŵyl wyth diwrnod hyn ac yn fwy na hynny tu hwnt i’r Eisteddfod.
“Yr her wirioneddol yw cadw’r momentwm wedyn. Ond mae ‘na egni ac angerdd yn y gymuned i wneud i hynny ddigwydd. Rydyn ni eisoes yn meddwl am y camau nesaf – er enghraifft cynnal noson yng Nghastell Aberteifi i ddiolch i bawb fu’n rhano’r gwaith, ac i gynllunio’r dyfodol gyda’n gilydd.”
Un o’r llwyddiannau mwyaf yw’r ffaith bod yr ardal wedi cyrraedd y targed codi arian o £400,000.
“Roedd cyrraedd y nod yn brofiad arbennig,” meddai, “Rydw i wastad wedi ffafrio’r gair ‘nod’ dros ‘targed’ – mae’n teimlo’n llai caeth! Ond fe gyrhaeddon ni’r lan yn saff, heb angen bad achub.
“Aeth pobl ati’n ddiwyd i godi arian, ond yn fwy na hynny, fe ddaeth ein cymunedau’n nes at ei gilydd. Roedd hynny’n argoel dda o’r dechrau – y teimlad ein bod ni’n adeiladu rhywbeth arbennig gyda’n gilydd.”
Mae’r ŵyl eleni’n un hanesyddol, gan nodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi – llai na phum milltir o Faes y Brifwyl.
“Roedd dewis y safle’n bwysig iawn,” eglura John. “Mae yn Sir Benfro, ond mor agos â phosibl at Geredigion. Ac am y tro cyntaf erioed, mae tair sir yn cydweithio’n llawn ar drefniadau’r Eisteddfod. Mae’r ‘drindod sirol’ honno wedi gweithio’n wych.”
Er nad oedd John ei hun yn gystadleuydd ar y llwyfan, mae’r Eisteddfod wastad wedi bod yn rhan o’i fywyd.
“Roedd fy mam a’m chwaer, Ann yn cystadlu, ac roeddwn i’n eu dilyn nhw fel cysgod. Daeth Ann yn feirniad, ac mae hi’n dal ati hyd heddiw.”
Ei atgof cryfaf yw o 1976. “Ro’n i’n 13 oed, ac yn gweithio fel ‘runner’ i’r prif stiward – doedd dim radios bryd hynny! Gwnaeth hynny argraff ddofn arnaf.”
Daeth ei ymrwymiad yn fwy amlwg dros y blynyddoedd – o drefnu digwyddiadau gyda’r Ffermwyr Ifanc yn Abergwaun yn 1986, i’w rôl fel arweinydd Cyngor Sir Penfro yn Eisteddfod Tyddewi 2002.
“Roeddwn i’n benderfynol bryd hynny fod yr Eisteddfod yn llwyddo – ac mae’r ymdeimlad hwnnw o gyfrifoldeb wedi aros gyda mi.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.