Cydnabod oes o wasanaeth i’r Gymraeg a’i gymuned

Diwylliant / Hamdden Newyddion

Bydd Medal R. Alun Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las  yn cael ei chyflwyno i Penri Williams, i nodi dros 40 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol i’r Gymraeg a bywyd diwylliannol Cymru.

Yn enedigol o Borthmadog ond wedi ymgartrefu yn ardal Rhondda Cynon Taf, mae Penri Williams wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Cymraeg y gymuned dros sawl degawd. Caiff ei gydnabod am olygu papur bro Tafod Elai am 38 mlynedd, yn ogystal â’i gyfraniad i nifer o gorau, gan gynnwys Côr Godre’r Garth, Côr y Mochyn Du/Hen Nodiant a Chôrdydd.

Roedd yn un o sylfaenwyr Clwb y Dwrlyn yn 1979 ac mae wedi bod yn ganolog i gynnal gweithgareddau Cymraeg yn ardal Creigiau, Gwaelod y Garth a Phentyrch, gan gynnwys sefydlu gwasanaeth Plygain ac ymweliad blynyddol y Fari Lwyd.

Cyn ymddeol roedd yn beiriannydd ym mhwerdy Aberddawan ger Y Barri. Drwy’r cyfnod hwnnw ac ers hynny mae wedi defnyddio ei gefndir mewn technoleg i wneud gwaith arloesol gyda mentrau iaith, hyrwyddo addysg Gymraeg, cefnogi mudiadau diwylliannol yn ogystal â chryfhau presenoldeb y Gymraeg ar-lein.

Mae’r fedal yn cael ei chyflwyno’n flynyddol i gymwynaswr bro sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i gefnogi, cynnal a chyfoethogi diwylliant eu hardal leol, er cof am y diweddar Barch. R. Alun Evans. Ffigwr canolog yn hanes yr Eisteddfod, fe wasanaethodd ar y Cyngor am flynyddoedd ac fel Cymrawd ers 2007. Bu farw ychydig ddyddiau ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yn 86 oed.

Wrth enwebu Penri Williams, dywedodd Helen Prosser, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024: “Mae cyfraniad Penri i Gymreictod yr ardal yn amhrisiadwy. Mae’n un o’r bobl yna cewch bob amser ddibynnu arno.

“Defnyddiwn y gair ‘anhygoel’ yn rhy aml o lawer ond mae’r gamp mae wedi’i chyflawni gyda’r papur bro gan gyhoeddi 403 rhifyn, wir wedi bod yn anhygoel. Rydym fel tîm newydd yn ymdrechu i lenwi ei esgidiau ond mae’n her a hanner.”

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Penri Williams: “Roeddwn yn eistedd yn y gynulleidfa ac yn gwrando ar Helen ac yn ceisio dyfalu am pwy roedd hi’n siarad. Doeddwn ddim yn disgwyl iddi fy enwi i a daeth fel bach o sioc. Rwy’n hynod falch o’r anrhydedd ac yn ei werthfawrogi’n fawr.”

Wrth glywed mai Penri Williams yw derbynnydd y wobr eleni, croesawodd teulu R. Alun Evans y newyddion. Dywedodd ei ferch, Betsan Powys: “Dwi’n nabod Penri ers blynyddoedd, ac yn gwybod o brofiad amdano fel rhywun sy’n cyfrannu’n dawel yn y cefndir, yn holi sut gall e helpu ac yn ateb y galw. Mae hynny’n wir amdano mewn pob math o feysydd ond amlycaf i fi, fel cyd-aelod o Gôrdydd.

“Roedd clywed, felly, mai Penri fydd yn cael Medal R. Alun eleni yn newyddion bendigedig. Sôn am ‘gymwynaswr bro’ – dyna Penri.”

Yn 2022 derbyniodd Penri Ryddfraint Cymuned Pentyrch am ei wasanaeth enfawr dros y Gymraeg a Cymreictod y cylch.

Bydd  yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod am 14:30 brynhawn Sul, 2 Awst.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau