Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyflwyno Gethin Thomas fel Cymrawd Anrhydeddus newydd mewn seremoni ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod y Garreg Las, am 15:20, ddydd Mawrth 4 Awst.
Dyma’r anrhydedd fwyaf y gall yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnig i unrhyw un, ac mae’n arwyddo ddiolchgarwch am flynyddoedd o wasanaeth i’r sefydliad.
Ar unrhyw un adeg, dim ond pum Cymrawd sydd gan yr Eisteddfod, ac mae Gethin Thomas yn derbyn yr anrhydedd yn dilyn marwolaeth D Hugh Thomas yn 2025. Y pedwar Cymrawd arall yw’r Prifardd John Gwilym Jones, Geraint R Jones, Garry Nicholas a Dyfrig Roberts.
Mae’r Eisteddfod wedi bod yn rhan ganolog o fywyd Gethin Thomas ers degawdau, ac mae wedi cyfrannu mewn sawl maes amrywiol. Yn wreiddiol o Borth-y-rhyd yn Sir Gâr, dechreuodd cysylltiad Gethin ag eisteddfodau yn gynnar iawn yn ei fywyd.
“Daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Lanelli ym 1962 pan o’n i tua pedair oed, ac fe ges i fynd yno. Yn rhyfedd iawn, lleolwyd yr eisteddfod honno ar gaeau fyddai’n cael eu defnyddio’n ddiweddarach i adeiladu Ysgol Dewi Sant, a bum yn brifathro’r ysgol honno hyd at fy ymddeoliad. Mae’rgwreiddiau’n ddyfnach nag y bydde dyn yn ei feddwl,” meddai.
Bu Gethin yn cystadlu mewn eisteddfodau gyda chorau yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol, ac yn ddiweddarach gyda Chôr Mynydd Mawr a Bois y Castell. Fel mab fferm, roedd yn naturiol i Gethin hefyd gymryd rhan yng ngweithgareddau amrywiol y Clwb Ffermwyr Ifanc lleol.
Pan ddychwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol i Gaerfyrddin ym 1974, ymunodd Gethin â’r gwirfoddolwyr fel stiward. “Bum yn stiwardio am flynyddoedd ar y Maes ac hefyd yn y maes carafanau. Yn Eisteddfod Genedlaethol 2000, eto yn Llanelli, roeddwn yn gadeirydd y Pwyllgor Technegol,” meddai.
Gethin oedd is-gadeirydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd pan ddaeth i Sir Gâr yn 2007, a chadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Ŵyl Gerdd Dant yng Nghwm Gwendraeth yn 2011.
“Cefais fy ethol yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn 2014, ac yn sgîl hynny daethum yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod a’r Bwrdd Rheoli. Bum yn gadeirydd am chwe mlynedd hyd at fis Tachwedd y llynedd,” meddai.
Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd Gethin, “Dwi’n teimlo fy mod wedi elwa cymaint o bob cysylltiad gyda’r Brifwyl. Mae cael fy ethol yn Gymrawd gan fy nghyfoedion mewn sefydliad sydd wedi bod yn rhan mor bwysig o’m bywyd am gyfran helaeth o’m hoes yn anrhydedd fawr. Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n cydweithio â mi, ac yn fy nghefnogi ar hyd y daith gyda’r Eisteddfod.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.