Cyflwyno Gwobr Bob Davies i Nia Thomas

Newyddion

Mae’r newyddiadurwr adnabyddus, Nia Thomas, wedi derbyn Gwobr Goffa Bob Davies, a gyflwynir yn flynyddol gan Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod y Sioe Frenhinol.

Cyflwynir y wobr er cof am ohebydd y Farmers Weekly yng Nghymru, Bob Davies, a hynny i unigolyn neu grŵp sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at godi proffil cyhoeddus amaethyddiaeth yng Nghymru.

Yn ferch fferm, cafodd Nia ei geni a’i magu yn Llannerch-y-medd, Ynys Môn, lle mae’n parhau i fyw hyd heddiw. Dechreuodd ei gyrfa newyddiaduraeth yn 1980 fel newyddiadurwr dan hyfforddiant gyda phapurau newydd y Herald, gan weithio o swyddfa Llangefni y Holyhead Mail ac Herald Môn.

Aeth ymlaen i weithio fel newyddiadurwr llawrydd i’r BBC, cyn ymuno ag adran amaeth y gorfforaeth ar ddechrau’r 1990au. Fel rhan o’r swydd honno, bu’n ohebydd ar raglen materion gwledig S4C, Ar y Tir, gan deithio ledled Cymru i adrodd ar y materion oedd bwysicaf i gymunedau gwledig ac amaethyddol.

Yn 2000, yn sgil datganoli, penodwyd Nia yn Ohebydd Materion Gwledig BBC Cymru. Yn ystod cyfnod hynod heriol i’r diwydiant, bu’n arwain ar ohebu am argyfwng y traed a’r genau, protestiadau yn erbyn y ddeddf hela llwynogod, a bygythiad clefyd BSE.

Yn dilyn cyfnod yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru ac yn gweithio mewn swyddi cynhyrchu, dychwelodd at ohebu ar amaethyddiaeth yn 2024 fel cyflwynydd newyddiadurol ar raglen Ffermio S4C. Ers hynny, mae wedi parhau i drafod ac egluro rhai o’r pynciau mwyaf llosg sy’n wynebu’r sector, gan gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Rheoliadau Adnoddau Dŵr, a’r frwydr barhaus yn erbyn y diciâu.

Cyflwynwyd y wobr i Nia Thomas yn ystod derbyniad Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod y Sioe Fawr. Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae’n bleser mawr cael cyflwyno Gwobr Goffa Bob Davies i Nia Thomas. Am ddegawdau, mae Nia wedi bod yn un o leisiau newyddiadurol amlycaf Cymru wledig, gan adrodd yn deg ac yn drylwyr ar yr heriau sy’n wynebu ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig.

“Fel merch fferm mae ganddi ddealltwriaeth ddofn o’r sector a’r bobl sy’n gweithio ym myd amaeth. Mae hi wedi ennill parch am ei gallu i adrodd stori yn onest a chytbwys gan roi llais i ffermwyr Cymru tra’n barod hefyd i ofyn cwestiynau anodd. Mae’n dderbynnydd teilwng iawn o’r wobr hon.”

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Nia Thomas: “Braint ac anrhydedd o’r mwayf ydi cael derbyn y wobr yma.  Bum yn ffodus iawn ar hyd y blynyddoedd i holi dwsinau o siaradwyr gwych o’r byd amaeth – a chyfleu eu safbwyntiau. Ei straeon nhw sy’n parhau yn bwysig imi.

“Nid y gohebydd ydi canolbwynt y stori. Mewn cyfnod pan mae na lawer o ddeunydd camarweiniol ac anghywir ar y cyfryngau cymdeithasol mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n rhoi llais i straeon amaethyddol mewn dull cytbwys a theg.”

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau