Dychwelodd yr Arglwydd Rhys i Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gorymdeithiodd o amgylch y safle eang yn Llantwd ger Aberteifi ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las i ddathlu bod 850 o flynyddoedd ers iddo drefnu a chynnal yr eisteddfod gyntaf gynhaliwyd yng nghastell Aberteifi ym mis Rhagfyr 1176.
Daeth tyrfa fawr i wylio’r pyped pum metr o uchder o’r Arglwydd Rhys a grëwyd gan Theatr Byd Bach, Aberteifi yn crwydro’r Maes cyn eistedd mewn cadair fawr ar bwys cylch yr Orsedd gyda’i gi ffyddlon, Teifi, wrth ei ochr.
Wedi seibiant fe aethpwyd a’r Arglwydd Rhys i’r ganolfan Groeso lle bydd i’w weld i’r miloedd o Eisteddfodwyr fydd yn dod i’r Eisteddfod yr wythnos hon.
Roedd y digwyddiad yn ddiweddglo ar daith lwyddianus gan yr Arglwydd Rhys o amgylch ardal y Garreg Las ym mis Mehefin. Cychwynodd yn Nhyddewi, pan ddadorchuddiwyd Cadair a Choron Eisteddfod 2026, a theithiodd iGenarth, Castell Newydd Emlyn, Llangrannog, Talgarreg, Wdig, Maenclochog ac Aberteifi.

Daeth tua 8,000 o fobl i’w weld yn cyrraedd Aberteifi a chynhaliwyd diwrnod o weithgareddau a pherfformiadau yn y castell, gyda gorymdaith ysblennydd drwy strydoedd y dref ac ar yr Afon Teifi’n binacl i’r cyfan, wrth i’r Eisteddfod ail-greu cyffro’rEisteddfod gyntaf.
Dywedodd John Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod y Garreg Las: “Rwy’n gobeithio y byddai’r Arglwydd Rhys ei hun wedi mwynhau’r daith, ac yn arbennig y dathliad yn Aberteifi oedd yn gyfle i greu fersiwn fodern o’r hyn ddigwyddodd yn1176, wrth i bawb ymgynnull ar gyfer yr Eisteddfod gyntaf.
“Mae 850 mlynedd yn gyfnod hirfaith, ac mae’n anhygoel fod yr Eisteddfod yn dal i ddatblygu ac esblygu’n flynyddol ac yn ŵyl ddeinamig a modern sy’n cynnig rhywbeth i bawb.

“Hoffwn ddiolch o galon i bawb fu ynghlwm â’r prosiect, o’r egin syniad gwreiddiol a ddatblygwyd gan swyddogion yr Eisteddfod a’n criw diwyd ni o bwyllgorau lleol, i’r ecstrafagansa anhygoel ddaeth yn fyw o flaen ein llygaid dros yr wythnosddiwethaf, a diolch i’r tîm creadigol.
“Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru am adael i ni wireddu’r fath syniad, a diolch i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, Culture Ireland, Prifysgol Aberystwyth a Chastell Aberteifi am eu cefnogaeth hael dros y misoedd diwethaf,” meddai.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.