Rhifyn Awst Y Cymro

Newyddion

Ma’ hi’n Steddfod ac fe fydd Y Cymro ar gael yno i’w brynu drwy’r wythnos eleni. Gwnewch yn siŵr o’ch copi! (Ar gael ar stondin y wasg dan ofal Siop Awen Teifi)

Mae digon o drafod a thraddodi am y Brifwyl ynddo hefyd – o edrych yn ôl at Eisteddfodau’r gorffennol i ddadlau dros wir ystyr y dathlu blynyddol i’r Gymru fodern.

Mae’r Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg Anna Brychan yn sgwennu’n benodol i’r Cymro yn y rhifyn a gofyn pwy sy’n cofio’r llwch pan fu’r Steddfod olaf tua Aberteifi mae Eryl Crump!

Hud Sir Benfro sydd gan Dafydd Iwan mewn golwg wrth drafod yr Ŵyl wrth gofio am un gŵr sy’n ymgorffori ei hysbryd. Darllenwch mwy yn ei golofn.

A pham bod cymaint o bobl sy’n medru’r Gymraeg ddim yn siarad yr iaith â’u plant? Dyna bwynt trafod Heledd Gwyndaf yn ei cholofn fis Awst. Meddai: “Dydyn ni ddim yn clywed am strategaethau a chynlluniau gweithredu i sicrhau fod rhieni yn dewis y Gymraeg fel iaith yr aelwyd, boed un neu ddau riant yn medru’r iaith adre.  Dylem fod yn gweiddi’n groch i bob cyfeiriad am hyn. Ond does dim smic.”

Mae ein Llywodraeth newydd hefyd wedi datgelu’r ‘cam cyntaf’ tuag at bwerau darlledu i Gymru. Hwrê felly – ond nid pawb sy’n hapus. Gwastraff arian ac amser meddai Reform UK a’r Ceidwadwyr. Darllenwch y diweddaraf yn y ddadl hir a throellog.

A phwy a aned yng Nghymru ond fu farw yn ‘Wales’ ? Darllenwch golofn Geraint Davies y mis yma i ddod o hyd i’r ateb.

Mae rhifyn Awst ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: ta*********@****ro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau