Rhowch i mi raglenni o fyd di-covid plîs …o’r dyddiau hyfryd yna a fu! – Dylan Wyn Williams

gan Dylan Wyn Williams Fel un sy’n dueddol o osgoi rhaglenni’r pandemig fel y pla, sgiwsiwch y mwysair, bues i’n amenio’r actor John Simm yn ddiweddar.  Sôn am ei rôl fel ditectif yng nghyfres ddrama newydd Grace oedd o, a ffilmiwyd fis Awst diwethaf. Roedd ITV wedi penderfynu portreadu byd di-covid, heb ecstras mygydog nac arwyddion […]

Continue Reading

A phwy sydd am wrthod gwelliannau i blesio naratif ecolegol y gorllewin? – Trefor Jones

gan Trefor Jones Arfer blynyddol yn fy mhlentyndod oedd casglu ‘cenhadaeth”, ar gyfer y capel lleol. Cafwyd cerdyn gwyn a phrint glas ar y clawr yn yr ysgol Sul i nodi’n cyfraniadau at Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr (BMS).  Mae’n anodd credu heddi y gallem ni fel plant fynd o ddrws i ddrws, a phobl caredig yn […]

Continue Reading

Trysor cuddiedig y fro a wrthododd farw – Lyn Ebenezer

gan Lyn Ebenezer Gynt, pan glywn y gair ‘cyd-ddyheu’, yr hyn a ddeuai i’r cof yn ddieithriad fyddai englyn enwog R. Williams Parry i Neuadd Goffa Mynytho. Ond erbyn hyn mae iddo arwyddocâd arall. Gellir yn awr ei briodoli hefyd i ardal Cwmystwyth yng ngogledd Ceredigion, lle gwelwyd cyd-ddyheu ar ei orau. Dros y blynyddoedd […]

Continue Reading

Dechrau gweld ceir Tsieina yma …a mwy (fyth) yn yr arfaeth – Huw Thomas

gan Huw Thomas Cafwyd cip y tro diwethaf ar sefyllfa’r byd modurol. Erbyn diwedd 2020 daeth rhai mentrau drwyddi’n rhyfeddol dda. Cyhoeddodd y Financial Times arolwg yn ddiweddar o’r sawl a lwyddodd ar waethaf y dymestl.  O fyd technoleg/uwch-dechnoleg y daw blaenoriaid y 100 llwyddiannus, wrth gwrs. Yna daw sêr yr economi ddigidol – prynu a gwerthu ar-lein, logisteg a […]

Continue Reading

Mae’n hen bryd i bobol Cymru ddod at ein gilydd yn lleol a chenedlaethol i brynu tir a thai Cymru ar y cyd – Gruffydd Meredith

gan Gruffydd Meredith Gyda phopeth sydd yn mynd mlaen yn y byd mae’n weddol amlwg erbyn hyn fod angen, yn fwy nag erioed, i ddinasyddion Cymru ddod at ein gilydd er mwyn prynu ffermydd, tir a thai Cymry ar y cyd.  Neu hyd yn oed bentrefi cyfan neu fwy. Nid model comiwnyddol pen yn y […]

Continue Reading

Liz Saville Roberts: Yr her i ail-fathu’r gwerthoedd sy’n gyrru ein gwleidyddiaeth. Rhaid newid y ffordd rydym yn mesur llwyddiant

gan Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru yn San Steffan Yng nghanol holl ansicrwydd oes lom coronafirws, mae dau beth yn sicr: yn gyntaf, mae’r gwanwyn ar fin egino trwy’r tir; ac, yn ail, mae etholiad ar fin corddi’r dyfroedd. Wir, does dim sicrwydd yn union pryd bydd yr etholiad (mwy na thebyg ym Mai, […]

Continue Reading

Fyddwn ni ddim ‘nôl i normal’ ond wi’n bendant yn teimlo rhyw wytnwch erbyn hyn – gan Esyllt Sears

Esyllt Sears Sears fu’n sylwi ar gannwyll gobaith mewn tywyllwch diddiwedd Cyn y Nadolig, derbyniais i rôl ar fwrdd y Live Comedy Association (LCA), yn cynrychioli Cymru.  Ro’n i eisiau ysgrifennu yn y golofn yma am ble y’n ni fel sector ar ddechrau blwyddyn newydd sbon, a lle ry’n ni’n gobeithio bod ymhen 6 – 12 […]

Continue Reading

Enillwyr Gwobrau’r Selar. Cerddoriaeth gyda Sôn am Sîn.

Y Sôn… Dydd Miwsig Cymru a Gwobrau Selar go wahanol fuodd hi fis diwethaf, ond roedd digon o bleser i’w gael o ddathlu’r gorau o gerddoriaeth Cymru.  A pharhau fydd dathliadau go wahanol fis yma hefyd, wrth i ni edrych ymlaen at ymdrech unigryw rhai o wyliau gorau Cymru i ddod at ei gilydd i […]

Continue Reading

Ar y cyfryngau. Dihangfa bleserus i bob cwr o Gymru â ninnau’n sownd adra – gan Dylan Wyn Williams

gan Dylan Wyn Williams Am Dro (Cardiff Productions) ydi un o lwyddiannau diweddar S4C. Hoff daith gerdded pedwar cystadleuydd sy’n cael eu sgorio ar sail y golygfeydd, eu gwybodaeth gyffredinol, y picnic ac ambell brosecco neu hyd yn oed barti bechgyn yn  morio ‘Calon Lân’ – cyn dychwelyd adra efo mil o bunnoedd neu ormod o bothelli. Â’r […]

Continue Reading