Esyllt Sears Sears fu’n sylwi ar gannwyll gobaith mewn tywyllwch diddiwedd
Cyn y Nadolig, derbyniais i rôl ar fwrdd y Live Comedy Association (LCA), yn cynrychioli Cymru.
Ro’n i eisiau ysgrifennu yn y golofn yma am ble y’n ni fel sector ar ddechrau blwyddyn newydd sbon, a lle ry’n ni’n gobeithio bod ymhen 6 – 12 mis.
Ond mae’r cyfnod clo yma wedi teimlo’n ddiddiwedd.
Wi wedi bod yn boddi mewn siapiau 2D a thablau, a dau Nadolig, un Pasg a thri cyfnod clo yn ddiweddarach sdim dillad llwyfan ‘da fi sy’n ffitio, hyd yn oed pe bydden ni’n cael ein galw nôl mewn i dafarndai a chlybiau.
Ond yna, digwyddodd rhywbeth. Dechreuodd Gŵyl Gomedi Aberystwyth ryddhau tocynnau sioeau a drefnwyd ar gyfer mis Hydref 2021. Sai’n siŵr os ydw i wedi teimlo gobaith tebyg i hyn.
Am y tro, wi’n gallu chwilota drwy sioeau wi am eu gwylio.
Fflips, falle ga’ i hyd yn oed ladd dau dderyn a gweld mam a dad yn Bow Street o’r diwedd.
Beth bynnag sy’n digwydd leni, fydd e ddim yn berffaith, fyddwn ni ddim ‘nôl i normal’ ond wi’n bendant yn teimlo rhyw wytnwch erbyn hyn – i greu, i gynnal digwyddiadau, i wneud i bobl chwerthin.
Ac fel ry’n ni’n gwneud hyn, dylen ni geisio tynnu eraill a allai fod yn ei chael hi’n anodd, gyda ni.
Wi wedi cael cyfnodau anodd dros y flwyddyn ddiwethaf ond mae gwahanol bobl wedi gofyn i fi gymryd rhan mewn gwahanol bethau ac wi eisiau, yn fwy na dim, i basio hynna ymlaen. Dylai cyrraedd pen draw hyn i gyd fod yn ymdrech ar y cyd. Gan adael neb ar ôl.
Gallwch chi gysylltu â fi drwy wales@livecomedyassociation.co.uk ac wi’n croesawu e-byst gan unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant comedi byw neu gan sefydliadau o’r un anian fel y gallwn ni helpu i weithio trwy hyn gyda’n gilydd.
Am fwy o wybodaeth am yr LCA, ac i ymaelodi yn rhad ac am ddim os ydych chi’n gweithio ym maes comedi byw, mewn unrhyw swyddogaeth, ewch i: www.livecomedyassociation.co.uk
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol drwy ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.