gan Gari Wyn Jones
Fel un sy’n cofio Bangor yn fwrlwm o siopwyr hanner canrif yn ôl, mae’r profiad diweddar o gerdded y stryd a phasio heibio cragen wag Debenhams yn dorcalonnus a sobreiddiol.
Ond roedd y ‘sgrifen ar y mur cyn agor y siop honno ddegawd yn ôl. Roedd y siopau mawrion yn agor fesul un ar gyrion y ddinas ac roedd cynghorau dinesig, yn eu naïfrwydd, yn credu bod hynny yn llesol i’n cymdeithas.
Dyna oedd y patrwm ymhob man. Rhoi cyllell yng nghefn busnesau bach cynhenid ar draul dyfodiad cwmnïau mawr cyfalafol.
Gwnaethpwyd ymdrech i wella pethau drwy greu canolfannau siopau ond ni ddaeth y rheiny â busnes yn ôl i’r Stryd Fawr. Dros y dair mlynedd ddiwethaf mae dros 50,000 o siopau stryd fawr Prydain wedi cau, ac mae cryn filoedd o’r rhain yng Nghymru.
Rhaid inni wynebu’r ffaith ei bod hi’n rhy hwyr yn achos llawer o’n trefi bychan.
Tra bo Mr Bezos a’i ffrindiau’n manteisio ar y clicio botwm yna rydan ni’n wynebu talcen caled o anobaith.
Mae rhai cynghorau wedi creu Ardaloedd Gwella Busnes (BIDs) yn ein trefi. Ond dydy’r chwistrelliad ariannol sy’n cael ei gynnig ddim hyd yn oed yn ddigon i dalu am un gôt o baent i’r strydoedd!
Tydi un gweithiwr ar ran y cyngor a rhyw chydig o gannoedd o filoedd ddim yn debygol o wneud unrhyw wahaniaeth gweladwy. Wrth ichi ddreifio i’r maes yng Nghaernarfon mae hen adeilad urddasol (a fu tan yn ddiweddar yn siop Poundstretchers) yn sefyll yn wag a dyna ydy hanes nifer o siopau Stryd y Llyn hefyd.
Yn yr ystadau diwydiannol tu allan i’r trefi mae llefydd fel Screwfix a Toolstation yn cyflenwi popeth trwy wasanaeth ‘clicio a chasglu’. Mae hyn yn digwydd ar stadau a adeiladwyd ar gyfer cynhyrchu a chreu, ac eto mae’r cynghorau wedi caniatáu iddyn nhw werthu nwyddau. Mae rhwydwaith y busnesau mawr wedi cerdded dros ein hawdurdodau cyhoeddus.
Rwan! Dwi’n gwybod mod i’n swnio’n negyddol iawn. Wel ydw…a nac ydw! Mae yna ateb ac mae’n gorwedd yn ein dwylo ni ein hunain. Waeth heb a chomisiynu ‘ymgynghorwyr’ ac ‘arbenigwyr’ honedig. Tydy’r rhan fwyaf ohonyn nhw rioed wedi rhedeg busnes!
Yr hyn sydd ei angen ydy tynnu’r sector gyhoeddus a’r sector breifat at ei gilydd o gwmpas y bwrdd. Mae angen llacio deddfau cynllunio caeth sy’n atal mentergarwch. Rhaid inni ddangos ffydd a rhoi cyfle i fusnesau ffresh ymsefydlu. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni gystadlu’n effeithiol gyda’r cwmnïau mawr estron sy’n buddsoddi yng Nghymru er mwyn ecsploetio bob ceiniog fedran nhw gael.
Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weld y golau a dangos arweiniad.
Be’ sydd o’i le mewn caniatáu i fusnesau newydd beidio talu unrhyw dreth am gyfnod cychwynnol? Be am i landlordiaid osod siopau gwag am ddim neu am rent gostyngol am gyfnod cychwynnol er mwyn rhoi cyfle i fusnesau sefydlu?
Dyma’r unig ffordd o greu perchnogion busnes newydd. Mae Cyngor Dinas Abertawe wedi gweld y goleuni ac ar hyn o bryd yn symud eu swyddfeydd i ganol y ddinas fel bod gweithwyr y sector gyhoeddus yn gwario eu harian yn y stryd fawr. Dyna gam sy’n arwain trwy esiampl.
Ond be am y broblem fwyaf? Sef effaith y prynu drwy glicio?
Sut mae cael tâl a threth deg i’n cynghorau gan gwmnïau enfawr fel Amazon ac Ebay? I mi mae’r ateb yn syml ond fedra i ddim clywed neb yn ei leisio.
Petai treth yn cael ei osod ar bob parsel yn ôl cod post dosbarthu’r parsel yna byddai ein cynghorau ar eu hennill o filiynau o bunnoedd mewn incwm. Os nad ydy hynny’n ymarferol be am osod treth ar ffurflenni prynu archebion ar-lein? Tydi hynny chwaith ddim yn swnio’n rhy gymhleth mewn oes dechnolegol. Felly be amdani Llywodraeth Cymru? Un cyfle olaf i achub y Stryd Fawr?
Prif lun: Band samba ar Stryd fawr Bangor yn 2008. Llun gan Denis Egan drwy drwydded CC BY 2.0
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.