A phwy sydd am wrthod gwelliannau i blesio naratif ecolegol y gorllewin? – Trefor Jones

Barn

gan Trefor Jones

Arfer blynyddol yn fy mhlentyndod oedd casglu ‘cenhadaeth”, ar gyfer y capel lleol.

Cafwyd cerdyn gwyn a phrint glas ar y clawr yn yr ysgol Sul i nodi’n cyfraniadau at Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr (BMS). 

Mae’n anodd credu heddi y gallem ni fel plant fynd o ddrws i ddrws, a phobl caredig yn fodlon rhoi pisyn tair, chwech, swllt neu hanner coron. 

Nid oes gennyf gof o’r pregethwr yn dweud i ble’r oedd yr arian yn mynd, ond o leiaf roedd cyhoeddi’r cyfanswm.

Hanner can mlynedd a mwy yn ddiweddarch chwiliais am y BMS ar y we a chanfod gwaith cenhadol crefyddol y Gymdeithas â’i nod o roi cymorth a nawdd rhyngwladol.

Gwelir tebygrwydd amlwg i Nodau Datblygu’r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig, megis gwaredu tlodi, cydraddoldeb, lleihau marwoldeb babanod, cynaliadwyedd ecolegol ac yn y blaen. Y bwriad yw datblygu’n gynaliadwy ar draws y blaned, a phrin byddai neb yn anghytuno. 

Yn 2013, dan arweinyddiaeth David Cameron, gosodwyd targed o 0.7% o gynnyrch crynswth gwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cymorth rhyngwladol, yn hytrach na phennu swm. Dyma nod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer gwariant cymorth gan y gwledydd sydd wedi datblygu fwyaf yn economaidd. 

Erbyn 2019, roedd swm o £19.4 biliwn o gymorth yn cael ei roi dan y fformiwla yma. Yn dilyn y pandemig, cyhoeddwyd bwriad i leihau hyn i 0.5% oherwydd y cwtogi ariannol.

Bu beirniadaeth lem o’r penderfyniad. Yn rhesymegol byddai cwymp anferth i’r swm beth bynnag, oherwydd bod incwm y Deyrnas Gyfunol wedi lleihau’n arw, a’r  Trysorlys yn disgwyl benthyg hyd at £400 biliwn yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.  

Rhennir cymorth rhyngwladol yn dri. Yn gyntaf, ymateb i drychinebau megis llifogydd, daeargrynfeydd, newyn, rhyfel ac iechyd. 

Yn ail, hybu gwelliannau diwylliannol ac addysgiadol ar draws y byd, megis y Cyngor Prydeinig ac yn olaf helpu gyda chynlluniau economaidd, rhwydweithiol a strwythurol mewn gwledydd tlotach. Yn aml mae natur datblygiad economaidd yn beth niwlog iawn. 

Un enghraifft amlwg oedd Cynllun Cronfa Pergau yn Malaysia yn 1990, cytunwyd ar gynllun pŵer hydro ar gost eithafol yn ystod dyddiau olaf llywodraeth Margaret Thatcher. 

Agorwyd y gronfa yn 2003, ond yn y cyfamser roedd llywodraeth Malaysia wedi archebu cytundeb arfau wrth Brydain fel quid pro quo. Yn 1994, datganwyd nid yn unig bod y fath ddêl yn anghyfreithlon ond ei fod yn anfoesol. Er hynny, peidied neb a meddwl nad yw cymorth rhyngwladol yn agored i ffafrio gwledydd eraill sydd yn gyfeillgar. Yn wir yn yn y flwyddyn 2000, ddisgrifiodd yr Ysgrifennydd Tramor Llafur, Robin Cook gymorth rhyngwladol fel ‘hunan ddiddordeb goleuedig’.  

Mewn oes pan fod ‘gwyrdd a chynaliadwy’ yn cael ei ychwanegu at y diffiniad, mae’n sicr bod natur ein hymrwymiad wedi newid ychydig. Tan yn gymharol ddiweddar ymgais oedd datblygiad i godi safonau byw gwledydd datblygol. Heb os, nid nawdd sy’n gyfrifol am gynnydd gwledydd megis India, Tseina a’r teigrod Asiaidd, yn hytrach enghraifft o fuddsoddiad economaidd. Symptom mewn gwirionedd o’r economi traul ‘rydym mor hoff ohono yw troslanio gweithgynhyrchu i lefydd ‘rhatach’.  

Heddiw, estynir yr agenda i gynnwys ‘achub y blaned’, yn aml o berspectif gwledydd sydd eisoes yn gyfoethog.

Ond beth yn union yw agenda gwyrdd a chynaliadwy i lawer o wledydd, yn enwedig yn yr Affrig? 

Cymrwch Uganda fel esiampl. Yn yr 1960au cynhyrchai’r wlad ugain gwaith yn fwy o gotwm na heddiw, hefyd roedd Kampala yn ganolfan cynhyrchiant gweolion. 

Ffrwyth yr Ymerodraeth Brydeinig oedd hyn, er mwyn  cynhyrchu dillad (rhad) ar gyfer gwisg filwrol. Heddiw mae Uganda yn wlad hynod dlawd a than awtocratiaeth ers cyfnod Idi Amin yn yr 1970au. 

Mae pob ffatri gweol wedi cau, er wnaeth gorfodi pobl busnes Asiaid Uganda i adael ddim helpu’r mater. Un o’r rhesymau am hynny yw’r gwaliau tariff ar flociau masnachol sy’n atal gwledydd tlotach rhag cystadlu yn y fasnach nwyddau gorffenedig.

I wneud pethau’n waeth, mae ffenomenon ailgylchu dillad yn y gwledydd cyfoethog, eu danfon mewn bwndeli i farchnadoedd stryd Affrica a’u gwerthu am y nesaf peth i ddim, yn tagu unrhyw gynhyrchaeth lleol. Mae’r byd cyfoethog yn barod iawn i dderbyn yr adnoddau crai ond nid y rhai gorffenedig. Does dim rhyfedd bod Yr Undeb Affricanaidd fel corff ar fin gwahardd dillad ail law yn yr un modd ag y mae Asia yn dechrau gwrthod gwastraff plastig. 

Nid pwrpas datblygiad yw cadw gwledydd yn dlotach neu gynnig modd o wella technoleg amrwd mewn tai gwael llond mwg. Os ydym am waredu ein hamgylchedd naturiol, nid atal datblygiad yw’r ateb ond ei annog a chodi safonau byw. 

Mae’r Affrig yn ymddangos yn dywyll iawn yn y nos ar Google Earth oherwydd cynhyrchiant bachigol egni’r cyfandir. Ond mae 2,500 o gynlluniau pŵer arfaethedig ar y gweill erbyn 2030 yn ôl Prifysgol Rhydychen yn y cylchgrawn ‘Nature Energy’.

Er syndod efallai, mae bron i hanner ohonynt yn gynlluniau glo a nwy naturiol. Mewn rhaglen ar Wasanaeth Byd y BBC y bore o’r blaen cafwyd ystadegyn trawiadol nad oes gan 85 miliwn o bobl Nigeria ffynhonnell drydan o gwbl, sef traean o’r boblogaeth. Er hynny mae’r wlad yn gyfoethog mewn nwy naturiol, gallai godi safonau byw y boblogaeth gyfan a lleihau y pwysau cynyddol ar yr amgylchedd oherwydd llosgi coed tân. 

Erbyn 2030 bydd llai na 10% o bŵer Affrica yn dod o darddellau adnewyddol (ag eithrio hydro) a dau draean, o gynlluniau newydd tanwydd ffosil! Yr imperialydd newydd ar y bloc yw Tseina, sydd yn buddsoddi ar lefel enfawr yn yr Affrig. Yn 2020, yn ôl Reuters, agorodd Tseina bedair gwaith yn fwy o bwerdai glo domestig na gweddill y byd gyda’i gilydd. 

Mae’n bosib bod ein hymwybyddiaeth o’r camau i gyrraedd ‘Zero Rhwydol Carbon’, yn 2050 (2060 i Tseina) mor ddiniwed â’r plentyn a’i garden genhadaeth wrth stepen drws y tai teras yn yr 1960au. Nid yw’r Affrig yn mynd i wrthod cynnig gwelliannau technolegol er mwyn plesio’r naratif ecolegol gorllewinol, does bosib?

Wrth gloi mae gwerth nodi bod yr adran dros ddatblygiad rhyngwladol ym Mhrydain (DFID) wedi newid ei henw’n ddiweddar i’r Swyddfa Dramor, Y Gymanwlad a Datblygiad, sydd yn dysteb i broffwydoliaeth Robin Cook.  

Daw’r prif lun o’r safle yma.

Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau