Y Sôn…
Wel, am fis – Cân i Gymru, comeback un o fandiau mwya’r sîn a dilyniant i un o albyms gorau’r blynyddoedd diwethaf.
Digon i’w fwynhau. Yn ogystal roedd gig arloesol Carwyn Ellis & Rio18 a Kizzy Crawford hefo Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn drît arbennig i godi’r ysbryd wrth i’r haul gychwyn disgleirio arnom, efallai bod amser o hyd i wrando yn ôl ar BBC Sounds, ac mae’n werth dwyawr o’ch amser, gaddo!
Wrth i ni ddechrau teimlo’n fwy gobeithiol am bopeth, rydym wedi cychwyn meddwl am y gigs sydd i ddod, wedi llygadu ambell beth, mewn gobaith.
Mae digon o fwynhad i’w gael o gerddoriaeth beth bynnag, ond does dim yn dod yn agos at ei fwynhau gyda’n gilydd!
Sŵnami yn ôl
Yr hysbysebion ddaru ddal sylw llawer ar noson Cân i Gymru eleni – ac un hysbyseb yn benodol. Dros dair mlynedd ers eu sengl ddiwethaf a dros ddwy flynedd ers eu gig diwethaf, ymddangosodd Sŵnami ar ein sgrins i gyhoeddi eu bod nhw’n ôl!
Wythnos yn ddiweddarach roedd dwy gân newydd gan y band – ‘Theatr’, ac ‘Uno, Cydio, Tanio’ yn llenwi’n clustiau, a braf oedd cael y band indie-pop yn ôl gyda sŵn ffres, cyffrous.
Mae fideo trawiadol i gyd-fynd â ‘Theatr’ hefyd, Tom Rhys Harries sy’n serennu ac mae wedi ei ffilmio ym Mhort Meirion. Mae’n cynnwys yr holl ddirgelwch y buasech yn ei ddisgwyl o’r lleoliad anhygoel!
Mae gennym ni ddigon gan y band i’w fwynhau am rwan, ond mae’n siŵr bod mwy i ddod ac mae gwerth cael sbec ar eu gwefan, swnami.co.uk, i fusnesu yn eu motel.
Albwm reggae Morgan Elwy
Yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ei hun, fodd bynnag, Morgan Elwy oedd y seren wrth i ‘Bach o Hwne’ godi’r genedl oddi ar eu soffas gyda’i churiadau reggae bachog a’r gytgan honno nad yw’n bosib ei chael allan o’ch pen.
Roedd Morgan wedi rhyddhau’r sengl ‘Aur Du a Gwyn’ eisoes, ac mae honno’n gwneud mwy o synnwyr rwan ein bod ni’n gwybod iddo gyfansoddi nifer o ganeuon reggae dros y cyfnod diwethar.
Mae wedi cyhoeddi iddo fod yn brysur yn cyfansoddi ac yn recordio popeth ei hun, ac ar ôl i Mei Gwynedd gymysgu’r holl beth, bydd Teimlo’r Awen yn cael ei ryddhau fis Mai eleni.
Dyma fydd albwm unigol cyntaf Morgan, sydd eisoes yn adnabyddus fel aelod o’r Trŵbz.
Dywed Morgan y bydd yna synau pop a gwerin yn sleifio i mewn i ambell un o’r traciau hefyd, ac mae’n rhestru artistiaid fel Geraint Jarman, Gruff Rhys, Neil Young a Colorama fel ei brif ddylanwadau.
Edrychwn ymlaen felly, am Fwy o Hwne!
ADOLYGIAD:
CARWYN ELLIS – MAS
Unwaith eto cawn sain a chymeriad unigryw – gwych!
Yn union fel y mae Carwyn yn taflu’r holl gynhwysion mewn powlen yn y gân ‘Cwcan’, mae’n taflu llu o ddylanwadau a synau o America Ladin mewn crochan enfawr yn ei ail albwm gyda Rio 18, sef Mas.
Creodd Carwyn argraff sylweddol ar ffans yr albwm cyntaf, Joia!, ac roedd ei berfformiadau byw yn y cyfnod hwnnw yn rhai hynod gofiadwy hefyd.
Unwaith eto, ceir yma gydbwysedd rhwng y senglau mwyaf canadwy, fel ‘Ar Ôl y Glaw’ a ‘Lawr yn y Ddinas Fawr’, sydd yn dilyn ôl troed ‘Duwies y Dre’ a ‘Tywydd Hufen Iâ’ o’r casgliad cyntaf, ac yna’r caneuon mwy atmosfferig a rhythmig fel ‘Golau Glas’ a ‘Hedyn ar y Gwynt’.
Mae’r drymiau a’r offerynnau taro yn berffaith drwyddi draw, wrth iddyn nhw blethu’r curiadau o drac i drac, a’r lleisiau cefndirol hefyd yn chwarae rhan allweddol yng nghymeriad unigryw y sain, yn enwedig wrth i Elan Rhys serennu yn ‘Y Cariadon’, a Nina Miranda’r un fath yn ‘Cwmwl Pluog’.
O Bossa Nova Joao Gilberto i guriadau rhythmig cerddoriaeth rhaglenni heddlu Americanaidd o’r 70au, mae ‘na amrywiaeth eang iawn yma sydd yn creu taith ryngwladol mewn cyfnod lle nad yw hynny’n bosib.
Am eiliad, wrth wrando ar Carwyn Ellis, Tudo Bem. A cofia… Joia.. Mas… Draw! 8/10
Cerddoriaeth newydd gan The Trials of Cato… ac aelod newydd hefyd
Mae’r rhai sydd wedi bod yn ddigon lwcus i weld The Trials of Cato yn chwarae’n fyw yn gyfarwydd â chyffro curiad eu sain – cyfuniad tanbaid a rhythmig o’r oesol a’r cyfoes.
Y sain unigryw yma sydd wedi arwain at naid y band o’u hymddangosiadau cynnar ym mariau Beirut, Libanus, i ennill albym y flwyddyn 2019 BBC Radio 2 mewn dim ond tair blynedd – hynny, ynghyd â chymariaethau annisgwyl â rhwysg Led Zeppelin a haerllugrwydd y Sex Pistols.
Yn dilyn blwyddyn ddi-baid o deithio ar draws y DU, Ewrop a Gogledd America yn 2019, daeth y teithio i ben gyda thawelwch llethol y pandemig byd-eang.
Ond dyma nhw’n dod i’r golwg eto, wedi’u trawsnewid a gyda sawl record gyffrous newydd i’w rhyddhau dros y flwyddyn.
Fel ag erioed ‘The Trials of Cato’ fyddan nhw – ond y tro hwn bydd yr offerynnydd a’r gantores aml-dalentog, Polly Bolton, yn ymuno â nhw, yn lle Will Addison, sy’n gadael y band. Yn berfformiwr gwych yn dechnegol ac yn garismataidd mae Bolton wedi ei disgrifio gan BBC Radio 6 Music fel ‘virtuoso exponent of mandolin, banjo and Irish bouzouki’
Yn ddiweddar mae’r band ar ei newydd wedd wedi rhyddhau eu deunydd cynta – Bedlam Boys – ‘mad song’ hiraethus a llawn dirgewlch o’r 17eg ganrif.
Er bod y triawd, sy’n perfformio yn y Gymraeg a Saesneg, wedi eu trwytho yng nghefndir cyfoethog cerddor iaeth draddodiadol mae Bedlam Boys yn enghraifft berffaith o’u hymrwymiad i ysgwyd y traddodiad i’w esgyrn er mwyn creu rhywbeth mwy cyfoes a deniadol.
Mae disgwyl mawr am ail albwm y band, sydd i’w ryddhau yn hwyrach eleni.
Mae’r albwm, Gog Magog, yn cael ei enw oddi wrth cawr mytholegol y chwedlau Arthuraidd a chopa yn Swydd Caergrawnt, lle cafodd cerddoriaeth yr albwm ei greu yn ystod y cyfnod clo.
Yn dilyn tawelwch llethol gorfodol 2020 mae The Trials of Cato yn falch o’r cylfe i gyflwyno cerddoriaeth newydd o’r diwedd – rhai darnau wedi eu creu o’r newydd ac eraill yn dychmygu’r traddodiad Prydeinig o’r newydd.
Recordiwyd Bedlam Boys gan Isaac Mcinnis, ei gymysgu gan Donald Richard, a’i fastro gan John Davis. Ffilmiwyd y fideo yn Cambridge Junction gan Matt Coles.
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.