Mae’n hen bryd i bobol Cymru ddod at ein gilydd yn lleol a chenedlaethol i brynu tir a thai Cymru ar y cyd – Gruffydd Meredith

Barn

gan Gruffydd Meredith

Gyda phopeth sydd yn mynd mlaen yn y byd mae’n weddol amlwg erbyn hyn fod angen, yn fwy nag erioed, i ddinasyddion Cymru ddod at ein gilydd er mwyn prynu ffermydd, tir a thai Cymry ar y cyd. 

Neu hyd yn oed bentrefi cyfan neu fwy. Nid model comiwnyddol pen yn y cymylau iwtopaidd neu unbenaidd yw hwn, ond cynlluniau pragmataidd ble mae posib i’r Cymry gyfrannu neu fuddsoddi mewn cronfa er mwyn prynu ar y cyd.  

Nid chwaith, yn ôl ei ddiffiniad ffurfiol, gynllun sosialaidd sydd ei angen o anghenraid gan nad oes rhaid cael sêl bendith neu reolaeth unrhyw lywodraeth ar gyfer cynlluniau o’r fath.  

Mae’n ymddangos fod Llywodraeth Cymru a nifer o wleidyddion  Cymru hyd yma yn rhy ofnus i gefnogi menter o’r fath neu i ddeddfu ar gyfer tai gyda blaenoriaeth – o bosib rhag ofn i  gyfryngau chwith rhyddfrydol ac adain dde Seisnig Lloegr eu galw, och, a gwae, yn ‘genedlaetholwyr’ neu yn ‘blwyfol’. Neu ‘hiliol’, cul a digroeso wrth gwrs. O na, mae ar ben arnom, mae’r Guardian a’r Mail yn ein barnu!                     

Ond mae Llywodraeth bresennol Cymru yn fwy na hapus i fynd  ymlaen â’r cynllun i adeiladau degau ar filoedd o dai newydd yng Nghymru, a dydy bron iawn yr un o’r rhain yn rhoi unrhyw flaenoriaeth i bobol leol neu ddinasyddion Cymru yn gyffredinol.

Mae sôn mawr am ‘dai fforddiadwy’ ond dydi hyn ddim yn golygu didli scwot gan mai jisd tai yn cael eu gwerthu am ychydig yn llai na phris honedig y farchnad yw’r rhain, dim byd i‘w wneud gyda blaenoriaethu pobol Cymru.

Ac nid oes eto unrhyw reolaeth ar yr holl wefannau sy’n gwerthu tai Cymru i unrhyw un yn y byd heb iddynt hyd yn oed weld y tŷ mewn person – rhywbeth arall sydd angen ei stopio. 

Unwaith eto mae o i fyny i bobol Cymru ymladd dros hawliau sylfaenol plwy a chenedl, fel rydym wedi gwneud ers tair mil o flynyddoedd a mwy. 

Ac, hyd yn oed o dan sefyllfa wan datganoli, er y galle’r Llywodraeth Gymreig bresennol gymeryd rhan yn y fath gynllun i warchod tai Cymru petai’r dychymyg a’r bwriad gwleidyddol yn bodoli, un o gryfderau syniad cronfeydd tai a thir ydi y gall grwpiau bach neu fawr o ddinasyddion neu gymunedau Cymru arwain a rheoli’r cynlluniau. 

Cynlluniau a alle fod unai yn rhai cydweithredol neu gydfuddiannol, ble mae elw yn cael ei rannu yn gyfartal rhwng pawb.

Neu yn ffordd syml i bobol hel digon o arian ar y cyd er mwyn gallu cael darn o dir preifat neu dai i’w hunain er mwyn gwneud â nhw fel y mynnent. Mae ein system gyfalafol bresennol yn galluogi y dewisiadau amrywiol yma i bawb heb orfod gwthio unrhyw ideoleg ddogamataidd ar neb. 

Mae pethau tebyg yn gynyddol ddigwydd yn organig yn barod yng Nghymru gyda tafarndai lleol yn cael eu prynu a’u rhedeg fel tafarndai cymundeol er budd y gymdeithas. 

Ac mae prosiectau creu egni lleol wedi bod yn llwyddiannus yn ogystal. 

Ac nid oes rhaid i bobol fod yn hynod o gyfoethog i gyfrannu at gynlluniau o’r fath. Dychmygwch y posibiliadau o greu cronfa neu gronfeydd ar raddfa genedlaethol neu leol.  Ar ei lefel symlaf be am i 5 o bobol ddod at ei gilydd gyda thua £500 yr un i brynu tua hanner acer o dir ar y cyd er mwyn tyfu bwyd i’w hunain a’u teuluoedd.

Neu be am i 50 o bobol ddod at ei gilydd i roi £5,000 yr un i brynu ffarm leol gyda thipyn o dir am £250,000 dweder. Neu 200 o bobol yn rhoi £5,000 yr un ar gyfer prynu fferm a thir sylweddol gwerth £1,000,000 o bunnoedd neu brynu pum tŷ mewn pentref. 

Ar lefel fwy eto, be am i 10,000 o bobol gyfrannu £5,000 yr un i hel £50 miliwn i brynu pentref cyfan o 250 o dai ar bris cyfartaledd o £200,000 y tŷ? Neu nifer sylweddol o dai mewn tref neu ddinas hyd yn oed. Pam ddim? 

Yn araf deg galle cynlluniau o’r fath ailfeddiannu nifer o bentrefi cefn gwlad a nifer fawr o dai yn nhrefydd a dinasoedd Cymru. A gwneud yn siŵr fod y tai yma ar gael i’w rhentu neu werthu i bobol sydd wedi eu geni a’u magu yn lleol neu genedlaethol yn unig – neu wedi byw neu weithio yn y gymuned leol neu yng Nghymru am o leiaf ddeng mlynedd. 

Dyma’r un amodau a’r rhai sydd argyfer cais i fod yn ddinesydd y DeyrnasGyfunol a’r un math o reoliadau rhesymol sydd i’w gweld yn y mwyafrif llethol o wledydd y byd. A phan fyddwn yn wlad rydd eto mi allwn ehangu llawer mwy ar y syniad os oes cefnogaeth gyhoeddus ddigonol iddo. 

Neu falle mai prynu Lamborghini newydd fydde nod llawer. Am tua £3,000 yr un mi ddyle 50 o bobol allu dod at ei gilydd i wireddu’r freuddwyd honno – er mae sut i gael trefn ar benderfynu pa liw neu bwy sydd yn cael mynd â’r bwystfil allan ar ddyddiau brafiaf yr haf yn gwestiwn arall. 

Ynden, mae’r posibiliadau yn  ddiddiwedd. Mae’n bryd dechre gwneud. 

Er nad oes gennai sacheidiau’n llawn arian i’w taflu i’r awyr ar hyn o bryd, mi fyswn wrth fy modd yn cyd drafod y syniad a’r posibiliadau os oes gan rywun ddiddordeb trafod datblygu hyn ymhellach – gallwch fy ffindio ar tarwdu@hotmail.com. 

Neu, anwybyddwch fi ac ewch  amdani efo pobol ‘de chi’n eu hadnabod yn barod, neu gyrrwch lythyr neu ddatganiad i Y Cymro i ennyn diddordeb mewn prosiect lleol i brynu ar y cyd. 

Os nad ydi’r Llywodraeth yn mynd i ddiogelu tir a thai ein gwlad yna mi fydd angen i ni eu hail hawlio ein hunain unwaith eto, plwy wrth blwy. 

Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol drwy ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau