gan Huw Thomas
Cafwyd cip y tro diwethaf ar sefyllfa’r byd modurol. Erbyn diwedd 2020 daeth rhai mentrau drwyddi’n rhyfeddol dda. Cyhoeddodd y Financial Times arolwg yn ddiweddar o’r sawl a lwyddodd ar waethaf y dymestl.
O fyd technoleg/uwch-dechnoleg y daw blaenoriaid y 100 llwyddiannus, wrth gwrs. Yna daw sêr yr economi ddigidol – prynu a gwerthu ar-lein, logisteg a chyllid.
Yn eu plith mae tri o gynhyrchwyr ceir a nifer o ddarparwyr cydrannau (batrïau yn amlwg), cyfarpar cyfrifiadurol, ac ati.
Daw dau o’r tri chwmni ceir o Tsieina: BYD a Geely. Ond rhif 1 yr arolwg (cyfan) yw’r mwyaf adnabyddus – Tesla, UDA.
Nodwyd ffyniant marchnad stoc UDA ddiwedd y llynedd hefyd wrth holi ai tŷ a godwyd ar dywod yw hwnnw.
Gwelwyd ‘gwerin gwlad a thref’ yn chwyddo ‘gwerth’ cwmnïau drwy ymgynnull ar y cyfryngau cymdeithasol, fel gyda helynt diweddar GameStop.
Mae mwy o sylwedd i Tesla. Camp y sylfaenydd, Elon Musk, fu denu cefnogwyr sy’n ‘credu yn yr achos’ rhagor buddsoddwyr confensiynol.
Ac ar eu hennill fu’r sawl brynodd yn gynnar ac aros yn driw. Ond bu rhywfaint o ‘drai wedi’r llanw’ wrth i’r elw diweddaraf siomi. Ac yna daeth sôn am drafferthion gyda’r awdurdodau yn Tsieina.
Serch adeiladu rhyw hanner miliwn o geir y llynedd mae stoc Tesla’n uwch na chyfanswm 6 neu 7 cwmni ceir mwyaf y byd megis Toyota, Volkswagen ac ati.
Argyhoeddwyd llawer gan dechnoleg batri-drydan Tesla, sy’n bell ar y blaen meddid.
Mwy cadarn fu adferiad cyffredinol economi Tsieina a busnesau’r wlad yn amlwg yn arolwg yr FT. Dyma farchnad geir fwyaf y byd bellach; mae UDA yn ail iddo. Hwyrach mai arafu rywfaint wna twf economaidd y wlad ond dal i gynyddu fydd hi ym marn llawer.
Mae miliynau o bobl o hyd sydd ar fin gallu fforddio prynu car.
Oddi yno y daw cyfran helaeth o elw cwmnïau megis Grŵp Volkswagen, BMW a Daimler (Mercedes-Benz) eisoes, a rhagweld ffyniant tymor hir maen nhw.
Yn ôl pob tebyg Tsieina fydd economi fwyaf y byd maes o law, a marchnad gyfalaf fwyaf y byd hefyd medd rhai, gan ennill y blaen ar Efrog Newydd a Llundain.
Yn hanfodol i ddatblygiad mae cael gafael rhwydd ar gyllid – sydd yn allweddol i’r byd modurol.
Un o gwmnïau preifat mwyaf Tsieina yw BYD (‘BYD Company Ltd.’). Mae’n flaenllaw ym myd ynni a thrafnidiaeth.
Ar gerbydau batri-drydan megis Tesla mae’r pwyslais. Ond mae’n cynhyrchu feniau masnachol ysgafn, tryciau trwm a thractorau hefyd.
Cyhoeddwyd ei gynllun ar gyfer Ewrop y llynedd – mae ceir i ddechrau cael eu lansio yn Norwy (sydd â’r ganran fwyaf o geir trydan) cyn mentro i diriog- aeth Undeb Ewrop ei hun. Dau gar sydd yn yr arfaeth sef y Tang EV600 (SUV) a’r Han EV (sedan).
Uchelgais y cwmni yw cystadlu â dethol-geir megis BMW, Mercedes, Audi, Lexus (Toyota), Acura (Honda UDA), Infiniti (Nissan) ac ati. Cysur, doniau deinamaidd a thechnoleg chwimdra yw penawdau’r neges farchnata.
Geely yw cwmni ceir mwyaf Tsieina sydd dan berchnogaeth breifat.
Mae yn safle rhif 5, tu ôl VW, Toyota, Honda a Nissan – y cyfryw’n (gorfod) gweithredu yno drwy gyd-fentrau.
Prynu cwmnïau tramor a’u datblygu fu dull Geely: Ceir Volvo (2010); Tacsi Du Llundain (LEVC – London Electric Vehicle Co.); Proton a cheir campau Lotus (2017).
Ar y cyd â Volvo ffurfiodd is-gwmnïau Polestar a Lynk & Co. Car chwim (â batri trydan) yw’r Polestar a ddaw o Tseina ond sy’n ddigon ‘Ewropeaidd’ i’w allforio.
Felly hefyd Lynk & Co, sydd o Tseina eto ond â golwg ar werthu dramor.
Er nad yn arolwg y FT dylid crybwyll SAIC (Shanghai Motor). Dan eiddo’r wladwriaeth ac yn bartner i VW yn Tseina mae’n gwmni ceir enfawr ei hun. Cafodd feddiant ar enwau MG Motor ac LDV (Leyland Daf Vans, ‘Maxus’ bellach) wedi chwalfa Rover.
Er ei fewnforio o Tseina, cafodd MG gryn hwyl yma’r llynedd er gwaethaf yr amgylchiadau.
Prif lun: Model S Tesla – £58,600 y rhataf
Ewch i wefan Gohebwyr Moduro Cymru am fwy ar foduro: http://www.motoringwriters.com/
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.