gan Sioned Dafydd
Mae’r cyfarwyddyd i sefyll yn llonydd yn yr unfan tra bod rhywun mewn fest high-vis yn pwyntio gwn tymheredd tuag ataf yn dal i fy synnu hyd heddiw.
Am ryw reswm bob tro dwi’n wynebu’r gwn rwy’n cau fy llygaid fel pe bai’r peth ar fin chwistrellu dŵr yn fy wyneb, diolch byth nad yw hynna erioed wedi digwydd.
Dwi ddim yn credu ei bod hi’n bosib dod i’r arfer yn llwyr â’r protocolau o weithio ar gemau pêl-droed, rygbi nac unrhyw gamp yn ystod pandemig.
Rhaid i mi gyfaddef, mae’n fraint enfawr cael mynychu’r gemau ond mae yna rywbeth eithaf torcalonnus am yr holl beth hefyd.
Fydd y rhan fwyaf ohonoch chi sy’n darllen hwn heb droedio mewn i stadiwm ers mis Mawrth llynedd siŵr o fod, ond credwch chi fi does dim byd mwy trist na bod mewn stadiwm yn gwylio gêm â’r lle’n hollol wag.
Bydd yr atgofion o’r gwacter hwn yn sicr o aros gyda fi am byth.
Mae’r gemau hefyd yn teimlo bach yn ddibwrpas. Cefnogwyr yw asgwrn cefn pob camp a heb ruo ffyrnig y dorf wrth i dîm sgorio gôl yn eiliadau olaf y gêm i gipio’r fuddugoliaeth dwi’n aml yn meddwl i fy hun: “Beth yw’r pwynt?”
Er gwaethaf ymdrechion gorau’r clybiau i greu awyrgylch artiffisial mae’r normal newydd yma yn bell iawn o’r profiad cyfarwydd a chyffrous mae pob un ohonom yn ei garu.
A thra dwi yma dwi am ddweud diolch yn fawr i’r clybiau a’u staff, sydd wedi bod o help ac yn gysur enfawr yn ystod y misoedd diwethaf. Mae eich gwaith caled a’ch caredigrwydd wedi bod yn amhrisiadwy i ni fel darlledwyr.
Mae yna ambell i beth positif wrth gwrs. Y peth mwyaf annisgwyl yw’r teimlad newydd o agosatrwydd tuag at y chwaraewyr.
Dwi’n cofio gohebu ar gêm Tottenham yn erbyn Reading yn Uwch Gynghrair Merched Lloegr i’r BBC ychydig fisoedd yn ôl. O’n ni’n eistedd reit tu cefn i’r fainc ac roedd y lle mor ddistaw roeddwn i’n gallu clywed pob gair roedd y chwaraewyr yn dweud wrth ei gilydd.
Fflipin’ hec o’n i mor agos i’r fainc dwi’n siŵr taswn ni wedi gallu rhoi bib ymlaen a dechrau cynhesu gyda’r tîm.
Rhywbeth arall sy’n hynod ddiddorol yw clywed pa fath o gyfarwyddiadau mae rheolwyr yn sgrechian at eu chwaraewyr yn ystod gêm, rhywbeth na fyddwch chi byth yn cael clywed mewn stadiwm llawn cefnogwyr.
Mike Flynn, rheolwr Casnewydd, yw fy ffefryn personol o ran hyn ond yn anffodus fyddai ailadrodd yr hyn dwi wedi clywed ganddo yn ystod gemau ddim yn iawn ar gyfer y golofn hon!
Erbyn hyn mae blwyddyn ers i ni weld torfeydd mewn gemau. Hoffwn feddwl na fydd unrhyw ohebydd na chefnogwr yn cymryd y profiad o wylio chwaraeon byw yn ganiataol byth eto.
Ond ar hyn o bryd mae’n rhaid i ni neud popeth o fewn ein gallu i gadw pawb yn saff.
Ac am y tro fe wna i barhau i gau fy llygaid rhag ofn, jyst rhag ofn, bod y gwn tymheredd yn fy chwistrellu gyda dŵr rhyw ddydd.
Prif lun gan Jon Candy drwy drwydded (CC BY-SA 2.0)
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.